Nifer mewn gorymdaith i fynd i'r afael ag ail gartrefi ym Methesda

Roedd dros 150 o bobl yn rhan o'r orymdaith ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mewn Rali ym Methesda heddiw cafwyd galwadau ar y llywodraeth i wneud mwy i fynd i'r afael â'r hyn sy'n cael ei alw yn 'argyfwng tai' drwy gefn gwlad.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, a drefnodd y digwyddiad fel rhan o gyfres o ralïau 'Nid yw Cymru ar werth', mae angen i'r llywodraeth wneud llawer mwy mewn meysydd gwahanol yn ymwneud â thai.
Roedd pobl o bob cwr o Gymru wedi ymgynnull yno er mwyn tynnu sylw at yr achos.
Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithredu ac y "dylai pobl gael mynediad at gartref gweddus, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol."
'Y farchnad dai yn methu cymunedau'
Bu ymhell dros 150 o bobl o bob oed yn gorymdeithio drwy strydoedd Bethesda ddydd Sadwrn.
Yn eu plith oedd Owain Meirion, Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith ac roedd o'r farn nad oes 'na "ddigon o dai fforddiadwy i bobl leol".
"'Da ni'n gwybod bod cymunedau ym Methesda ac ar draws Cymru… mae'r farchnad dai yn eu methu nhw… does 'na'm digon o dai fforddiadwy i bobl leol i'w prynu na'u rhentu, mae'r farchnad dai wedi eu methu nhw.
"Yr alwad heddiw ydi i'r llywodraeth wneud mwy, bod 'na gynnydd mawr yn y nifer o dai sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus a'r alwad benodol heddiw ydi mwy o dai mewn perchnogaeth gymunedol."
Ychwanegodd fod "angen i'r llywodraeth gymryd rôl fwy rhagweithiol yn adfer y stoc dai cymdeithasol yna ac yn rhoi cymorth i gymunedau thrwy ddeddfwriaeth a thrwy arian i greu mwy o fentrau cymunedol".

Dywed Meleri Davies fod prisiau tai wedi codi'n arw yn y blynyddoedd diwethaf
Un arall oedd yn yr orymdaith oedd Meleri Davies, sydd wedi bod yn gweithio yn y gymuned yn Nyffryn Ogwen ers blynyddoedd.
Mae hi bellach yn magu teulu yn yr ardal ac o'r farn fod prisiau tai wedi codi'n arw yn y blynyddoedd diwethaf.
"Mae prisiau tai wedi mynd trwy'r to ac mae o'n bryder cynyddol i unrhyw un sy'n byw yn y dyffryn 'ma, sut 'da ni yn mynd i gael tai i'n plant ni yn y dyfodol," meddai.
"Mae hi hefyd yn Rali sy'n dod â'r gymuned at ei gilydd ac mae gennym ni ysbryd cymunedol aruthrol yn y Dyffryn 'ma i ddod at ein gilydd ac mae hynny yn wir am y sector dai hefyd".

Fe deithiodd Hedd Ladd Lewis o Sir Benfro ar gyfer yr orymdaith
Ond nid pobl leol yn unig oedd yn rhan o'r orymdaith, gyda rhai wedi teithio o ardaloedd eraill yng Nghymru sy'n wynebu'r un problemau.
Dywedodd Hedd Ladd Lewis ei fod "wedi dod lan o ogledd Sir Benfro i ddangos cefnogaeth... oherwydd yr un yw'r problemau sydd ganddom ni yn y gorllewin."
Ychwanegodd fod "prisiau tai allan o gyrraedd ein pobl ifanc ni ac ry'n ni'n gweld y gymuned yn dadfeilio… mae hi'n argyfwng dai ar hyd a lled Cymru".
Dywedodd Jack Edwards, o Lanaber - y tu allan i Abermaw (Bermo) - na fyddai'n gallu prynu tŷ yn ei ardal "oherwydd faint mae'r pris wedi cael ei roi i fyny gan ail gartrefi".
Dywedodd fod "'na lawer o ail gartrefi, mae 'na Air b&bs ac mae hynny wedi achosi i'r pris fynd i fyny".

Dywed Tegwen Northam: "Mae 'na rai tai sy'n wag trwy'r flwyddyn," meddai gan ddweud fod hyn yn "effeithio ar ein hiaith ni"
Yr un yw barn Tegwen Northam, sydd o Fethesda yn wreiddiol ond bellach yn byw yn Rachub.
Dywedodd: "Mae 'na ormod o dai haf ym Methesda a thai air b&b hefyd.
"Mae 'na rai tai sy'n wag trwy'r flwyddyn," meddai gan ddweud fod hyn yn "effeithio ar ein hiaith ni.
"Mae'n effeithio'r gymuned ac mae o'n effeithio pris tai so 'di pobl leol ddim yn medru prynu tai".
Wrth ymateb i'r brotest, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Dylai pobl gael mynediad at gartref gweddus, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol.
"Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'n Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd, sy'n gam pwysig i gyflawni hyn."