Cwpan Ryder a'r chwaraewyr o Gymru

Cwpan Ryder
  • Cyhoeddwyd

Mae diwedd mis Medi bob dwy flynedd yn cyffroi holl gefnogwyr golff y byd wrth i chwaraewyr o America ac Ewrop frwydro i ennill Cwpan Ryder.

Eleni, cwrs Bethpage Black yn Efrog Newydd sy'n cynnal y gystadleuaeth.

Er gwaethaf y diffyg Cymry yn y tîm eleni, ers y gystadleuaeth gyntaf ar gwrs Gleneagles yn 1921, mae saith Cymro wedi'u dewis i dîm Prydain, neu Ewrop ar ôl i'r drefn newid yn 1979.

Dyma eu hanes:

Bert Hodson

Bert HodsonFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Bert Hodson ar gefn cerdyn sigarét yn yr 1930au

Yn wreiddiol o ardal Casnewydd, Bert Hodson oedd y Cymro cyntaf i gael ei ddewis i chwarae i dîm Prydain yng Nghwpan Ryder 1931.

Ag yntau ond yn 25, Hudson oedd chwaraewr ieuengaf tîm Prydain.

Hon oedd y drydedd tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal, a'r flwyddyn honno, cwrs Scioto yn Columbus, Ohio oedd y lleoliad.

Er i Hodson fethu ag ennill pwynt, Prydain oedd yn fuddugol o naw pwynt i dri.

Dai Rees

Dai ReesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dai Rees yn codi Cwpan Ryder 1957 fel enillydd a chapten Prydain

Fe chwaraeodd Dai Rees mewn naw Cwpan Ryder ac roedd yn gapten ar y tîm buddugol yn 1957.

Roedd Rees yn dod o Forgannwg ac mae'n cael ei ystyried yn un o'r chwaraewyr golff gorau cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Dechreuodd chwarae yn 16 oed tra'n helpu ei dad ar gwrs golff Aberdâr.

Chwaraeodd ei Gwpan Ryder cyntaf yn 24 oed yn 1937 ar gwrs Southport and Ainsdale yn Lloegr, lle enillodd bwynt a hanner i Brydain, y sgôr uchaf yn y tîm, ond America enillodd o wyth pwynt i bedwar.

Roedd yn rhaid disgwyl degawd arall nes y gystadleuaeth nesaf o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd.

Cafodd Rees ei ddewis i Gwpanau Ryder 1947, 1949, 1951, 1953, 1955, 1957, 1959 ac 1961.

Roedd yn gapten yn 1957 ar gwrs Lindrick yn Lloegr ac fe enillodd Prydain o saith a hanner o bwyntiau i bedwar pwynt a hanner i America.

Dyma'r unig dro i America golli'r gwpan rhwng 1933 a 1985.

Aeth yn ei flaen i fod yn gapten dair gwaith eto dros Brydain yn 1959, 1961 ac 1967, ble'r oedd yn gapten doedd ddim yn chwarae.

Dave Thomas

Dave ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dave Thomas

Er iddo gael ei eni yn Newcastle yn 1934, roedd gwreiddiau teuluol Thomas yn dod o Gymru.

Roedd yn fab i beiriannydd glofaol o Aberpennar ac roedd yn ystyried ei hun yn Gymro pan yn chwarae golff yn gystadleuol.

Cafodd ei ddewis ar gyfer Cwpan Ryder 1959 ar gwrs Eldorado yn Indian Wells, California.

Dai Rees oedd y capten, a dyma'r tro cyntaf i ddau Gymro gynrychioli Prydain yn y gystadleuaeth.

Fe gafodd ei ddewis dair gwaith eto i Brydain yn 1963, 1965 a 1967 a dim ond un waith y collodd mewn pump rownd sengl.

Yn ogystal â chwarae, roedd Thomas hefyd yn enwog am ddylunio cyrsiau golff.

Brian Huggett

Brian HuggettFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Brian Huggett yn ystod Cwpan Ryder 1972

Fe chwaraeodd Huggett o Borthcawl chwe gwaith dros Brydain yn y Gwpan rhwng 1963-75.

Roedd yn cael ei ystyried yn un o brif golffwyr Ewrop drwy'r 60au a 70au ac un o'r gorau erioed i ddod allan o Gymru.

