Ceffylau yn cau ffordd
- Cyhoeddwyd
Cafodd rhan o ffordd arfordirol yn Llanelli ei chau gan fod 20 o geffylau yn crwydro'n rhydd arni.
Bydd swyddogion Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cwrdd gyda'r heddlu yn ddiweddarach i drafod symud yr anifeiliaid sydd wedi achosi problem ers y penwythnos.
Caewyd rhan o'r B4304 rhwng Ffordd Trostre Isaf a Doc y Gogledd.
Cafodd rhannau o'r ffordd eu cau am rai dyddiau ym mis Ionawr a Chwefror eleni, ond does dim problem wedi bod ers hynny.
Dianc
Mae'n ymddangos i'r ceffylau gael eu rhyddhau ar dir ger Clwb Golff Machynys dros y penwythnos.
Er gwaethaf ymdrechion i gornelu'r anifeiliaid ar safle sydd wedi ei glustnodi ar gyfer tai, llwyddodd y ceffylau i ddianc a chrwydro ar y ffordd unwaith eto.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor fod y ffordd wedi ei chau am gyfnod ers y penwythnos.
Dywedodd: "Mae gennym gyfarfodydd gyda'r heddlu y prynhawn yma ac rydym yn ystyried polisi o ddim goddefgarwch er mwyn datrys y broblem yma cyn gynted â phosib."
Dywedodd y cyngor nad oedden nhw wedi canfod pwy yw perchennog yr anifeiliaid.