Małgola, No: Y cerddor o Wlad Pwyl ar daith gyda Gruff Rhys

Małgola GulczyńskaFfynhonnell y llun, Małgola Gulczyńska
  • Cyhoeddwyd

Ar daith ddiweddaraf y cerddor Gruff Rhys - Dim Probs - un o'r artistiaid oedd yn cefnogi oedd Małgola, No.

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae Małgola bellach yn byw yng Nghymru ac wedi dysgu Cymraeg. Roedd hi wrth ei bodd yn cael chwarae ym mhedwar lleoliad ar y daith gydag un o'i harwyr cerddorol y mae hi wedi ei edmygu ers blynyddoedd, meddai.

Dyma ddysgu mwy amdani:

Pwy wyt ti?

Małgola Gulczyńska dwi - mae Małgola yn fyr am Małgorzata, sydd fel Margaret. Dwi'n dod o Wlad Pwyl yn wreiddiol ond dwi wedi byw yng Nghaerdydd ers wyth mlynedd nawr.

Dwi'n perfformio fel Małgola, No, enw oedd wedi ysbrydoli gan gân The Beach Boys, Caroline, No.

Dwi'n ysgrifennu a chyfansoddi fy nghaneuon fy hun, ac yn perfformio ar fy mhen fy hun neu gyda band, gyda'r tri A - Adam (gitâr), Andrew (gitâr fas) ac Alex (drymiau).

Pryd a pham wnes di symud i Gymru a dechrau dysgu Cymraeg?

Symudais i i Gymru yn 2017.

Roedd gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg (diolch i Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci). Dechreuais i ymchwilio mwy a mwy a ro'n i'n meddwl bod Cymru yn lle perffaith i gerddor fel fi!

Cerddoriaeth Gymraeg hefyd yw'r rheswm pam dwi'n dysgu Cymraeg. Dwi mo'yn gwybod beth mae fy hoff gerddorion i yn canu ac dwi mo'yn gallu ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg hefyd.

Mae'r iaith Gymraeg yn agor llawer o ddrysau yn y diwydiant creadigol yng Nghymru.

Małgola yn perfformio ar daith Gruff RhysFfynhonnell y llun, David Bladen
Disgrifiad o’r llun,

Małgola yn perfformio ar daith Gruff Rhys

Sut fath o gerddoriaeth wyt ti'n ei greu?

Dwi'n creu cerddoriaeth pop alternative dwi'n meddwl... mae'n anodd dweud...

Mae fy nghaneuon i am deimladau'n gyffredinol. Dwi'n hoffi'n disgrifio pobl, sefyllfaoedd a theimladau. Dwi'n berson sentimental iawn.

Rwyt ti'n canu mewn Pwyleg, Saesneg a Chymraeg - pa iaith sy'n dod hawsaf i ti?

Dwi wastad wedi ysgrifennu caneuon yn Saesneg, dwi'n meddwl achos dwi wedi gwrando ar ganeuon yn Saesneg yn bennaf.

Wrth gwrs, ro'n i'n gwrando ar gerddoriaeth Bwyleg hefyd, ond pan o'n i mo'yn creu caneuon Pwyleg, do'n i ddim yn gallu. Doedd e ddim yn swnio'n iawn!

Ro'n i angen symud i Gymru i ddechrau ysgrifennu mewn Pwyleg. Ro'n i'n gweld eisiau Gwlad Pwyl yn fawr iawn, ac un diwrnod dechreuais i ysgrifennu caneuon yn y Bwyleg. Ysgrifennais i'r holl albwm mewn deuddydd!

Heddiw dwi'n teimlo bod pob iaith yn gweithio'n dda gydag unrhyw gerddoriaeth. Ond mae hi'n anodd iawn i mi ysgrifennu yn y Gymraeg; dwi angen dysgu mwy er mwyn gallu ysgrifennu'n well.

Małgola a Gruff RhysFfynhonnell y llun, Małgola Gulczyńska
Disgrifiad o’r llun,

Małgola a Gruff Rhys: O gyfarfod ei harwr gyntaf mewn cyngerdd yn Berlin yn 2014, i'w gefnogi ar daith - mae breuddwyd Małgola wedi dod yn wir, meddai

Sut beth oedd cael gwahoddiad i gefnogi Gruff Rhys ar ei daith ddiweddaraf?

Mae Gruff Rhys yn un o fy arwyr cerddorol i. Dwi'n meddwl bod Gruff a'i gerddoriaeth yn drysorau cenedlaethol Cymraeg.

Mae ei ganeuon yn felodig a mae'r balans cywir o hiwmor a theimlad gyda nhw.

Dwi'n dysgu gan Gruff i dderbyn ei bod hi'n naturiol ailadrodd syniadau, ond i fod yn chwareus amdano.

Roedd cael gwahoddiad i'w gefnogi yn freuddwyd yn dod yn wir. Roedd pawb ar y daith yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn. Dwi'n ddiolchgar iawn.

Criw yn RhoshirwaunFfynhonnell y llun, Neuadd Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Małgola (canol, rhes flaen), Gruff Rhys (dde, rhes gefn) a'r criw a wnaeth y daith Dim Probs yn bosib, yn Rhoshirwaun ar 3 Hydref

Pa brosiectau cyffrous eraill sydd wedi digwydd yn ddiweddar?

Roedd llawer yn digwydd eleni. Ymunais i â grŵp creadigol cymunedol Pwylaidd lleol a gwnaethon ni drefnu dwy sioe fawr ble chwaraeais i'r piano a chanu.

Ymunais i hefyd â Global Network for Female Music Producers ac es i i Ganada i weithio gyda chynhyrchwyr eraill mewn stiwdio anhygoel. 'Nes i hefyd greu cerddoriaeth i ffilm yn y Gymraeg am y tro cyntaf, o'r enw Veg.

Beth sydd nesaf?

Eleni dwi wedi recordio albwm newydd gyda cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol Cymreig y BBC. Dwi'n gorffen yr albwm a bydda i'n perfformio fy nghaneuon newydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd ac Abertawe ym mis Tachwedd, a gobeithio rhyddhau'r albwm yn y flwyddyn nesa'.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.