Jade Jones yw pencampwraig Taekwondo Prydain
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraes Jade Jones wedi ennill Pencampwriaeth Agored Prydain mewn Taekwondo ym Manceinion.
Roedd y ferch 18 oed o Fodelwyddan yn Sir Ddinbych yn fuddugol yn y rownd derfynol yn erbyn Marlene Harnois o Ffrainc.
Eisoes mae Jade wedi ennill medal arian ym mhencampwriaeth y byd, ac mae'n troi ei golygon nawr at y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.
Dyma flwyddyn lawn gyntaf Jade yn cystadlu gyda'r oedolion yn y gamp, ond yn 2010 enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd yr Ieuenctid yn Singapore.
Enillodd fedalau ym mhencampwriaethau agored Yr Almaen ac America cyn dod yn ail yn y byd ym mis Mai.
'Cyflawni cymaint'
Ar ddiwedd mis Mai, daeth cadarnhad fod ei chategori pwysau - 57kg - wedi cael ei enwebu i gael ei gynnwys yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Dywedodd Jade wrth y BBC: "Rwy'n meddwl fod llawer yn credu fy mod ar y blaen i le y dylwn i fod am fy mod i wedi cyflawni cymaint mewn amser byr.
"Ond rwy'n teimlo fod gen i le i wella cymaint hefyd, ond rwy'n falch fy mod wedi profi fy mod i gyda'r goreuon ac mae'n rhaid i mi ddal i fynd."
Mae Jade yn byw ym Manceinion bellach, ac roedd wrth ei bodd o ennill Pencampwriaeth Prydain am y tro cyntaf mor agos at ei chartref, gan fod ei rieni wedi medru bod yn bresennol i'w gweld.