'Y cariad sy' gyda fi am ddawnsio'

- Cyhoeddwyd
Un sy' wedi teithio'r byd fel dawnsiwr a choreograffwr yw Osian Meilir o Gei Newydd, Ceredigion.
Bu Osian yn trafod ei yrfa a'i gariad am ddawns ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru. Ar hyn o bryd mae Osian yn rhannu ei amser rhwng Cymru a Llundain ond sylweddolodd yn ifanc iawn mai dawnsio oedd ei fyd, fel mae'n esbonio:
Roedd e'n sylweddoliad eitha' cynnar i ddweud y gwir. O'n i wedi bod yn cymryd gwersi dawns ers bod fi tua chwech oed, ac cyn hynny wedi bod yn clocsio a dawnsio gwerin ers bod fi'n ifanc iawn.
O'n i yn gwneud dawns fel hobi tu allan i'r ysgol. Ers yn ifanc iawn oedd ddim trywydd arall wedi taro fi o ran beth o'n i moyn neud yn y dyfodol. O'n i'n byw a bod yn dawnsio, felly hwnna oedd yr unig beth oedd yn gwneud sens i fi ar y pryd.
Sylwadau negyddol
Yn anffodus, mi oedd yna sylwadau yn yr ysgol, ddim byd rhy ddifrifol ond doedd e ddim yn tynnu oddi wrth gymaint o'n i'n mwynhau dawnsio a'r cariad oedd gyda fi am ddawnsio.
Roeddwn i'n blentyn eithaf thick-skinned, a doeddwn i ddim yn gadael iddo effeithio fi o gwbwl.
Yn ystod ysgol uwchradd, roedd y diddordeb yn tyfu ac oeddwn i'n cymryd y peth yn fwy difrifol, ac roeddwn i'n mynd i gyrsiau mwy broffesiynol. Wedyn 'nes i fynd i astudio yng ngholeg Trinity Laban yn Llundain a graddio mewn dawnsio cyfoes, ac wedyn gradd meistr mewn perfformio dawns hefyd.

Osian Meilir o flaen y Sydney Opera House
Byd cystadleuol
Mae'n faes gystadleuol ond hefyd mae'r celfyddydau yn dioddef ar hyn o bryd, o ddiffyg arian, diffyg cyllid. Mae'r swyddi yn mynd yn llai a llai i gael gafael arnyn nhw. Ond dwi wedi bod yn lwcus.
O'n i wastad wedi dwli ar coreograffi ac wedi bod yn hoffi creu dawnsfeydd fy hun, oedd hwnnw'n ail natur i fi mewn ffordd. Roedd e'n rhywbeth roedd yn teimlo'n naturiol iawn i fi.
Dwi wedi bod yn teithio fel perfformiwr, yn gwneud gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc, perfformio yn America ar ôl graddio gyda chwmni o Iwerddon, a wedyn nes i fynd ati wedyn i ddechrau creu gwaith fy hun.
'Nes i weithio i'r cwmni theatr Arad Goch i greu darn unigol, ac wedyn ers hynny wedi bod yn creu darnau fy hun, cynhyrchu a choreograffi a chyfarwyddo darnau fy hun.
Darnau ar gyfer yr awyr agored i ddechrau, Qwerin (grŵp gwerinol) yn un ohonyn nhw sydd wedi teithio lot yng Nghymru a rhyngwladol erbyn hyn hefyd.

Yn 2021 fe sefydlodd Osian y grŵp ddawns Qwerin sydd wedi ei seilio ar wead a phatrymau'r ddawns werin Gymreig, ynghyd ag egni bywyd nos Cwiar.
Perfformio gyda Qwerin yng Nghwpan Rygbi'r Byd
Gathon ni gyfle i berfformio yn Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc nôl yn 2013. Roedd hwnna'n brofiad anhygoel i ddod a dawns a rygbi ynghyd mewn ffordd annisgwyl. Fel y bachgen 'na sydd wedi bod yn rhedeg i ffwrdd o bêl-droed a rygbi i fynd mewn i stiwdio dawns fy holl blentyndod ac wedyn cael gwahoddiad i berfformio yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Oedd e'n arbennig ac yn gyfle gwych.
Dylanwad dawnsio gwerin
Mae cael y cefndir yna yn tyfu lan yn dawnsio gwerin a chlocsio ers yn ifanc ac wedyn mynd i ffwrdd i astudio dawns cyfoes wedi cael dylanwad mawr ar fy ngyrfa dawnsio cyfoes i.
Mae'r patrymau, y camau, y rhythmau, a'r synau i gyd o'r byd gwerinol Cymreig yn cael dylanwad mawr ar fy ngwaith. Mae'n gyfuniad o'r holl bethau yna.
Teithio'r byd
Dwi'n mynd i Siapan gyda Theatr Cymru i greu cynhyrchiad dawns y Ceirw. Roedd yn gynhyrchiad dawns a theatr a cheddoriaeth gan Casi Wyn, ac mae'r cynhyrchiad yna allan yn Siapan ar hyn o bryd. Ni'n gyffrous iawn i fynd a'r gwaith yna.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd15 Medi
