Cyhoeddi ffilm fer o awdl fuddugol Tudur Hallam

Tudur HallamFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Y Prifardd Tudur Hallam yn ennill y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

  • Cyhoeddwyd

Roedd seremoni cadeirio Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni yn un wnaeth gyffwrdd calonnau'r rheiny oedd yn y pafiliwn ac yn gwylio o bell.

Y prifardd Tudur Hallam gafodd ei gadeirio am ei awdl fuddugol, Dinas, a oedd yn un bersonol iawn iddo, yn adrodd ei daith o ddarganfod ei fod yn dioddef o ganser.

Wrth siarad wedi'r seremoni, dywedodd Tudur Hallam nad oedd wedi gallu ysgrifennu am fisoedd ar ôl cael y diagnosis cyn iddo fynd ati i gyfansoddi'r awdl.

Fe gafodd y gynulleidfa gipolwg ar ddarn ohoni wedi'i dramateiddio gan frawd Tudur, sef y prifardd Gwion Hallam a'r actor Simon Watts.

Am y tro cyntaf mewn hanes, mae S4C wedi creu ffilm o'r awdl gyfan ac mae Gwion, Simon a Tudur wedi bod yn brysur yn ei chynhyrchu.

Disgrifiad,

Clip o'r ffilm fer gyda Simon Watts yn perfformio geiriau Tudur Hallam

Dywedodd Gwion Hallam ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru: "Yn naturiol fe wnaeth ddilyn popeth ddigwyddodd yn yr haf mewn ffordd, S4C wnaeth ofyn os y baswn i'n ystyried gwneud ffilm o'r awdl gyfan, am wn i yn dilyn detholiad nethon ni ar gyfer y seremoni, mater o holi Tudur oedd hi wedyn, ac ar y cyfan roedd e'n hapus.

"Roedd cyfraniad Simon yn allweddol, roedd cyfraniad Tudur yn gwbwl allweddol ac mae gen i ran fach ynddi hefyd, ond y testun yw'r man cychwyn, ond wedyn mae dod a'r testun yna i'r sgrin yn gofyn am nifer o bethau ond yn bendant roedd cyfraniad Simon yn allweddol," meddai.

Er bod Simon yn actor profiadol, roedd perfformio awdl mor bersonol a theimladwy am siwrne rhywun mae'n ystyried yn ffrind yn her fawr ac yn un emosiynol.

"Mae'r holl broses wedi bod yn freintiedig ac emosiynol iawn o'r dechre i le ydyn ni ar hyn o bryd, ac mi oedd y broses o'i ffilmio hi ar y cychwyn cyntaf yn eithaf intense achos roedd dipyn 'da ni neud a mater o daflu'n hunain i fewn iddo fe oedd e gydag arweiniad Gwion a bendith Tudur.

"Mae bron a dod a dagre i'n llygaid i pob tro dwi'n meddwl am yr holl beth," meddai Simon.

Cyfarch ei frawd

O ran y broses ffilmio, mae'r ffilm yn tua 20 munud o hyd, ac awn ar daith i leoliadau gwahanol sy'n cael eu cynnwys yn yr awdl. Cawn olwg ar gae pêl-droed a rhai golygfeydd mewn ysbytai. Roedd y broses o ffilmio yn un "chwerwfelys" i Gwion.

Gwion wrth gwrs wnaeth gyfarch ei frawd ar y llwyfan pan enillodd Tudur y gadair, ac roedd honno hefyd yn foment gofiadwy iawn ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Gwion: "Dwi wastad wedi bod yn berson creadigol. Roedd e'n fraint cael gwneud a bydde unrhyw un yn yr un sefyllfa yn gwneud yr un peth.

"Os o'n i'n digwydd bod ar y llwyfan yna yn yr Eisteddfod, ro'n i eisiau gallu cyfarch Tudur a ges i'r fraint o wneud, yr un peth gyda'r ffilm fer yma nawr.

"Unwaith mae rhywun yn bwrw fewn i'r gwaith, mae rhywun yn gorfod bod yn broffesiynol ac yn wrthrychol. Ar rai adegau, mae o wir yn fy nharo i o ran emosiwn y peth.

"Mae Tudur ei hun yn teimlo'n gymysg am yr holl beth, a ddyle ni fod wedi 'sgwennu rhywbeth mor bersonol? A ddylen ni wneud ffilm? A ddylen i roi fy enw yn sownd i rywbeth sy'n golygu cymaint i Tudur, ond dewis arall yw i beidio dathlu'r creadigrwydd yma, y dewis arall yw rhoi mewn i fywyd sy'n gwneud dim synnwyr.

"Creu y'n ni er mwyn gwneud synnwyr o'r pethau yma," meddai Gwion.

Gwion HallamFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Gwion Hallam yn ystod y seremoni'r Cadeirio. Gwion hefyd wnaeth gynhyrchu'r ffilm fer

Mae Simon ei hun yn falch o fod wedi cael y cyfle i weithio ar y prosiect:

"Dawnsio gwerin ac actio oedd fy mhethe i yn yr Eisteddfod. Drama Llwyth agorodd fy llygaid i sut i allu perfformio barddoniaeth mewn ffordd ddramatig."

Wrth ddisgrifio rhan actio Simon yn y ffilm, dywed Gwion nad dynwared ei frawd oedd yn bwysig, ond i geisio cyfleu geiriau Tudur yn iawn ac mewn ffordd naturiol.

"O ran arddull mae'n debyg i ffilm fer, Simon yn perfformio, yn adrodd, yn llefaru, yn ymgorffori a dehongli geiriau Tudur. Fe wnaethon ni ofyn i Tudur recordio'r awdl ei hunan, nid i'w ddynwared ond i gael y rhythmau naturiol yna.

"Mae Simon yn dod a rhywbeth i'r peth; mae 'na gerddoriaeth, mae 'na rythmau gwahanol, mae 'na ddelweddau wrth gwrs, ond mae i gyd yn tarddu o rythmau yr awdl, y caniadau gwahanol," meddai.

Mae'r ffilm fer i'w gweld yn llawn yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.