Ai ysbryd Dylan Thomas fu'n codi ofn yn BBC Abertawe?

Dylan Thomas
  • Cyhoeddwyd

Doedd y cynhyrchydd a chyflwynydd radio Daniel Jenkins-Jones erioed yn un i gredu mewn straeon ysbrydion. Ond wedyn dechreuodd weithio yn adeilad y BBC yn Abertawe, a phrofi digwyddiadau allai o ddim eu hesbonio.

Ac mae'n debyg mai Dylan Thomas oedd tu ôl i'r cyfan.

Sŵn traed yn y nos...

"Wyt ti 'di gweld Dylan eto?"

Dyna oedd y cwestiwn gan gydweithwyr newydd Daniel pan ddechreuodd weithio yn BBC Abertawe, ddechrau'r 90au.

Roedd Dylan Thomas wedi recordio llawer o'i farddoniaeth yno, yn 32 Heol Alexandra dros y blynyddoedd, a'r bardd o Gwmdonkin Drive oedd yn cael y bai am yr holl bethau rhyfedd oedd yn tueddu i ddigwydd yno.

"Roedd llawer iawn o'r rhaglenni oedd yn dod o BBC Abertawe naill ai'n hwyr iawn yn y nos neu'n gynnar iawn yn y bore, felly roedd pobl yn gweithio 'na yn aml iawn ar eu pen eu hunain," esboniai Daniel.

"Roedd pethau rhyfedd yn digwydd fel y llungopïwr yn cael ei switsho 'mlaen, pan oedden nhw'n gwybod yn iawn ei fod e i ffwrdd. Pan oedden nhw'n gweithio yn y stiwdio lawr stâr, clywed rhywun yn cerdded lan stâr ac o'n nhw'n gwybod mai nhw oedd yr unig rai yn yr adeilad.

Heol Alexandra
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd y BBC ddarlledu o 32 Heol Alexandra yn Abertawe ar 12 Rhagfyr 1924. Roedd rhaid gwneud gwaith adfer sylweddol ar ôl i'r adeilad gael ei ddinistrio gan fomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd

"Yn y coridor lan stâr, roedd 'na dead end – ond roedden nhw'n clywed pobl yn cerdded, a byth yn clywed nhw'n cerdded ffordd nôl."

Cofiai Daniel fod un o'i gydweithwyr wedi clywed criw o blant yn chwerthin ac yn rhedeg o gwmpas y lle i lawr y grisiau am tua 6am, ond pan aeth i edrych, doedd yna neb yna...

Y dyn â'r bochau coch

Doedd Daniel ddim wir yn gwybod beth i'w feddwl o'r holl beth, ac yn credu efallai mai Larry, y dyn oedd yn cloi'r adeilad, oedd yn anghofio diffodd y llungopiwyr.

Ond un noson, cafodd Daniel ei ddychryn yn ofnadwy:

"O'dd hi tua 10.30pm, ac o'n i'n gwybod mai dim ond fi oedd yn yr adeilad. O'dd 'da fi headphones ymlaen, ond o'n i'n gallu gweld y wyneb 'ma yn pipo arna i drwy'r ffenest yn y drws tu ôl i fi.

"O'n i'n meddwl, 'mae Larry wedi dod i gloi'r stiwdio, a bydd rhaid i fi ddianc'. Pan 'nes i droi rownd i edrych, oedd y wyneb ddim 'na.

Daniel Jenkins-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel Jenkins-Jones wedi trafod llawer am y profiadau rhyfedd yn BBC Abertawe dros y blynyddoedd... ond dydy o dal ddim yn siŵr beth oedd tu ôl i'r cyfan

"O'n i'n meddwl fod Larry yn tynnu nghoes i. 'Nes i gario 'mlaen i weithio.

"Wedyn gweld yr wyneb allan o gornel fy llygad i unwaith eto. Troi i edrych, ac oedd e wedi mynd. Cario 'mlaen, gweld y wyneb ond tro 'ma, 'nes i ddim troi mhen a thrio gweld gymaint ag o'n i'n gallu – a gweld y wyneb bochgoch 'ma yn edrych arna i, drwy'r ffenest.

"Nage Larry oedd e.

"Ges i lond twll o ofn. Yn anffodus, yr unig ffordd mas o'r adeilad oedd drwy'r drws lle oedd yr wyneb yn edrych arna i. Dwi'n cofio cicio'r drws a tasgu mas a nôl gartre.

"Alla i ddim esbonio pwy neu beth oedd yn edrych arna i drwy'r ffenest – mae dal yn hala fi i deimlo ofn hyd heddiw."