Er iddo ennill 16 o brif gystadlaethau Ewrop yn ei yrfa, mae'n cael ei gofio fwyaf am y nifer o weithiau gafodd ei ddewis i dîm Cwpan Ryder.

Un o'r ymddangosiadau enwocaf oedd ar ddiwrnod olaf yn y Royal Birkdale yn 1969, ble roedd rhaid iddo suddo ergyd ar y 18fed twll i ennill y Gwpan i Brydain.

Fe lwyddodd gyda'i siot o bum llath i sicrhau mai cyfartal oedd y gystadleuaeth y flwyddyn honno 16-16, mewn cyfnod ble roedd America mor gryf.

Cafodd ei ddewis fel capten ar gyfer y gystadleuaeth yn 1977 ar gwrs Royal Lytham & St Annes gydag America yn ennill 12 a hanner i saith a hanner.

Ian Woosnam

Ian WoosnamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ian Woosnam yn codi Cwpan Ryder 2006 fel y capten buddugol

Er iddo gael ei eni yng Nghroesoswallt, fe dreuliodd Woosnam gyfnod hir yn chwarae ei golff ar gwrs Llanymynech.

Cafodd ei ddewis wyth gwaith yn olynol i gynrychioli Ewrop fel chwaraewr rhwng 1983 nes 1997.

Fe chwaraeodd mewn 31 o gemau i gyd ac ennill record o 14, colli 12, a phum hanner pwynt.

Mae hefyd yn cael ei ystyried yn un o'r The Big Five, sef pum chwaraewr campus sydd wedi'i geni'r un flwyddyn ac ennill prif gystadlaethau golff y byd, ynghyd â Seve Ballesteros, Nick Faldo, Bernhard Langer a Sandy Lyle.

Efallai mai 2006 yw'r flwyddyn y caiff Woosnam ei gofio fwyaf yng nghyd-destun Cwpan Ryder.

Fe arweiniodd Ewrop i fuddugoliaeth gyfforddus o 18 a hanner i 9 a hanner fel capten ar gwrs The K Club yn Iwerddon.

Phil Price

Phil PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Phil Price yn ystod Cwpan Ryder 2002

Yr unig amser i Price o Bontypridd gynrychioli Ewrop oedd ar y Belfry yn 2002.

Roedd y gystadleuaeth i fod i gael ei chynnal yn 2001, ond oherwydd yr ymosodiad terfysgol yn Efrog Newydd ar 11 Medi, cafodd y gystadleuaeth ei gohirio am flwyddyn.

Erbyn 2002 roedd perfformiadau Price wedi gostwng yn sylweddol, ond roedd y penderfyniad wedi'i wneud i gadw'r un tîm â'r hyn a ddewiswyd ar gyfer 2001.

Roedd tipyn o wrthdaro rhwng Price a Colin Montgomery oedd ar yr un tîm, gan fod Montgomery wedi cymryd cadi Price oddi arno.

Roedd y ddau yn ffrindiau eto cyn iddyn nhw gyfrannu at fuddugoliaeth i Ewrop o 15 a hanner i 12 a hanner.

Llwyddodd Price i guro Phil Mickelson o America, oedd ar y pryd yn rhif 2 yn rhestr detholion y byd yn y rowndiau sengl ar ddiwrnod olaf y gystadleuaeth.

Jamie Donaldson

Jamie DonaldsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Donaldson gyda Chwpan Ryder yn 2014

Bydd cyfraniad Donaldson i dîm Ewrop yn cael ei gofio am daro'r siot fuddugol i ennill y gwpan i Ewrop ar gwrs Gleneagles yn 2014.

Dyna'r unig flwyddyn i Donaldson, sydd hefyd yn dod o Bontypridd, gael ei ddewis i gynrychioli Ewrop.

Ar y diwrnod hwnnw yn 2014, roedd Donaldson ar y 15fed twll ac yn wynebu Keegan Bradley o America.

Llwyddodd i daro ei ail siot 146 troedfedd o fewn modfeddi i'r twll. Roedd hi'n ergyd mor dda fe enillodd gwobr siot orau'r flwyddyn yn 2014.

Ewrop enillodd y flwyddyn honno o 16 a hanner i 11 a hanner.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig