Prosiect camera newydd i fad achub
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect camera newydd yn golygu bod Cymdeithas y Bad Achub yng Nghei Newydd yng Ngheredigion yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda'r gwaith o gyfathrebu gyda'r wasg.
Bydd y criw yn defnyddio camera helmed er mwyn recordio gwaith achub.
Dywedodd llefarydd ei bod hi'n anodd cael digon o bobl yn ystod oriau'r dydd.
Yn ôl Roger Couch, rheolwr y mudiad yn y dre: "Gan fod mwy o weithgareddau hamdden yn gysylltiedig gyda'r môr a phobl yn ymweld â llefydd glan y môr mae yna fwy o alw am ein gwasanaeth.
"Mae nifer o'r criw yn gweithio y tu allan i'r dre ac felly rydym yn apelio i wirfoddolwyr gysylltu â ni."
Dywedodd Glyn Griffiths, swyddog y wasg bad achub Cei Newydd: "Fel elusen mae'r RNLI yn ddibynnol ar gefnogaeth y cyhoedd.
"Rydym yn sylweddoli'r angen i gyfathrebu'r math o waith peryglus sy'n cael ei wneud wrth achub pobl.
"Mae sicrhau cyhoeddusrwydd yn fodd o sicrhau cefnogaeth y cyhoedd."
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwaith gwirfoddol gyda'r RNLI yng Nghei Newydd gysylltau a Mr Couch ar 01545 560311 neu 07768 663 666h.