Meri Huws yw'r Comisiynydd Iaith newydd
- Cyhoeddwyd
Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith, yw'r Comisiynydd Iaith newydd.
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, hyn yn y Senedd yng Nghaerdydd brynhawn Mercher.
Cafodd y swydd newydd ei chreu wedi i ddeddfwriaeth gael ei phasio ym mis Rhagfyr.
Bydd y comisiynydd yn delio â chwynion aelodau'r cyhoedd am sefydliadau a busnesau y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnyn nhw.
Dywedodd Mr Jones: "Fe fydd hi'n eiriolwr ardderchog dros y Gymraeg.
"Mae'r swydd newydd hon yn hollbwysig i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru, sef sicrhau iaith Gymraeg fyw a ffyniannus."
Bydd y comisiynydd yn gallu annog a chynghori busnesau nad yw'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnyn nhw.
Ar y cyfan, mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio ar gwmnïau cyhoeddus fel cwmnïau telegyfathrebu ac ynni.
'Cryfhau'r Gymraeg'
Mae Ms Huws yn gyn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
"Bydda i'n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu," meddai hi.
Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, Sgiliau a'r Gymraeg: "Dw i'n edrych ymlaen at weithio gyda Ms Huws yn y dyfodol.
"Gan ein bod wedi gallu penodi mor gynnar â hyn fe all hi gyfrannu at y gwaith pwysig sydd o'n blaenau a'n helpu ni i gynllunio ar gyfer datblygu Swyddfa'r Comisiynydd.
"Mae trafodaethau eisoes yn cael eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg ynghylch hynny."
'Annibynnol'
Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones: "Rwy'n llongyfarch Meri Huws yn fawr iawn ar gael ei phenodi yn Gomisiynydd y Gymraeg.
"Mae Meri, wrth gwrs, yn gyfarwydd iawn â holl waith presennol y bwrdd a hefyd wedi bod yn rhan o'r broses o ddilyn hynt a helynt Mesur yr Iaith Gymraeg (2011).
"Ar ran holl staff ac aelodau Bwrdd yr iaith Gymraeg, rwy'n dymuno'n dda iddi yn y dyfodol."
Dywedodd Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Rydym yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg a rhoi buddiannau pobl Cymru yn gynta yn hytrach na dilyn tueddiad yr hen Fwrdd yr Iaith, asiantaeth o'r llywodraeth oedd yn canolbwyntio ar gyfaddawdu â busnesau a sefydliadau mawrion.
"Mae cyfle i wireddu hyn gyda'r swydd newydd hon a dyna fydd yr her felly i'r comisiynydd".
Ymchwiliadau
Bydd disgwyl i'r comisiynydd lunio adroddiad bob pum mlynedd am sefyllfa'r Gymraeg.
Mae disgwyl iddi gynnal ymchwiliadau i unrhyw faes o ddiddordeb i'r Gymraeg - a chynghori'r llywodraeth ar bolisi iaith.
Fe fydd yn edrych ar bolisïau'r llywodraeth a sut y byddan nhw'n effeithio ar y Gymraeg ac fe fydd yn cyd-weithio ag uned iaith gafodd ei sefydlu gan y ddeddfwriaeth.
Bydd grantiau, er enghraifft grantiau'r Eisteddfod Genedlaethol a'r mentrau iaith, yn nwylo'r uned iaith a nhw hefyd fydd yn rheoli prosiectau hybu'r iaith fel Twf sy'n annog rhieni ifanc i siarad Cymraeg â'u plant.
Bydd cyfrifoldebau Bwrdd yr Iaith o ran cynllunio addysg Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i adran addysg y llywodraeth.
Addysg
Ganwyd Ms Huws yng Nghaerfyrddin a chafodd ei haddysg gynnar yn Ysgol Uwchradd Abergwaun.
Wedi hynny bu'n astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, a threuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Rhydychen.
Wedi dychwelyd i Gymru, bu'n weithiwr cymdeithasol yn ardal Sgubor Goch ger Caernarfon.
Fe ddaeth yn ddarlithydd yn y Coleg Normal yn 1984 ac roedd ym Mhrifysgol Casnewydd rhwng 1989 ac 1997 cyn gweithio yn Swyddfa Academaidd Prifysgol Dinas Dulyn tan 1999.
Yna cafodd ei phenodi'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor ac yna'n Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.