Eluned Morgan am weld baneri Cymru ar gardiau adnabod digidol

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd Llafur yn yr Alban yn gobeithio gweld yr un opsiwn ar gael yno, meddai Eluned Morgan

  • Cyhoeddwyd

Dylai cardiau adnabod digidol pobl o Gymru fod â baner y Ddraig Goch arnyn nhw, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan y byddai hi'n "bendant" yn cyflwyno'r syniad i Lywodraeth y DU, gan ychwanegu fod arweinydd Llafur yr Alban, Anas Sarwar yn bwriadu gwneud yr un fath.

Yr wythnos ddiwethaf fe gadarnhaodd Syr Keir Starmer y byddai cardiau adnabod o'r fath yn cael eu cyflwyno erbyn diwedd cyfnod y Senedd hon.

Dan gynlluniau'r Llywodraeth Lafur yn San Steffan, bydd angen i bob oedolyn sydd am weithio yn y DU fod â cherdyn digidol o'r fath.

Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Syr Keir Starmer gynlluniau i gyflwyno cardiau adnabod digidol mewn cynhadledd yn Llundain ddydd Gwener

Dywedodd Ms Morgan nad oes unrhyw drafodaethau am edrychiad y cardiau mewn gwahanol wledydd wedi digwydd eto, ond ei bod hi'n gefnogol iawn o weld opsiwn i gynnwys baner Cymru.

"Mae hynny'n bendant yn rhywbeth y bydda i yn ei wthio mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU," meddai.

Nid oes opsiwn ar hyn o bryd i bobl gynnwys baner Cymru ar basbortau neu drwyddedau gyrru, ond mae'r trwyddedau yn ddwyieithog.

Byddai'r cardiau digidol newydd - sy'n rhan o ymdrech gan y llywodraeth i fynd i'r afael â gweithio anghyfreithlon - yn cael eu storio ar ffonau symudol, ac yn cynnwys gwybodaeth fel enw, dyddiad geni, cyfeiriad a llun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig