Cofio Ryan a Ronnie, 50 mlynedd ers y sioe olaf

- Cyhoeddwyd
Roedd Ryan a Ronnie'n berfformwyr hynod boblogaidd yng Nghymru, a thu hwnt, o ddiwedd y 1960au tan ganol y 1970au.
Daeth y bartneriaeth rhwng Ryan Davies a Ronnie Williams i ben yn 1975, gyda'r ddau'n iau na 40 mlwydd oed.
Un oedd yn 'nabod y ddau, a berfformiodd gyda nhw, ac a ysgrifennodd lyfr amdanyn nhw, yw Hywel Gwynfryn.
"Dod ar draws Ronnie 'nes i'n gyntaf, achos o'dd o'n gweithio yn y BBC fel cyhoeddwr," meddai Hywel.
"'Nes i gymdeithasu gyda fo yng Nghlwb y BBC, a 'nes i ddeud bo fi'n chwilio am rywle i fyw yng Nghaerdydd - 'tyrd i aros efo fi yn Rhiwbeina' medda fo, a dyna 'nes i."
Dywed Hywel iddo fyw gyda Ronnie am tua naw mis i flwyddyn, a'i fod yn "foi hyfryd, annwyl iawn, ac yn barod i helpu efo rwbath".
Creu argraff ar Merêd
"Y cam pwysig ym mywyd Ronnie wrth gwrs oedd cwrdd â Ryan, a oedd yn athro yn Llundain ar y pryd," meddai Hywel.
"Merêd (Dr. Meredydd Evans) oedd pennaeth adran rhaglenni ysgafn yn y BBC, a oedd yn adran newydd sbon ar y pryd.
"Ryan a Ronnie, Jill a Johnny – dyna oedd y pedwar ddaeth at ei gilydd ar y cychwyn.
"O'dd Merêd yn chwilio am double act, a be' 'nath o yn glyfar iawn oedd creu cyfres fer o raglenni ysgafn efo'r pedwar – Ryan a Ronnie'n gwneud y comedi, Jill, a oedd efo triban, a Johnny Tudor."

Ryan a Ronnie'n perfformio yn 1968, blwyddyn wedi iddyn nhw ffurfio fel act
Unwaith y gwelodd Merêd y criw'n perfformio, dywedodd Hywel fod y dewis yn un clir.
"'Nath o (Merêd) sbïo ar rhain a dweud 'dyna nhw, dwi isio'r ddau yna!' (Ryan a Ronnie). Roedd Merêd fel rhyw Simon Cowell o'i gyfnod, ac yn ddisgyblwr llym iawn.
"A'th Merêd i Lundain i drio perswadio Ryan i arwyddo cytundeb blwyddyn efo'r BBC, i wneud pob math o bethau, tu hwnt i Ryan a Ronnie. Ryan gafodd y cytundeb cyntaf, a fy claim to fame i ydi mai fi gafodd yr ail gytundeb!
"Pan oeddech chi'n actio neu yn y byd perfformio cyn hynny yng Nghymru, gwneud o rhan amser oeddech chi - amatur yn ystyr orau'r gair."

Ryan a Ronnie yn perfformio ym mhantomeim Cinderella yn Theatr y Grand yn 1972
Mae Hywel yn cofio bod dechreuad y pâr yn cyd-fynd â dyfodiad un o sefydliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol Cymru.
"Gen i ryw gof bod Merched y Wawr a Ryan a Ronnie 'di dechrau yn yr un flwyddyn yn Y Bala yn 1967, ble'r oedd yr Eisteddfod y flwyddyn honno.
"O fan'no fe dyfodd pethau - doeddwn i ddim yn gwneud dim efo nhw fel perfformwyr ar y pryd, ond mi roedden nhw'n ffenomenon.
"Doedd neb 'di gweld rhywbeth tebyg iddyn nhw o'r blaen yng Nghymru, a nhw ddaeth â phroffesiynoldeb i Gymru.
"Mi ddaethon nhw â microphones am y tro cynta' i'r Noson Lawen - cyn hynny oedd rhaid jest gweiddi o'r llwyfan. Oedd Ryan yn fwy showbiz 'na Ronnie, yn licio'r trappings, ac roedden nhw'n troi fyny i ryw bentre' bach yng nghefn gwlad mewn Jags gwyn.
"Efo Ryan a Ronnie, os oeddech chi'n mynd allan ar y lôn i wneud cyngerdd yn unrhyw fan, roedd rhaid cyrraedd rhwng awr a hanner a dwy awr cyn y sioe, wedi gwisgo'n bwrpasol, ac o'dd eisiau awr cyn y sioe er mwyn i Ryan fynd i chwarae golff."
Ddechreuodd Hywel berfformio efo Ryan a Ronnie, yn gweithio efo criw cyn i'r brif act gyrraedd y llwyfan.
"O'n i ar y llwyfan efo Alun Williams a Glan Davies, a'n job ni oedd cynhesu'r gynulleidfa ar gyfer Ryan a Ronnie."

