Pa glwb pêl-droed ydi'r mwyaf yng Nghymru bellach?

clybiau CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae Caerdydd ac Abertawe wedi bod yn brwydro i hawlio'r teitl 'clwb mwyaf Cymru', gyda'r ddau'n treulio cyfnodau yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd adeg cyn hynny, yn y 90au, pan oedd Wrecsam ar y brig o Gymru ym mhyramid pêl-droed Lloegr, a gyda dyrchafiadau diweddar y cochion, mae'r cwestiwn yn codi unwaith eto.

Gellir mesur pa mor fawr yw clwb mewn sawl ffordd; llwyddiannau hanesyddol, nifer y tlysau, nifer y cefnogwyr, maint y stadiwm, dilyniant ar gyfryngau cymdeithasol, ac amlygrwydd brand y clwb dramor.

Gyda mwy o amser yn yr Uwch Gynghrair Lloegr na'r ddau glwb arall, a buddugoliaeth yng Nghwpan y Gynghrair yn 2013, gall yr Elyrch alw eu hunain y clwb mwyaf yng Nghymru.

Caerdydd sydd â'r stadiwm mwyaf yng Nghymru ac wedi ennill Cwpan FA Lloegr, felly gallen nhw hefyd hawlio i fod y prif glwb.

Wrecsam sydd â'r stadiwm cenedlaethol hynaf yn y byd, miliynau o ddilynwyr ledled y byd, a phresenoldeb enfawr ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gyda Wrecsam yn croesawu Caerdydd i'r Cae Ras yng Nghwpan y Gynghrair ar 28 Hydref, dyma gyfle i ofyn y cwestiwn... pwy yw'r clwb mwyaf yng Nghymru?

Iwan Roberts

Iwan RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Iwan Roberts yn chwarae dros Norwich yn 2004

Gan ei fod yn wreiddiol o ogledd Cymru, yn frodorol o Ddyffryn Ardudwy, ond heb chwarae'n broffesiynol i glwb yng Nghymru, dywedodd Iwan ei fod yn gallu bod yn gwbl ddiduedd wrth ateb y cwestiwn yma.

"Wrecsam di'r mwya' ar y funud. Dydyn nhw heb gael dechrau arbennig o dda yn y Bencampwriaeth, ond dwi'n meddwl o nhw, Abertawe a Chaerdydd, nhw 'di'r clwb sy' agosa' i chwarae yn yr Uwch Gynghrair – Wrecsam 'di'r cryfa' allan o'r tri.

"Mae gan Abertawe Modric a Snoop Dogg, ond os ti'n edrych ar y gwaith ma' Rob McElhenney a Ryan Reynolds 'di gwneud, maen nhw 'di mynd â Wrecsam i stratosffer cwbl wahanol dydyn.

"Felly mae gan Wrecsam ac Abertawe y cefnogwyr byd-enwog, ond dwi'm yn gwybod pwy 'di cefnogwyr enwoca' Caerdydd ar y funud i fod onest.

"Os edrycha di ar Wrecsam dros y byd i gyd rŵan, ma' nhw'n anferth yn America, a ti'n gweld mwy o grysau Wrecsam yn America nag unrhyw un o'r lleill.

"Gan fod Abertawe 'di cael saith tymor yn olynol yn yr Uwch Gynghrair yn ddiweddar, gan chwarae yn Ewrop ac ati, fyswn i'n dweud mai nhw 'di ail dîm mwya' Cymru. Y math o bêl-droed oeddan nhw'n chwarae, y chwaraewyr, y rheolwyr ma' nhw di cael hefyd.

"Mae'n anodd ar Gasnewydd wrth gwrs - wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn y gorffennol, ond ma' rheiny'n teimlo'n bell yn ôl bellach."

Malcolm Allen

Malcolm AllenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Malcolm dros nifer o glybiau mawr yn Lloegr; Watford, Aston Villa, Norwich City, Millwall a Newcastle United

Mae Malcolm yn credu mai clwb y brifddinas sy'n mynd â hi, ond bod y potensial yno i Wrecsam neidio uwch eu pennau.

"Caerdydd 'di'r tîm mwya' dal i fod – nhw 'di'r brifddinas. Nhw s'gen y stadiwm mwya', y stadiwm cenedlaethol, ac ma' nhw fel clwb 'di tangyflawni dros y blynyddoedd.

"Nhw s'gen y potensial i lenwi'r stadiwm bob wythnos os 'sa nhw'n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr. Dwi'n siŵr 'sa Wrecsam yn gwneud rŵan hefyd, ond 'mond rhyw 12,000 'sa nhw'n gallu cael mewn 'na ar y funud.

