Dirgelwch creadur y Boggit yng Ngheredigion

Dyma lun o'r Boggit chwedlonol
- Cyhoeddwyd
Ar draws y byd ac ar hyd yr oesau mae straeon wedi'u rhannu am greaduriaid ac angenfilod anhygoel.
Mae'r Basilisk - sy'n hanner ceiliog a hanner neidr - yn ardal Môr y Canoldir, a'r Kishi yn Angola sy'n hanner dyn a hanner hyena, ac yn agosach at adre, ers canrif a mwy mae rhai'n taeru eu bod nhw wedi gweld anghenfil yn Llyn Tegid, Y Bala.
Ond mae un creadur wedi codi arswyd ar drigolion un cornel arbennig o Geredigion ers degawdau os nad yn hirach, y Boggit.
Mewn rhaglen arbennig i BBC Radio Cymru a BBC Sounds, Trystan ab Ifan aeth ar drywydd y gath fytholegol i weld os oedd gwirionedd yn y stori.
Cath Gorniog y Corsydd
Roedd y Boggit yn gath wyllt oedd mor brin fel nad oedd yr Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain yn gwybod am ei bodolaeth hi.
Er hyn, roedd ganddi enw Lladin unigryw, fel pob dim arall ym myd natur - Felis Bicornae Machairodontinae neu Cath Gorniog y Corsydd.
Cath oedd hon oedd yn achosi'r fath arswyd roedd trigolion lleol yn ofni mynd allan o'u tai liw nos.
Aeth hyd yn oed criw teledu rhaglen Bilidowcar allan i geisio ei ffilmio hi ar gyfer rhaglen arbennig yn yr 80au.

Roedd pobl yn honni eu bod yn gweld y Boggit yng Nghors Caron
Un person oedd yn honni ei fod yn gwybod am ac wedi gweld y Boggit oedd y diweddar John Jones o Bantyfedwen.
Dyma'n dweud mewn cyfweliad yn 1988 am ei brofiadau:
"Ma' fe'n hen hanes, roedden nhw'n byw yn y corsydd, yng Nghors Caron, ac yn bwyta popeth yn y tyddynod.
"Pan oedd pobl yn ei gweld nhw'n dod fewn i'r dyddyn, roedden nhw'n gwaeddi 'y gath, y gath, y gath' ac roedd pobl yn cwrso pastwn neu bwyell er mwyn eu hala nhw nôl lawr i'r corsydd.
"Roedd hyn yn yr hen Gymru, cyn y Rhufeiniaid, yn ystod oes y Celtiaid oedd yn byw ar y mynydd yma.
"Fi wedi gweld hi fy hunain tua pum mlynedd yn ôl, dau gorn a dannedd mawr ganddi; 'the sabre tooth cat'," meddai.
Cyfweliad John Jones Pantyfedwen o 1988 yn sôn am ei brofiad o weld y Boggit
Ffrwyth dychymyg?
Ond oedd y Boggit yn bodoli go-iawn? Oedd 'na gath wyllt yn crwydro mynyddoedd a chorsydd Ceredigion, neu stori wneud oedd y cyfan?
Roedd honiad fod y Boggit wedi'i ddal gan John Jones a fod ganddo'r corff i brofi hynny. Roedd y llun wedi'i rannu ar draws Cymru a phobl yn rhyfeddu fod cath wyllt gyda streipiau melyn, cyrn a dannedd mawr wedi'i dal yng nghefn gwlad Ceredigion.
Ond o ble ddaeth y gath yma?
Dyma oedd gan Jasmine a Shân, merched John Jones i'w ddweud am straeon eu tad.
"Lynx oedd e wedi'i stwffio, brawd Dad gafodd e. Prynwyd y gath 'ma mewn rhyw hen siop yn Llundain, fe wnaeth Hugo, brawd dad roi'r cyrn a'r dannedd arno fe ac fi wnaeth baentio'r cylchoedd melyn arno fe," meddai Shân.
"Roedd Dad hefyd yn hoffi dweud storis yn y pyb hefyd ac roedd pobl yn prynu peints iddo fe i gadw fe fynd.
"Roedden nhw bach yn bored yn gaeaf felly roedden nhw'n gwneud pethau fel hyn i fyny. Roedd Dad wedi creu rhyw stori," medd Jasmine.

Llun wedi'i dynnu o'r Boggit neu'r gath gafodd ei stwffio
Wrth i fwy a mwy o bobl glywed y stori, fe dyfodd y chwedloniaeth, ond mewn gwirionedd, cath wedi ei stwffio oedd y Boggit a stori oedd yn nychymyg yr hen goedwigwr poblogaidd, John Jones.
Yr hyn oedd yn drawiadol oedd bod John Jones wedi mynd i gymaint o ymdrech ac wedi cadw nid yn unig hanes y Boggit yn fyw ond wedi ychwanegu at y stori, tamaid wrth damaid gydag amser.
Hyd heddiw mae pobl yn dal i sôn am y Boggit, yn adrodd y chwedl a dangos y llun i'r rheiny sy'n fodlon gwrando a choelio mewn stori wneud.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Ionawr

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
