Ateb y Galw: Miss Faithee

Miss FaitheeFfynhonnell y llun, Taiye Omokore
  • Cyhoeddwyd

Miss Faithee sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma - artist soul ac R&B, sy'n wreiddiol o ddwyrain Llundain ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Hi oedd enillydd gwobr y Trac R&B Gorau am ei chân Your Name yng Ngwobrau Cymreig Cerddoriaeth Ddu ddechrau Hydref - y tro cyntaf i'r gwobrau gael eu cynnal.

Yn ôl Bethan Elfyn: "Mae hi'n lais cyfarwydd ar y cynllun Gorwelion - wedi bod mewn gigiau ac wedi cael nawdd y gronfa lansio yn y gorffennol. Mae hi'n rhan allweddol o'r sîn yng Nghaerdydd ers sawl blwyddyn."

Beth yw eich atgof cyntaf?

Fy atgof arwyddocaol cyntaf yw dysgu sut i wneud dumplings wedi ffrio pan o'n i tua pump neu chwech. Digwyddiad bywyd pwysig iawn mewn cartref Caribïaidd.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le eleni yw'r Cnap yn y Barri. Mae mor heddychlon ac mae'r llyn gyda'r elyrch a'r hwyaid yn gwneud i mi deimlo fel mod i yn Bridgerton, lle bydd fy Prince Charming yn cerdded mas a fy nghyfarch gyda "Bore da, milady".

Mae'n ardal anhygoel a'r golygfeydd yn gallu fy ngwreiddio mewn dim o dro.

Llyn y Cnap yn y BarriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llyn y Cnap yn y Barri - hoff le Miss Faithee

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Dwi wedi cael nifer i noswaith dda, ond yr un mwyaf gwerthfawr oedd chillio gyda fy nghyfnither, yn bwyta bwyd da, yn chwerthin am fywyd a pha mor felys mae wedi bod dros y blynyddoedd.

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Delulu, annwyl, gwydn.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Dwi wedi cael gymaint, dwi wir methu dewis dim ond un.

Miss FaitheeFfynhonnell y llun, Ceri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Miss Faithee yn rhan o daith Gorwelion i hyrwyddo feniws annibynnol yn 2021

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Dwi ddim yn dal ymlaen ar emosiwn cywilydd.

Dwi'n meddwl mod i wedi cael ambell i achlysur o ychydig o euogrwydd o ran sut 'nes i ddelio â thor-perthynas pan o'n i'n fy arddegau, neu rywbeth.

Ond dwi ddim wir â chywilydd o'r pethau dwi wedi mynd drwyddyn nhw; i mi mae'n wers dwi wedi ei dysgu - a wna i ddim hynny eto.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Mae hwn mor ddoniol, achos dwi ddim ofn crio ac yn ddiweddar dyna ydy fy outlet; mae'n arwydd o ryddhad a bywyd newydd.

MissFaithee a'i band
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Miss Faithee a'i band ei dewis i wneud sesiwn ar gyfer sioe Huw Stephens ar BBC Radio Wales, wrth i gynllun Gorwelion hybu cerddoriaeth newydd o Gymru, gydag ystod eang o arddulliau cerddorol

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Fy arferiad drwg ydy gorfeddwl. Fydden i ddim yn fenyw rinweddol hebddo, felly mae'n rhodd ac yn felltith.

A bwyta mac 'n' cheese pan dwi'n gwybod dylwn i ddim bwyta mwy. Dwi'n dweud fod gormod o un peth yn wael i'r enaid, ond mae mac 'n' cheese wastad yn torri'r rheol yna.

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fy hoff lyfr eleni bendant oedd Why Men Love Bitches: From Doormat to Dreamgirl gan Sherry Argov - canllaw i ferched i ddal ei thir mewn perthynas.

Pan o'n i'n tyfu lan, dwi'n teimlo fel mod i byth wir yn deall sut i fod mewn perthynas. Rydyn ni ferched yn cael ei dysgu ei fod e am fod fel ffantasi neu stori dylwyth teg, ond mewn perthynas, ry'n ni'n dysgu am ein hunain, ac ar y siwrne yna, mae rhywun arall yn dysgu neu yn dylanwadu ar y sefyllfa, ac mae wastad yn dda i drio cymharu cael eich trin fel tywysoges neu fel ffŵl.

Mae rhai pobl yn canolbwyntio ar bethau eraill, ac yn dweud y bydd perthynas yn eich ffeindio chi, ond pan ti'n dod o hyd iddo, sut wyt ti'n cadw dy fenywdod a'r pethau ti eisiau eu gwneud yn bersonol, a dal i gadw'r berthynas yna?

Wrth i amser newid, mae merched wedi dod yn fwy annibynnol. Sut ydyn ni'n parhau â beth sydd gennyn ni, a'i gyfuno gyda beth sydd gan ddyn, yn lle cael ein bychanu gan bethau fel y patriarchaeth?

MissFaitheeFfynhonnell y llun, MissFaithee
Disgrifiad o’r llun,

Yn cymryd rhan mewn digwyddiad ym Mae Caerdydd

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wedi goroesi.

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bydden i wrth ddŵr ar fy diwrnod olaf ar y ddaear. Dwi ddim yn gwybod os fydden i'n mynd i nofio. Dwi ddim yn gwybod os fydden i'n talu cerrig mewn. Ond fydda i bendant wrth ymyl dŵr.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Rhaid iddo fod yn Quincy Jones i mi, achos 'naeth e nid yn unig wneud cerddoriaeth i bawb wrando arni, beth bynnag eu hil, oed, dewis rhywiol. 'Naeth e hefyd wneud cerddoriaeth mor hyfryd, ac roedd e'n uniaethu gyda llawer o bobl.

Hoffen i wybod sut oedd e'n rheoli ei amser, a beth oedd yn ei wneud mwyaf bodlon yn ystod ei yrfa hir.

Quincy JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Quincy Jones yn seremoni Gwobrau Grammy 1982, lle enillodd bum gwobr

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Mae'n ddoniol; mae'n rhaid i mi gymryd lluniau ac mae'n rhaid i mi edrych arnyn nhw dros amser, achos mae'r holl luniau dwi wedi eu cymryd a'r holl atgofion mor bwysig i mi, dwi ddim eisiau anghofio dim byd.

Mae'n fraint i gael hynny - dwi mor ddiolchgar i'r person a greodd y fath dechnoleg, achos bydden i'n anghofio'r bendithion a'r amseroedd trist dwi wedi eu cael heb y lluniau yna.

Bydden i ddim eisiau bod heb yr un o fy lluniau. Maen nhw'n fy atgoffa i o'r lle o'n i yn feddyliol a chorfforol a lle ydw i nawr mod i wedi aeddfedu, ac â'r gorau eto i ddod.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Fy mam, er mwyn gweld beth mae hi'n mynd drwyddo, a fydd yn fy helpu i edrych ar ei hôl hi ychydig gwell. Dwi ddim yn cymryd yr amser i weld yr ymdrechion mae hi'n ei wneud i mi, neu os yw hi angen rhywbeth, bydden i'n gwybod achos bydden i wedi treulio diwrnod yn byw ei bywyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb