Hilda Murrell: 'Trio dod â'r gwir i'r wyneb'

David WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

David Williams

  • Cyhoeddwyd

"Dwi weithiau'n teimlo bod fi'n 'nabod Hilda Murrell yn dda iawn – dyma ni 40 mlynedd ers ei llofruddiaeth dal yn siarad amdani hi. Mae ei henw hi a phopeth wnaeth hi cyn iddi gael ei lladd yn dod i'r wyneb unwaith eto i atgoffa chi fod rhywun wedi lladd dynes arbennig."

Yn 1984 llofruddiwyd yr ymgyrchydd gwrth-niwclear Hilda Murrell a chafodd ei chorff ei ddarganfod mewn coedwig ar gyrion Amwythig tridiau ar ôl iddi ddiflannu.

Mwy na pedwar deg mlynedd yn ddiweddarach mae cwestiynau'n dal i gael eu gofyn am y ddynes 78 oed a beth yn union ddigwyddodd iddi ar y diwrnod hynny ym mis Mawrth 1984.

Hilda MurrellFfynhonnell y llun, Hilda Murrell
Disgrifiad o’r llun,

Hilda Murrell

Gyda rhai yn amau bod y gwasanaethau cudd yn gysylltiedig â'i marwolaeth, mae rhaglen newydd ar S4C Pwy laddodd Hilda Murrell? yn edrych i mewn i'w stori.

Un fu'n gweithio ar y stori ar y pryd ar gyfer rhaglen Wales This Week yw'r newyddiadurwr David Williams, fu'n siarad gyda Cymru Fyw.

Dywedodd: "Mae'n 40 mlynedd a'r peth wnaeth daro fi yn edrych yn ôl ydy does 'na ddim byd llawer wedi newid."

Mae David yn cofio ymateb yr heddlu i'r llofruddiaeth: "Y cwestiwn mawr oedd pam oedd yr heddlu wedi cymryd 3 diwrnod cyn mynd i edrych am Hilda?

"Roedd yr heddlu yn gwybod bod y car bron ar ei ochr yn y ffos y diwrnod cyntaf. Oeddan nhw'n dweud fod nhw wedi gyrru plismon i'r tŷ a bod o wedi ffeindio'r drws ar agor a golau ymlaen ond dim byd o'i le.

Llun o gar Hilda Murrell wedi iddi ddiflannuFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Llun o gar Hilda Murrell wedi iddi ddiflannu

"Beth oedden nhw'n dweud oedd fod rhywun wedi torri mewn i'w thŷ a bod pwy bynnag oedd yn gyfrifol wedi rhoi hi yn ei char ei hun, rhoi het ar ei phen hi a dreifio hi drwy'r dre, heibio'r orsaf heddlu ac allan i'r wlad a thynnu hi allan o'r car a mynd a hi ar draws cae mwdlyd yng nghanol dydd, mewn i'r goedwig a gadael iddi farw o'r oerfel.

"Oeddan ni wedi cyfweld efo'r dyn oedd bia y tir yma ac oedd o yn y coed efo'i gŵn ar y diwrnod oedd yr heddlu yn dweud fod y corff yna. Oedd o'n gwadu fod corff yno a'n dweud fuasai fo a'i gŵn wedi ei gweld hi.

"Os ydy hynna i gyd yn wir, ble oedd Hilda Murrell am ddau ddiwrnod? A dyna lle wnaethon ni ddechau yr holl stori.

"Pan dwi'n edrych yn ôl, dwi dal ddim yn meddwl fod yr heddlu wedi ateb y cwestiynau yna.

"Os nad oedd yr heddlu isho claddu'r stori roedden nhw'n rhoi rhyw fath o delay ar yr holl beth a ddim yn symud fel fuasach chi'n disgwyl i heddlu symud pan oedd dynes yn 78 oed a'i char wedi ei gadael allan yn y wlad.

"Mae'n rhaid i chi wedyn feddwl - oeddan nhw dan rhyw fath o bwysau gan Duw a wŷr pwy i ddim wneud beth ddylsan nhw wneud?

"A dyma le mae'r conspiracy theories yn dechrau."

Cynllwynion

Er fod dyn o'r enw Andrew George yn y carchar am lofruddiaeth Hilda Murrell erbyn hyn, mae nifer o theorïau am ei marwolaeth. Roedd y cyn-Aelod Seneddol Tam Dalyell yn honni bod y gwasanaethau cudd yn gysylltiedig a'r farwolaeth ac mae ei theulu yn dweud yn y rhaglen mai cyn-swyddog MI6 enwog a phrofiadol oedd un o ffynonellau Mr Dalyell.

Roedd nai Hilda Murrell, Cadlywydd Robert Green, yn gweithio yn y Llynges, gyda rhai yn honni ei fod ynghlwm gyda suddo'r Belgrano (llong yr Ariannin gafodd ei suddo gan long tanfor Prydeinig yn 1982), ond mae Mr Green yn dweud nad oedd yn rhan o'r penderfyniad hwnnw.

Mae'r rhaglen hefyd yn trafod y posibilrwydd bod y gwasanaethau cudd yn archwilio i Hilda am fod hi'n ymgyrchydd gwrth-niwclear gan ei bod hi ar y pryd yn ysgrifennu papur ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus i ddatblygiad yr orsaf ynni niwclear Sizewell B.

Felly beth yw theori David?

Meddai: "Dwi ddim yn conspiracist fel newyddiadurwr, ond mae rhywbeth wedi digwydd fan hyn yn enwedig pan 'da chi'n rhoi mewn i'r mix Robert Green oedd yn gadlywydd yn y Royal Navy amser rhyfel y Falklands.

"Oedd ei enw fo yn dod mewn i'r ffrâm – ar y pryd roedd pobl yn meddwl bod o'n gyfrifol am adael papurau cyfrinachol yn nhŷ ei anti sef Hilda Murrell. Mae wedi gwadu hyn yr holl amser.

"Os ydy rhywun yn haeddu clod am gadw'r stori yn fyw fo a'i wraig ddylai gael y clod yna. Maen nhw dal wrthi yn trio dod â'r gwir i'r wyneb efo hyn."

Carchar

Ugain mlynedd wedi llofruddiaeth Hilda Murrell a gyda help datblygiadau technoleg DNA, cafodd Andrew George ei arestio am ei llofruddiaeth a'i ddedfrydu yn 2005 i o leiaf 13 mlynedd dan glo. Mae'n parhau i fod yn y carchar hyd heddiw.

Roedd Andrew George yn 16 oed ar ddiwrnod llofruddiaeth Hilda ac mae rhai, gan gynnwys ei theulu, wedi codi cwestiynau am ei euogrwydd.

Dywedodd David: "Mae Andrew George yn gwadu fod o wedi lladd hi – dwi'n coelio fo. Os ydy hynny'n wir mae'r dyn 'ma wedi bod yn y carchar am 20 mlynedd ac maen nhw wedi gwrthod ei parôl o ddwywaith neu dair.

"Mae Andrew George wedi cyfaddef fod o yn nhŷ Hilda Murrell a dwi yn coelio fo pan mae'n dweud fod pobl eraill yna. Dwi ddim yn coelio fod o wedi gyrru hi drwy'r dref. Oedd o'n 16 oed – oedd o ddim yn medru dreifio.

"Os ydy o'n dweud y gwir a bod pobl eraill yn y tŷ maen nhw'n gwybod y gwir.

"Os hynny mae rhywun arall yn gyfrifol. Y cwestiwn mawr ydy pwy a dyna lle mae'r stori yn explodio i bob math o gynllwynion.

"Dwi'n meddwl bod un person yn gwybod be' ydi'r gwir, a'r person yna ydi Andrew George. Mae o'n gwybod."

Mae Heddlu Gorllewin Mercia wedi cael cais am ymateb gan BBC Cymru Fyw.

Gwyliwch Pwy laddodd Hilda Murrell? ar S4C gyda'r ail ran ar 29 Hydref am 9.00 neu mae'r ddwy ran ar gael ar BBC iplayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig