Mam yn gwerthu ei thŷ i dalu am lawdriniaeth ei babi yn America

Jasmin ac Ollie
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jasmin yn gwerthu ei thŷ i gyfrannu at gost enfawr y driniaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Wrecsam yn gwerthu ei thŷ i gyfrannu at gost llawdriniaeth yn yr Unol Daleithiau ar gyfer ei babi sydd â chyflwr prin ar ei galon.

Mae Jasmin Roberts, 24, wedi codi dros £950,000 o'i tharged o £1.5m i dalu am lawdriniaeth arbenigol yn Ysbyty Plant Stanford, California.

Cafodd wybod bod gan ei mab, Ollie, gymhlethdodau gyda'i galon pan oedd ond yn bythefnos oed, gan gynnwys cyflwr o'r enw atresia ysgyfeiniol (pulmonary atresia) na all gael ei drin yn y DU.

Mae Ollie bellach yn 13 mis oed, a dywedodd Jasmin ei bod yn "teimlo bod pobl yn ei garu o bron cymaint â fi".

"Mae'r gefnogaeth mae o wedi'i gael yn anhygoel. Dwi'n credu, oherwydd fy mod i wedi bod mor agored a mor real amdano, ei fod wedi denu sylw pobl."

Ollie
Disgrifiad o’r llun,

Llawdriniaeth yn yr UDA fyddai'r cam cyntaf i Ollie, gyda rhagor o driniaeth i ddod ym Mhrydain

Does dim modd i ysbytai yn y DU wneud y llawdriniaeth sydd ei angen ar Ollie, a dim ond gofal lliniarol oedd ar gael iddo yma.

Dywedodd Jasmin fod tua 65,000 o bobl wedi rhoi i gronfa Ollie hyd yn hyn, ar ôl iddi ddechrau tynnu sylw at ei drafferthion ar y cyfryngau cymdeithasol a GoFundMe.

Yn eu plith mae'r awdur o'r Alban, Leigh Rivers, sydd wedi rhoi cyfanswm o £110,000, meddai, gyda £10,000 hefyd wedi dod gan gyd-berchennog CPD Wrecsam, Ryan Reynolds.

'Amser gwaethaf fy mywyd'

Wrth i Ollie dyfu, dywedodd Jasmin y byddai'n rhoi mwy o bwysau ar ei galon, ac felly mae hi'n gobeithio gallu mynd i California "cyn gynted â phosibl".

"Bydd y dirywiad araf yn digwydd, ond mae yna hefyd y posibilrwydd y bydd yn dal haint, neu niwmonia neu rywbeth, a bydd ei gorff methu ymdopi," meddai.

Dywedodd Jasmin ei fod yn "gyd-ddigwyddiad" bod Ollie wedi cael diagnosis yn bythefnos oed wrth iddo fynd am archwiliad ar ôl cael clefyd melyn hir.

Cafodd Ollie ei yrru i'r Uned Gofal Dwys Pediatrig oherwydd bod lefelau ocsigen ei waed yn isel.

"Roedd o'n un o'r genedigaethau anoddach y gallwch chi eu dychmygu, ro'n i'n dal yn gwella yn gorfforol a ro'n i'n meddwl 'o wel, o leiaf mae gen i fy mabi'.

"Ond y diwrnod nesaf fe wnaethon nhw ddarganfod fod ganddo gyflwr prin ar ei galon. Roedd o'r amser gwaethaf yn fy mywyd."

OllieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Dywedodd Jasmin ei bod wedi cael gwybod i ddechrau y byddai Ollie yn iawn heb lawdriniaethau, ond pan oedd o'n 10 mis oed cafodd y teulu wybod y bydden nhw yn "lwcus" pe bai Ollie'n byw tan ei fod yn ddwy oed.

Dywedodd y GIG nad oedden nhw yn gallu trin Ollie oherwydd cymhlethdodau ei gyflwr, a dim ond gofal diwedd oes yr oedden nhw'n gallu ei gynnig iddo.

"Dwi'n cofio syrthio i'r llawr mewn dagrau," meddai Jasmin. "Syrthiais i iselder difrifol iawn ac ro'n i eisoes wedi cael iselder ôl-enedigol."

Roedd Jasmin ar y dudalen gymorth i rieni plant â chyflyrau'r galon pan welodd fod Dr Frank Hanley - y dyn a ddyfeisiodd y llawdriniaeth benodol yr oedd ei hangen ar Ollie - yn gweithio yn Stanford a gwnaeth gais am y llawdriniaeth.

"Fe wnaethon ni ddarganfod ar ben-blwydd Ollie eu bod nhw wedi dweud 'ia' ac fe ddechreuais i godi'r arian ar unwaith," meddai.

OllieFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Dywedodd fod Ysbyty Stanford wedi dweud y gallai ddechrau gwneud trefniadau unwaith y bydd hi wedi codi tri chwarter o'r arian sydd ei angen.

Ychwanegodd y gallai'r llawdriniaeth, a fydd yn ail-greu rhydwelïau yn ysgyfaint Ollie, gymryd hyd at 12 awr, a bydd angen naw i 12 wythnos i wella.

Yna bydd ail gam y driniaeth yn cael ei wneud yn y DU, chwech i naw mis ar ôl y cyntaf.

Mae Jasmin ac Ollie wedi symud i fyw gyda'i mam a'i brodyr a'i chwiorydd wrth iddi geisio gwerthu ei thŷ.

"Mae'n brysur, ond yn hyfryd cael eu cefnogaeth. Dwi'n lwcus," meddai.

"Does dim ots gen i beth yw'r aberth, byddwn i'n gwneud unrhyw beth... pan mae'n achub bywyd fy mab."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig