'Testun pryder' bod hanner myfyrwyr Cymraeg wedi gadael Cymru

CAergrawntFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth hanner myfyrwyr cyfrwng Cymraeg eleni i brifysgolion yn Lloegr, fel Caergrawnt

  • Cyhoeddwyd

Mae hanner y disgyblion o ysgolion cyfrwng Cymraeg a ddechreuodd yn y brifysgol eleni wedi gadael Cymru.

Aeth 49% i Loegr ac 1% i'r Alban, tra bod 50% wedi aros yng Nghymru. Aeth 0% i Ogledd Iwerddon.

Dywedodd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a gasglodd yr ystadegau, ei fod yn "destun pryder i'r Coleg bod cynifer o fyfyrwyr yn gadael Cymru i astudio mewn prifysgolion ble nad oes cyfleoedd iddyn nhw barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg".

Mae Mark Drakeford, gweinidog y Gymraeg yn llywodraeth Lafur Cymru, wedi dweud: "Rydyn ni eisiau pobl sydd wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fynd i ble bynnag y maen nhw eisiau astudio, ond i gadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, ac i ddefnyddio'r Gymraeg yna ar ôl astudio a dod nôl i Gymru."

Mae'r Ceidwadwyr yn pwysleisio'r angen i ddenu myfyrwyr sy'n astudio yn Lloegr yn ôl i'r gweithlu yng Nghymru.

Dywedodd Plaid Cymru bod y ffigyrau'n "peri pryder gwirioneddol" sy'n "profi unwaith eto fod angen newid".

Dywedodd Dylan Bryn Roberts ar ran mudiad Dyfodol i'r Iaith bod yr "allfudo yma... yn tanseilio pob ymdrech i sicrhau gweithlu Cymraeg yn ein hysgolion, meddygfeydd, deintyddfeydd, sector cyhoeddus ac ati".

Cafodd y BBC yr ystadegau gan UCAS oherwydd eu cytundeb gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dim ond canrannau sydd ar gael, ac maen nhw'n cyfateb i fyfyrwyr a dderbyniodd le mewn prifysgol neu goleg 28 diwrnod ar ôl diwrnod canlyniadau Safon Uwch/Lefel 3 2025.

Nid oes ystadegau cyfatebol ar gyfer myfyrwyr o ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru meddai UCAS.

Y ffigyrau ar gyfer 2024 ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg oedd bod 47% o'r rhai a ddechreuodd yn y brifysgol wedi mynd i Loegr, 1% i'r Alban a 52% wedi aros yng Nghymru.

Yn 2023 aeth 49% i Loegr, 1% i'r Alban a 50% wedi aros yng Nghymru.

Cynllun Cadw Cyswllt

Ers tair blynedd mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn derbyn grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynllun Cadw Cyswllt.

Bwriad y cynllun, medd y Coleg, yw "ymgysylltu gyda myfyrwyr sydd wedi gadael Cymru i astudio mewn prifysgol tu hwnt i'r ffin trwy ymweliadau, digwyddiadau, cylchlythyron a chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol".

"Wrth ymuno â'r cynllun, mae myfyrwyr yn derbyn newyddion rheolaidd am y cyfleoedd sydd i ddychwelyd i Gymru i astudio, hyfforddi neu weithio trwy gyfrwng y Gymraeg."

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i fyfyrwyr sy'n astudio y tu hwnt i Gymru "gadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw", meddai Mark Drakeford

Yn y Senedd yn gynharach y mis hwn, gofynnodd Samuel Kurtz o'r Ceidwadwyr, "pa waith sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd i dynnu disgyblion sydd mewn prifysgolion yn Lloegr yn ôl i Gymru, i sicrhau eu bod nhw'n mynd i fod yn y gweithlu yma yng Nghymru?"

Yng nghyd-destun trafodaeth ar sgiliau iaith Gymraeg athrawon, ychwanegodd, "efallai fydd yr iaith gyda nhw dros y ffin yn Lloegr, ond efallai y byddan nhw'n meddwl dysgu yn Lloegr neu lefydd eraill.

"Ond achos bod yr iaith gyda nhw, mae'n hollbwysig eu tynnu nhw yn ôl i mewn i Gymru, i mewn i'r gweithlu."

Creu mwy o gyfleoedd i siarad Cymraeg

Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, bod "mwy o bosibiliadau" gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol erbyn hyn.

"Maen nhw'n gallu ffeindio mas ble mae'r bobl yn nosbarth 6 yng Nghymru yn mynd i'r brifysgol... ac sydd wedi cael eu haddysgu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

"Maen nhw'n mynd i greu rhwydwaith o bobl sy'n siarad Cymraeg ond sydd yn rhywle lle does dim llawer o gyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio'r Gymraeg, achos eu bod nhw'n astudio'n Newcastle neu ble bynnag y maen nhw, a'u tynnu nhw gyda'i gilydd, just i gael fwy o bosibiliadau i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw, a chadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, a chreu rhwydwaith o bobl gyda'r diddordeb i wneud hynny."

Ychwanegodd ei fod "eisiau pobl sydd wedi cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg i fynd i ble bynnag y maen nhw eisiau astudio, ond i gadw'r Gymraeg sydd gyda nhw yn fyw, ac i ddefnyddio'r Gymraeg yna ar ôl astudio a dod nôl i Gymru".

myfyrwyrFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru wrth y BBC ei bod hi'n "drueni gweld cymaint o fyfyrwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw adael Cymru er mwyn astudio".

"Mae hyn yn tanlinellu'r angen i gryfhau prifysgolion Cymru ac i'w gwneud yn ddewis deniadol i'n pobl ifanc.

"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio'n llawer mwy gweithgar i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd yma gartref, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr opsiynau gwirioneddol i barhau i astudio drwy'r Gymraeg."

'Profi bywyd tu allan i Gymru'

Mae Efa, Elina a Gwion i gyd wedi gadael Cymru i ddysgu.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Efa ei bod hi wedi mynd i brifysgol yn Lloegr i "ehangu fy ngorwelion a profi mwy tu allan i Gymru".

Dywedodd Elina bod prifysgolion Lloegr "yn cynnig cyrsiau sy'n well... es i i brifysgol yn Llundain ac o'n i eisiau profi bywyd yn y ddinas fawr".

Dywedodd Gwion ei fod wedi penderfynu mynd i Brifysgol Glasgow oherwydd ei fod yn "licio'r ddinas ac mae'r brifysgol yn wych".

"Ond hefyd wrth adlewyrchu ar y sefyllfa ariannol, mae'r prifysgol yn cynnig ysgoloriaeth os ydych chi'n dod o weddill Prydain a dwi'n derbyn hynny nawr dal."

'Gwario hanner biliwn yn Lloegr'

Dywedodd prif weithredwr Dyfodol i'r Iaith, Dylan Bryn Roberts: "Gwariodd Llywodraeth Cymru hanner biliwn o bunnoedd ar fyfyrwyr Cymru yn Lloegr y llynedd, gan ariannu prifysgolion yn Lloegr yn bennaf.

"Dyma gynnydd o 60% dros bum mlynedd yn unig a fydd yn cynyddu eto eleni.

"Mae'n hen bryd dilyn esiampl Yr Alban a Gogledd Iwerddon sy'n cynnig manteision sylweddol i'w myfyrwyr astudio yn eu gwlad eu hunain."

Ymatebodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, "rydym yn cynnig y pecyn cymorth cynhaliaeth myfyrwyr mwyaf hael i israddedigion llawn amser yn y DU, p'un a yw myfyriwr sy'n byw yng Nghymru yn dewis astudio yng Nghymru neu yn rhywle arall yn y DU".

O ran cyllid, eglurodd, "talodd Llywodraeth Cymru £1.17 biliwn mewn benthyciadau, sy'n cael eu had-dalu, a grantiau nad ydynt yn cael eu had-dalu, i fyfyrwyr Cymru (sy'n astudio y tu mewn a'r tu allan i Gymru) yn y flwyddyn academaidd 2023/24.

"O hyn, benthycwyd £911m i fyfyrwyr i gefnogi eu ffioedd dysgu a'u cynhaliaeth.

"Gwariwyd y £264m sy'n weddill ar grantiau, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw, grantiau Lwfans Myfyrwyr Anabl a grantiau eraill wedi eu targedu.

"Mae'r ffigur £500m ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio y tu allan i Gymru yn seiliedig ar ddarn penodol o ddata'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac mae'n cynnwys gwariant ar fenthyciadau a grantiau.

"Darperir cyllid ar gyfer benthyciadau myfyrwyr gan Drysorlys EM ac ni all Llywodraeth Cymru ei ailddyrannu na'i wario at unrhyw ddiben arall."

Rhydychen
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Seren ei sefydlu yn wreiddiol i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion fel Rhydychen

Ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym Mai 2026, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn galw ar y llywodraeth nesaf i osod targedau i gynyddu'r nifer o fyfyrwyr Academi Seren sy'n mynd ymlaen i astudio cyrsiau o'r radd flaenaf ym mhrifysgolion Cymru a thrwy gyfrwng y Gymraeg.

"Byddai hyn yn cefnogi nodau ac amcanion Cymraeg 2050 y llywodraeth i gynyddu defnydd o'r Gymraeg a chefnogi ymdrechion i sicrhau gweithlu dwyieithog mewn meysydd allweddol megis y gweithlu addysg a'r gweithlu iechyd," meddai'r Coleg.

Cafodd Rhwydwaith Seren - sydd bellach wedi'i ailenwi yn Academi Seren - ei sefydlu yn 2015 yn dilyn adroddiad gan yr Arglwydd Paul Murphy, oedd yn aelod seneddol i'r Blaid Lafur ar y pryd.

Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion gorau Prydain gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt.

Datgelodd adolygiad o Seren, dolen allanol yn 2018 "densiwn cynhenid" rhwng amcanion y cynllun ac "amcanion ehangach" y llywodraeth i gefnogi'r sector Addysg Uwch yng Nghymru.

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru y byddai'r blaid yn diwygio'r cynllun pe bai nhw mewn llywodraeth.

"Beth mae ymchwil yn dangos yn glir yw mai nifer sylweddol sydd yn astudio dros y ffin neu thu hwnt, dy' nhw ddim yn dod yn ôl i Gymru gyda'r sgiliau yna i gyfrannu at ddyfodol y genedl", meddai Cefin Campbell AS.

"Os ydyn ni'n sôn am adeiladu cenedl a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, adeiladu'r economi hefyd, mae rhaid i ni drio cadw ein talent gorau yma yng Nghymru."

Yn gynharach eleni, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, gyhoeddi "pecyn cymorth cynhwysfawr i ysgolion i ddarparu'r amser a'r lle i athrawon gefnogi eu dysgwyr Seren... i'w galluogi i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n iawn iddynt, gan gynnwys y ddarpariaeth wych yn ein prifysgolion yng Nghymru."