Hywel yn perfformio fel y Brenin Arthur efo Ryan a Ronnie
Y 'Morecambe and Wise Cymraeg'
Ond roedd yna gynsail i'r hyn oedd wedi ei fwriadu i Ryan a Ronnie, dros y ffin yn Lloegr.
"Syniad Merêd oedd 'pam na allen ni gael cystal stwff yn y Gymraeg ag maen nhw'n ei gael yn Saesneg yn Lloegr?' Ac yr un peth oedd o isio oedd Morecambe and Wise i Gymru – un straightman ac un digri.
"Mi roedd un yn ddigri, sef Ryan, ac roedd un yn cymryd rôl Ernie (Wise) yn y berthynas, sef Ronnie.
"Ond roedd Ronnie'n fwy na hynny. Efallai fod pobl ddim yn sylweddoli, er bod Ryan yn cael y golau arno drwy'r amser ar y llwyfan a phobl yn meddwl 'ew yn tydi Ryan yn grêt', neu 'mae Ryan yn gymaint o hwyl', ychydig iawn o ganmoliaeth a chydnybyddiaeth a gafodd Ronnie."

Eric Morecambe ac Ernie Wise, y ddeuawd a oedd yn ysbrydoliaeth i sefydlu Ryan a Ronnie fel act
"Roedd 'na dalent weledol, ac oedd Ryan yn arian byw yn doedd! Ond roedd 'na dalent sgwennu hefyd, ond doedd hwnnw ddim yn cael ei gydnabod," meddai Hywel.
"Doedd pobl ddim yn deall mai Ronnie oedd yn sgwennu'r deunydd i gyd.
"Doedd Ryan ddim yn sgwennu'r un sgetsh, ond roedd o yn cael syniadau ar gyfer cymeriadau ac ati.
"Ryan oedd yn sgwennu'r caneuon, ac o'ddan nhw'n canu ar ddiwedd bob sioe – mi roedd Ronnie yn casáu y rhan yna, achos roedd gennych chi Ryan oedd efo'r llais hyfryd 'ma, a Ronnie'n mynd allan o diwn yn aml iawn. Roedd rhaid iddyn nhw rehersio'r canu gymaint â'r sgetshys."
Oedd 'na chwerwder o safbwynt Ronnie ei fod yn ddim yn cael gymaint o'r clod?
"Dwi'n meddwl 'nath hyn amlygu ei hun yn y blynyddoedd diwetha', pan oedden nhw 'di bod wrthi efo'i gilydd am gryn dipyn. Roedd Ronnie'n sylweddoli ei fod o'n gweithio'n galed iawn i gael llwyddiant i'r ddeuawd.
"Roedd Ryan yn caru perfformio, bod ar lwyfan neu wrth y piano yng nghlwb y BBC, yn aros 'mlaen ar ôl y sioe i ddiddanu ymhellach. Ond doedd Ronnie ddim fel 'na, mi fysa fo'n sleifio i ffwrdd ar ôl y sioe."
Comedi o'i gyfnod
"Dwi ddim yn meddwl bod o'n deg edrych yn ôl ar ei stwff nhw a barnu, achos ma'n perthyn i'w gyfnod", dywed Hywel.
Roedd comedi'r 1960au a 1970au yn llwyfannu agweddau hiliol a chas, ond yn ôl Hywel, doedd hyn ddim yn wir am Ryan a Ronnie.
"Roedd 'na raglenni gwarthus a hiliol yn y cyfnod, Alf Garnett, Bernard Manning ac ati – a doedd 'na ddim cyfiawnhad amdanyn nhw. Ond doedd 'na ddim o hynny efo Ryan a Ronnie."