"Mewn blynyddoedd i ddod mae o i gyd yna i Wrecsam, a dwi wrth fy modd efo hynny achos ma' gen i gymaint o gysylltiadau gyda Wrecsam ers pan o'n i'n hogyn ifanc."

Beth fyddai'n ei gymryd i allu datgan mai clwb Y Cae Ras yw'r mwyaf?

"Bysa Wrecsam yn gallu bod y clwb mwya', ond 'sa angen nhw gyrraedd yr Uwch Gynghrair, datblygu'r stadiwm, a'i llenwi hi bob wythnos yn erbyn y timau mawr yn gyson – dwi'n siŵr mai dyna di'w plan nhw dros y dair i bum mlynedd nesaf.

"Wrecsam 'di'r ail dîm mwya' rŵan, efo'r perchnogion sydd â chynllun i dyfu'r clwb."

Owain Tudur Jones

Owain Tudur JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owain Tudur Jones gyda chlwb Abertawe o 2005 i 2009

Fel cyn-chwaraewyr i'r Elyrch, mae Owain Tudur Jones yn gwbl sicr o'i ddewis.

"Abertawe 'di'r clwb mwya', heb os. Os 'dan ni'n edrych ar hanes diweddar y clybiau, nhw sydd di treulio'r mwyaf o amser yn yr Uwch Gynghrair.

"Dwi'n gwybod bo' Caerdydd yn licio meddwl yn ôl i 100 mlynedd yn ôl pan naethon nhw ennill Cwpan yr FA. Ond yn hanes diweddar (ac wrth gwrs mae pêl-droed dim ond yn bodoli ers 1992 pan ddechreuodd yr Uwch Gynghrair!), Abertawe 'di'r tîm sydd 'di bod 'na am yr amser hiraf. Mae Abertawe 'di ennill cwpan mawr yn eitha' diweddar gan ennill Cwpan y Gynghrair yn 2013... does 'na'm dadl i ddweud gwir."

Beth am y ffactorau eraill allwn ni eu hystyried?

"Wel, Wrecsam 'di'r tîm sydd 'di cael y mwya' o sylw yn ddiweddar wrth gwrs, oherwydd y perchnogion, ac mae'n stori anhygoel. Caerdydd sy'n chwarae yn y stadiwm mwyaf, er bo' nhw ddim yn ei lenwi o – mae'n neis gweld gemau Cymru yna i gael gweld y tier top ar agor!

"Ond os sbïwn ni ar y gemau rhwng y timau dros y blynyddoedd diweddar – Caerdydd ac Abertawe 'di'r ddau sy' di chwarae ar y lefel uchaf dros y tymhorau diwethaf. Ac os edrychwn ni ar y gemau rhyngddyn nhw, mae Abertawe wedi gorffen yn uwch na Chaerdydd dros y tymhorau, ac wedi ennill y rhan fwya' o'r gemau darbis – dydi o ddim hyd yn oed yn agos.

"Abertawe 'di'r mwyaf, wedyn Wrecsam, a ddwedwn ni Gaerdydd yn drydydd..."

Nathan Blake

Nathan Blake
Disgrifiad o’r llun,

Un o chwaraewyr chwedlonol Clwb Dinas Caerdydd, roedd Nathan gyda'r clwb o 1990 i 1994, ac fe wnaeth hefyd ennill 30 cap dros Gymru

O gyn-Alarch i gyn-Aderyn Glas, mae Nathan Blake yn sicr mai clwb y brifddinas yw'r mwyaf.

"Does dim ond angen ystyried y fanbase ac mae'n rhaid i ni ddweud mai Caerdydd yw'r mwyaf.

"Does na 'run o'n clybiau mwya' ni 'di cael llond trol o dlysau dros yr 50 mlynedd d'wethaf, ac mae nhw i gyd wedi bod yn isel yn y cynghreiriau, i hefyd bron mynd allan o fusnes – Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd.

"Be byswn i yn ei ddweud ydi dwi'n cofio Wrecsam yn mynd i Blackburn ryw flwyddyn neu ddwy yn ôl a mynd â 6,000 o gefnogwyr, sydd yn enfawr i ddweud gwir. Ond dwi hefyd yn cofio Caerdydd yn mynd â 5,500 i Scunthorpe yn 1993 pan naethon ni ennill y gynghrair, ac roedd hynny hefyd yn anhygoel yn y cyfnod.

"Felly, os byswn i'n gorfod dewis y drefn – Caerdydd, Wrecsam, Abertawe ac wedyn Casnewydd."

Kath Morgan

Kath Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kath yn adnabyddus fel hyfforddwr, ond fe roedd hefyd yn chwaraewr da iawn, gan chwarae dros Gymru am 14 mlynedd o'r oedrannau iau (dan 14) yr holl ffordd i'r tîm cyntaf

Er mai merch o'r cymoedd yw Kath, mae hi'n grediniol mai clwb y gogledd-ddwyrain yw'r mwyaf ar hyn o bryd.

"Wrecsam di'r ateb i fi. O ran llwyddiannau diweddar, mae 'na dri dyrchafiad yn olynol wedi bod. Ac mae rhaid edrych ar y gefnogaeth sydd yna dros y byd, y dilyniant ar y cyfryngau cymdeithasol ag ati.

"Rhaid cofio hefyd am y buddsoddiad anhygoel mae'r clwb wedi'w gael, a'r gefnogaeth gan yr enwau mawr 'ma."

Marc Lloyd Williams

Marc Lloyd Williams
Disgrifiad o’r llun,

Marc Lloyd Williams yw'r prif sgoriwr yn hanes Uwch Gynghrair Cymru, gyda 319 gôl

Mae Marc Lloyd Williams yn gweld hi'n gwestiwn anodd i'w ateb, gan fod nifer o ffactorau y mae rhaid ystyried. Ond mae un clwb yn amlygu ei hun wrth edrych ar y tablau fel y maen nhw heddiw.

"Mae'n dibynnu sut ti'n edrych ar bethau dydi. Yn ariannol 'sa ti'n deud Wrecsam, o ran stadiwm Caerdydd 'di'r mwya', ac mae Abertawe a Chaerdydd 'di bod yn yr Uwch Gynghrair. Wrecsam sy' 'di cael llwyddiant dros y dair mlynedd dd'wethaf, ia mewn cynghreiriau is, ond ma' nhw 'di dod â chynnwrf i'r gogledd.

"Mae 'na sawl peth ti'n gorfod ei 'styried – ma' bob tocyn 'di'w werthu yn Wrecsam, mewn stadiwm llai dwi'n gwbod, ond os bysa fo'n stadiwm fel Caerdydd yng nghanol y dref siŵr fysa nhw'n llenwi hwnnw hefyd.

"Ar bapur 'sa ti'n deud mai Abertawe di'r mwya' – nhw di'r uchaf yn y tabl o'r tri mwya'."

Wayne Phillips

Wayne PhilipsFfynhonnell y llun, @WaynneP
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Wayne Phillips i Wrecsam dros ddau gyfnod - 1990-98 a 1999 i 2003

Mae Wayne yn wreiddiol o Gaernarfon wrth gwrs, ond yn yr ystyr pêl-droed mae ei galon o yn y gogledd-ddwyrain.

"Yn amlwg dwi am ddweud Wrecsam, 'nes i chwarae i'r clwb am dros 15 tymor a dwi dal i gefnogi nhw. Hwyrach neith rai bobl ddweud Abertawe, ond mae 'na ddadl dros ddweud Caerdydd sydd 'di chwarae yn yr Uwch Gynghrair, a dydi Wrecsam heb wneud.

"Os edrychwch chi ar hanes clwb Wrecsam, y cefnogwyr ag ati, dyna 'di'r canlyniad dwi'n dod ato. Ges i'r fraint o chwarae dros Wrecsam yn erbyn Caerdydd 12 o weithiau a 'nes i ennill Cwpan Cymru yn herbyn nhw hefyd, ac mae cefnogwyr y clwb mor arbennig."

Felly, os mai Wrecsam 'di'r mwyaf, pwy ydi'r ail glwb mwyaf?

"Dwi'n poeni dim pwy sy'n ail na thrydydd na phedwerydd. Wrecsam ydi'r mwyaf."

Andy Legg

And LeggFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Andy Legg am bum tymor gyda Abertawe a phum tymor dros Gaerdydd

Roedd Andy Legg yn gefnwr chwith dros Abertawe a Chaerdydd, ac fe enillodd chwe chap rhyngwladol rhwng 1996 a 2001. Ond mae o'n glir yn ei benderfyniad mai'r Adair Gleision yw clwb mwyaf Cymru.

"Ar y cyfan, 'swn i'n dweud mai Caerdydd di'r mwyaf, y brifddinas. Does 'na ddim llawer ynddi rhwng y pedwar mwya' yng Nghymru, ond dwi yn meddwl mai Caerdydd sydd ar y brig.

"Er, mae Abertawe 'di cael mwy o lwyddiant na Chaerdydd yn ddiweddar, gan fynd i'r Uwch Gynghrair ac aros yno. Aeth Wrecsam allan o'r gynghrair yn gyfan gwbl am flynyddoedd, a Chasnewydd hefyd.

"Ond o ran nifer y cefnogwyr, a'r clwb ei hun, a'r potensial, Caerdydd yw'r mwyaf mae'n siŵr, er mai Abertawe allech chi ddadlau sydd 'di bod y mwyaf llwyddiannus."