Fy stori mewn coch: Uno diwylliannau Nigeria a Chymru mewn lluniau

- Cyhoeddwyd
Yn wreiddiol o Idofin, Nigeria, mae'r ffotograffydd Taiye Omokore bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Ers symud i Gymru, mae'n canolbwyntio ar bontio ei gefndir Nigeraidd gyda'i brofiadau yng Nghymru drwy ei waith; mewn adrodd straeon, ffasiwn a ffotograffiaeth.


Mae ei lyfr cyntaf, My Story in Red, yn brosiect personol iawn sy'n plethu cynhesrwydd ac egni diwylliant Nigeria gyda thirwedd ac ysbryd Cymru.
Wrth ddefnyddio'r lliw coch i gynrychioli cariad, dewrder a thrawsnewid, mae'r llyfr yn edrych ar hunaniaeth, hiraeth a hunan-fynegiant drwy elfennau symbolaidd fel y gèlè (gorchudd pen) a'r fìlà (cap).
Mae My Story in Red yn dathlu cryfder a harddwch hunaniaeth Nigeria, ac yn gwahodd pobl i ystyried cartref, traddodiad a pherthyn, meddai Taiye.


Yn 2023, cafodd Taiye ei wobrwyo yn Artist Gweledol y Flwyddyn yng Ngwobrau Hanes Pobl Ddu Cymru, ac mae'n gyfarwyddwr golygyddol cylchgrawn Klat sydd yn hyrwyddo artistiaid newydd a lleisiau sy'n cael eu tangynrychioli yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd comisiwn diweddaraf Taiye, Dyfodol Du, yn ymddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.







Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2021