Calan Gaeaf Kevin a Nia

Gymaint oedd y straeon am ddigwyddiadau arallfydol BBC Abertawe, fel bod un o raglenni Radio Cymru wedi penderfynu darlledu rhaglen arbennig oddi yno, ar noson Calan Gaeaf.

Er mai sioe frecwast oedd Rhaglen Kevin a Nia fel arfer, dyna ble'r oedd y cyflwynwyr - Kevin Davies a Nia Lloyd Jones, Daniel y cynhyrchydd a chriw sain, ar noson olaf mis Hydref yn y flwyddyn 2000, yng nghwmni dau gyfryngwr (medium) yn barod i recordio, a gweld beth fyddai'n digwydd.

Kevin a Nia
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kevin a Nia brofiadau rhyfedd ac arallfydol wrth recordio rhaglen Calan Gaeaf arbennig yn 2000

Ac awr cyn y darlledu, dechreuodd pethau droi'n rhyfedd, eglurai Daniel.

"O'dd y ddau medium yn dweud fod yr ysbrydion yn y swyddfa, a nawr oedd yr amser i siarad gyda nhw.

"Oedden nhw mewn rhyw fath o trance. 'Naeth un ddweud bod 'na dri ysbryd: mam, merch ifanc a hen forwr, oedd wedi cwympo mas. Roedd e'n sgwrsio gyda'r ysbryd oedd tu fewn i'w gorff e.

"Rhaid i mi gyfadde', 'nes i chwerthin, ond yn raddol, roedd pethau'n mynd yn fwy difrifol. O'n i'n gallu gweld fod llygad y medium ar gau, ond dros ei lygaid e, o'n i'n gallu gweld llygaid menyw ifanc.

"Wedyn dyma'r hen forwr yn mynd mewn i gorff y medium. O'n i'n gallu gweld barf gwyn ar wyneb y boi, o'dd ddim yn bodoli cyn hynny.

"O'n i'n dal y meicroffons yn recordio pob dim, yn trio bod yn dawel – ond ar y recordiad, dwi'n meddwl allwch chi glywed fi a Kev yn rhoi ebychiad o sioc yr un pryd."

Nid y bobl oedd yno oedd yr unig rai i brofi'r digwyddiadau rhyfedd; roedd technoleg wedi cael ei effeithio hefyd, gyda sŵn hisian anesboniadwy wedi ymddangos ar y recordiad, a'r gwe-gamera oedd wedi ei osod i weld unrhyw symudiadau ysbrydol, wedi stopio gweithio heb reswm.

Gwrando: Clip o raglen arbennig nos Calan Gaeaf 2000

Ac nid dyna oedd diwedd digwyddiadau anesboniadwy y noson. Pan oedd y rhaglen ar yr awyr, soniodd y cyfryngwyr eu bod nhw wedi dod ar draws ysbryd arall, a'i ddisgrifio fel dyn bochgoch...

"Ond o'n i ddim wedi dweud wrth y mediums beth o'n i 'di weld," mynnai Daniel, "felly doedd dim modd iddyn nhw wybod am y disgrifiad o'r ysbryd o'n i 'di weld o'r blaen.

"Roedd Kev yn gwybod, felly dyma fe'n cael llond twll o ofn, ac roedd e wedi colli'r holl sinicaeth. Beth oedd yn mynd ymlaen? Dwi'n methu ei esbonio fe, a dyna sy'n achosi penbleth."

Ai Dylan Thomas oedd y dyn bochgoch, a oedd yn awyddus i gael serennu ar y radio unwaith eto? Pwy a ŵyr.

Dylan a'r diafol

Eleni, mae hi'n 25 mlynedd ers i'r rhaglen gael ei recordio, a daeth Daniel, Kevin a Nia ynghyd i hel atgofion ar raglen Caryl ar BBC Radio Cymru, am y noson sy'n parhau yn fyw yn y cof.

"Er bod y lle wedi bod yn llawn ysbrydion do'n i ddim yn teimlo ofn," meddai. "Dwi 'di adrodd y stori llwyth o weithiau a bob tro dwi'n cael goosebumps, ond do'n i ddim yn teimlo ofn y noson honno.

"Ond o'dd hi un o nosweithiau mwyaf bizarre bywyd fi."

Wythnosau ar ôl y darllediad, cofiai Daniel ei fod wedi gorfod talu'r bil am logi'r stiwdio a'r criw sain. A'r cyfanswm?

"Pris y noson oedd £666. Rhif y diafol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb