Dewis tîm Treialon Cŵn Defaid Cymru

- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos fe gynhaliwyd treialon cŵn defaid i ddewis y 22 ci a'i hyfforddwr fydd yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth y Byd y flwyddyn nesaf.
Daeth 111 o gŵn i gystadlu ar fferm yn ardal Dolgoch ger Abergynolwyn yn ne Meirionnydd.
Roedd y treialon yn para' dros gyfnod o dri diwrnod ac un o'r trefnwyr oedd Dylan Davies o Sylfaen ger Y Bermo sy'n gweithio fel bugail ac yn gystadleuwr brwd mewn treialon cŵn defaid.
"Mae'r rhain yn dreialon pwysig yn ein calendr ni, mae'n gystadleuol ac mae cŵn yn dod yma o ar draws Gymru gyfan i drio cael eu dewis i fynd i'r World Championships y flwyddyn nesaf," meddai.
'Blynyddoedd o hyfforddi'
Mae hyfforddi ci a chymryd rhan mewn treialon o'r fath yn cymryd blynyddoedd o hyfforddi.
Mae Dylan wrthi'n cystadlu ers bron i ugain mlynedd ac mae wedi cael cryn lwyddiant yn y gamp.
"Nes i ddechrau cystadlu tua 2008. Ro'n i'n gweithio ar fferm yn ardal Cwm Pennant ac roedd gen i gŵn ar y fferm.
"Mae'n broses on going i gyrraedd y lefel sydd ei angen i gystadlu yn rhyngwladol.
"Dwi'n cymryd rhyw dair i bedair blynedd i hyfforddi ci; fel mae'r hen air yn ei dd'eud, blwyddyn dan pob coes y ci i'w hyfforddi'n iawn.
"Unwaith ydach chi'n cyrraedd lefel uchel, mae pob symudiad mae'r ci yn ei wneud yn bwysig.
"Dwi wedi cael fy hyfforddi gan rai da, pobl fel Derek Scrimgeour o Carlisle, Aled Owen Llangwm a Wyn Edwards o Rhuthun," meddai.

Roedd Dylan Davies wedi helpu i drefnu'r treialon dros y penwythnos
Mae Pencampwriaethau'r byd yn cael eu cynnal fis Medi y flwyddyn nesaf yn yr Alban.
Mae Dylan wedi cynrychioli Cymru ddwywaith o'r blaen yn rhyngwladol yn 2023 a 2024.
Mae tîm Cymru ac unigolion sy'n cystadlu yng Nghymru yn cael eu hystyried fel rhai o'r goreuon yn y byd.
Mae record Cymru yn y byd treialon cŵn defaid yn barchus iawn, ac mae parch mawr tuag at eu doniau yn rhyngwladol.
"Rydan ni'n lwcus iawn yng Nghymru i gael cŵn ac hyfforddwyr da iawn.
"O ran y cystadlu dros y penwythnos, pwy bynnag oedd yn arwain pob dydd oedd yn mynd i'r run off a phwy bynnag sy'n dod i'r brig wedyn sy'n cael eu dewis fel capten y tîm ar gyfer y flwyddyn nesaf," meddai Dylan.
Roedd pob ymgeisydd yn cael defnyddio dau gi, ac roedd Dylan ei hun yn mynd amdani.
Cystadlu'r penwythnos

Tîm Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf ar ddiwedd y treialon
Ar y bore Llun wedi'r treialon roedd y 22 ymgeisydd a'u cŵn wedi'i dewis.
"Yn anffodus doedd y treialon yma ddim yn rai llwyddiannus i mi ond fyddai dal yn mynd i'r Alban y flwyddyn nesaf fel Llywydd y Gymdeithas yng Nghymru," medd Dylan.
O ran y canlyniadau, Aled Owen Llangwm a'i gi Llangwm Tom lwyddodd i gael y pwyntiau uchaf ac fydd felly yn arwain tîm Cymru ym mhencampwriaethau'r byd.
Bydd Gary Davies o Lanelwedd yn cystadlu am y tro cyntaf ar ôl iddo ddod yn gyntaf yn y treialon ddydd Gwener gyda Blairemoor Lad.
Dau arall fydd yn nhîm Cymru fydd Bryn Davies a'i fab Arwyn o Fryneglwys, Sir Ddinbych.
Bydd Pencampwriaethau'r Byd yn digwydd fis Medi nesaf ar fferm Huntington yn Lauder, Yr Alban.

Aled Owen o Langwm fydd yn arwain tîm Cymru fel Capten y flwyddyn nesaf yn Yr Alban
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd22 Awst
- Cyhoeddwyd15 Medi