Ryan a Ronnie'n ffilmio yn Llundain
Mynd i Lundain a thu hwnt
Roedd y pâr wedi trio'i gwneud hi yn Llundain, ac roedd hefyd sioe deledu Saesneg ei hiaith. Ond tu hwnt i'r gynulleidfa Gymraeg roedd apêl Ryan a Ronnie ychydig yn gyfyngedig.
"Doedd y deunydd ddim yn gweithio cystal yn Llundain i ddweud gwir. Roedd o'n gweithio yng Nghymru achos o'dd o'n Gymreig, ac felly y dylai hi fod wrth gwrs.
"Roedden nhw'n gweithio'n dda efo'i gilydd, ond mae'n siŵr y gwnaeth y berthynas ddirywio pan 'nath iechyd Ronnie ddirywio, gan ei fod yfed yn drwm.
"Fy theori i ydi hyn - dwi'n meddwl be' oedd Ryan isio ei wneud erbyn y diwedd oedd i fynd ar ben ei hun.
"Doedd 'na ddim byd yr oedd Ryan a Ronnie'n ei wneud efo'i gilydd na fedr Ryan ei wneud ar ben ei hun. Oedd o'n gallu bod yn ddoniol ac yn gallu canu, a dyna oedd Ryan a Ronnie mewn gwirionedd, chwerthin a chanu.
"Roedd Ryan isio'i gwneud hi yn Llundain, a'i gwneud hi hefyd yn America. O'dd o hyd yn oed yn actio fel Sammy Davis Jr, y ffordd o'dd o'n dal ei hun ac yn symud ac ati."

Ryan gyda un o feibion enwocaf Cymru, Richard Burton
Bu farw Ryan Davies ar 22 Ebrill, 1977, tra ar wyliau yn Buffalo, Efrog Newydd.
Wedi ei farwolaeth fe geisiodd Ronnie arallgyfeirio a thrio pethau gwahanol.
"Roedd Ronnie erbyn hynny wedi mynd i'r gogledd i fyw, 'di dechrau mynd yn anniddig ac isio newid pethau.
"'Nath o brynu tafarn yng Ngherrigydrudion, ac 'nath o adeiladu lle yn y cefn ar gyfer adloniant.
"Ronnie 'nath ffeindio Gari Williams. Dim Gari oedd ei enw iawn o wrth gwrs, Emyr oedd o, ac o'dd o'n perfformio efo'i frawd yn yr act, Emyr ac Elwyn.
"Roedd talent Emyr (fel yr oedd ar y pryd) yn amlwg i Ronnie, ond fe awgrymodd Ronnie iddo newid ei enw, ac felly fe newidiodd ei enw i Gari oherwydd mai ei hoff raglen radio oedd S.O.S. Gari Tryfan."

Olwen Rees, Ryan, Ronnie ac Hywel Gwynfryn
Bu farw Ronnie Williams drwy hunanladdiad yn Aberteifi yn 1997, yn 58 mlwydd oed.
"Mae beth ddigwyddodd i Ronnie'n hynod o drist. 'Nath Ronnie drio rhywfath o ail-greu Ryan a Ronnie gyda pherfformwyr eraill, ond doedd o byth am fod yr un peth heb y dynamig 'na efo Ryan.
"Y tristwch mawr wrth gwrs yw ei fod wedi penderfynu dod â'r cyfan i ben ar y bont 'na yn Aberteifi."
Bu farw'r ddau, Ryan a Ronnie, yn ifanc ac dan amodau trist, ond mae eu cyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru, yn parhau hyd heddiw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2017