Super Furry Animals mewn lluniau

Super Furry AnimalsFfynhonnell y llun, Ryan Eddleston
Disgrifiad o’r llun,

Super Furry Animals, Awst 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Super Furry Animals wedi cyhoeddi y byddant yn mynd ar daith ym mis Mai 2026.

Bydd y daith yn dechrau yn Nulyn ar 6 Mai, cyn ymweld â Glasgow, Llandudno, Caerdydd, Manceinion a Llundain.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r band chwarae cyfres o gigs ers bron i ddegawd.

Ffurfiwyd y band yn 1993, gyda dau o aelodau'r band, Gruff Rhys a Dafydd yn rhan o Ffa Coffi Bawb (1986-92).

Dyma gasgliad o luniau o'r Furries dros y blynyddoedd.

Super Furry Animals yn phoneixFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae yn Phoenix yn 1996, gan berfformio caneuon o'u halbym cyntaf, Fuzzy Logic

super furry animalsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dros y blynyddoedd fe ddatblygodd y band gyfeillgarwch gyda'r awdur a chyn-smyglwr, Howard Marks. Yma, maent yn nhŷ Marks yn Mallorca yn 1996

super furriesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y band dipyn o sylw am ddod â tanc i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo, Awst 1996

Super Furry AnimalsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn dilyn llwyddiant Fuzzy Logic cafodd ail albwm y band, Radiator, ei ryddhau yn 1997

Super Furry Animals yn 1998Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Perfformio ym mis Awst, 1998

Super Furry AnimalsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2000 rhyddawyd Mwng, yr albwm Cymraeg gafodd ei ganmol tu hwnt i ffiniau Cymru, gan gynnwys y cylchgrawn NME

Super Furry Animals yn NulynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr albwm mwyaf llwyddiannus o ran y siartiau oedd Rings Around the World, a gyrhaeddodd safle rhif tri yn 2001.

Yn y llun mae'r band yn chwarae yn Whelan's Bar, Dulyn, ar 11 Tachwedd, 2001

Super Furry Animals yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llun hyrwyddo'r albwm Phantom Power yng Nghaerdydd yn 2003

Super Furry Animals - Mehefin 2003Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gig yng Nghaerdydd, 27 Mehefin, 2003

Super Furry Animals yn y Brixton AcademyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae yn y Brixton Academy, Llundain, 22 Medi, 2005 - y flwyddyn yma cafodd yr albwm Love Kraft ei ryddhau

Super Furry Animals - Glastonbury 2007
Disgrifiad o’r llun,

Ar lwyfan Glastonbury yn 2007

Super Furries 2012Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwarae cyn gêm Cymru yn erbyn Costa Rica, 29 Chwefror 2012, a oedd yn gêm gyfeillgar er cof am Gary Speed

Super Furry Animals Glastonbury, 2015
Disgrifiad o’r llun,

Noson gofiadwy arall yn Glastonbury yn 2015

Super Fury Animals 2015Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Perfformio ym Mhrifysgol Caerdydd, 2 Mai 2015

Super Furry Animals yn NulynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gruff a Guto ar lwyfan yr Olympia Theatre yn Nulyn, 1 Rhagfyr, 2016

Super Furry Animals - 6 Music Live ar BBC Radio 6 Music, Maida Vale
Disgrifiad o’r llun,

Yn ymddangos ar BBC Radio 6 Music yn Stiwdios Maida Vale, 3 Hydref, 2016

Gruff Rhys yn NulynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ogystal a'i waith gyda'r Super Furries, mae Gruff Rhys wedi rhyddhau naw albwm unigol, gan gynnwys Candylion, American Interior, a'r albwm gafodd ei ryddhau tair wythnos yn ôl, Dim Probs

Pynciau cysylltiedig