Recordio mewn hen feudy a thalu rhent mewn albyms: cofio dechrau stiwdio Sain

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni Sain wedi hen ennill ei phlwyf yn y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg – ond mae un teulu'n cofio cyfnod pan oedden nhw'n recordio mewn beudy ar eu fferm ac yn talu rhent mewn recordiau finyl.

Ac roedd y trefniant yn galluogi'r cwmni ifanc i ddatblygu tra'n dod â manteision - ac ambell anfantais - i'r teulu ifanc oedd yn berchen fferm Gwernafalau, lleoliad y stiwdio.

Tra bod sŵn y drymiau gyda'r nos yn gallu cadw'r plant yn effro, roedd gwybodaeth un mab am gerddoriaeth Cymraeg mor dda fe gafodd ei wahardd rhag cystadlu mewn cwisys pop.

Wrth i'r cwmni gynnal gŵyl i ddathlu hanner canrif ers agor y stiwdio cyntaf hwnnw, mae'r atgofion yn dangos faint mae Sain – a'r diwydiant cerddoriaeth Gymraeg – wedi datblygu ers y dyddiau cynnar.

Teulu Gwernafalau ac albymsFfynhonnell y llun, Llun teulu/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Gwernafalau yn ystod y cyfnod - Glesni, Osborn, Angharad, Lois ac Ifan - a dau albym gafodd eu recordio yn Stiwdio Sain, Gwernafalau a'u rhoi iddyn nhw fel 'rhent' - Syrffio Mewn Cariad gan Endaf Emlyn a Halen y Ddaear gan Injaroc

Sefydlwyd Sain gan Huw Jones a Dafydd Iwan nôl yn 1969. Y bwriad o'r cychwyn oedd rhoi hwb i'r diwydiant cerddoriaeth gyfoes a gwella ansawdd y recordio.

Yn ystod y blynyddoedd cynnar roedden nhw'n rhentu lleoliadau i recordio, o neuaddau pentref i stiwdios proffesiynol, gan gynnwys yr un chwedlonol yn Sir Fynwy, Rockfield.

Ond gyda chostau yn ddrud, y freuddwyd oedd adeiladu stiwdio fyddai'n eu galluogi i roi mwy o amser i'r artistiaid greu recordiau o safon uwch.

Erbyn canol yr 1970au roedd y cwmni wedi symud i'r gogledd ac yn barod i ehangu.

Roedd Huw Jones yn byw ym mhentref Llandwrog, ger Caernarfon, ac yn dechrau magu teulu. Roedd o a'i wraig yn ffrindiau gyda chwpwl ifanc arall oedd hefyd gyda phlant ifanc - ac roedden nhw'n byw mewn hen ffermdy gydag adeiladau gwag ar y tir.

Gweithio ar atgyweirio beudy i fod yn stiwdioFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o waith i'w wneud i baratoi'r stiwdio ar fferm Gwernafalau cyn i unrhyw nodyn gael ei recordio

"Dwi'm yn cofio sut ddigwyddodd o ond maen siŵr bod ni'n trafod y cwmni ac mae'n siŵr wnaeth Huw holi," meddai Glesni Jones, sydd dal gyda'r recordiau finyl o'r cyfnod yn ei chasgliad. "Doedd yna ddim trafod mawr am delerau heb sôn am gontract na dim byd.

"Cyfnod fel yna oedd hi. Roedden ni'n ifanc ac roedd yn antur, ac yn gyfnod o fentro a phawb i weld yn dechrau busnes.

"Hen lôn drol oedd yn dod i Gwernafalau felly wnaethon nhw darmacio lawr i'r lôn ac wedyn y deal oedd bod ni'n cael copi o bob record oedd yn dod allan."

Yn eu mysg mae gwaith gan artistiaid adnabyddus fel Meic Stevens, Geraint Jarman, Hergest ac Edward H. Dafis.

Casgliadau finyl
Disgrifiad o’r llun,

Casgliad finyl teulu Gwernafalau - gan gynnwys nifer gafodd eu recordio yn y stiwdio ar eu tir

Roedd tair rhan i'r stiwdios - y stafell reoli, y prif stiwdio gyda phiano a stafell i'r drymiau, ac roedd swyddfa'r cwmni ym mhentref Penygroes.

Meddai Glesni: "Dwi'n cofio Osborn (Jones - ei gŵr) a chriw o ffrindiau o Sain yn dod i wneud y lle. Hen feudy oedd o ac roedd concrit ar y to - to Sir Fôn (concrit ar ben llechi).

"Roedd rhaid trwsio'r to a dwi'm yn cofio dim llechi dim ond rhoi concrit ar ben y concrit, ac roedd yn rhaid rhoi soundproof rownd y waliau a'r to.

"Roedd 'na un beudy i'r dryms ac weithiau ro'n i'n gorfod gofyn iddyn nhw beidio drymio achos roedd y plant ar fin mynd i gysgu. Felly fasa nhw'n stopio am chydig.

"Dwi'n ei gofio fel cyfnod hapus efo lot o fandiau yn dod acw.

"Ac roedd ganddon ni fwch gafr ar y pryd oedd yn pori fyny'r ffordd, a dwi'n cofio sgrechian mawr rhywbryd. Roedd grŵp Côr Cerdd Dant yn sownd, yn methu mynd heibio'r afr - roedd yr hen fwch wedi mynd am eu ffrogiau nhw."

Drymiwr yn GwernafalauFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Dim rhy uchel os gwelwch yn dda... drymiwr yn Gwernafalau

Un o'r bandiau cyntaf i recordio yn Stiwdio Sain, Gwernafalau oedd Brân ac mae Dafydd Roberts yn cofio'r cynnwrf o recordio yno.

"Roeddem i gyd wrth ein boddau yn cael arbrofi gyda'r dechnoleg newydd, fel y peiriannydd hefyd, a chael cyfle i osod nifer o draciau ychwanegol ar ben y recordiad gwreiddiol - profiad hollol newydd," meddai.

"Yna'r wefr o gael yr holl opsiynau wrth gymysgu'r cwbl! Er mai dim ond recordio ar wyth trac oedd y system newydd, gydag ychydig o ddychymyg, roedd y posibiliadau yn ddiddiwedd!"

Peiriant aml-drac a Dafydd Iwan yn yr 1970auFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Peiriant aml-drac cyntaf Sain (sydd bellach yn Stiwdio Sain, Llandwrog) a Dafydd Iwan yn y stiwdio yng Nghwernafalau

Tua diwedd cyfnod y stiwdio yn Gwernafalau fe wnaeth Eryl Davies weithio yno fel peiriannydd ar ddechrau ei yrfa hir gyda'r cwmni.

"Roedd o'n reit gyntefig – mewn hen feudy ar fferm," meddai. "Dwi'n cofio Bryn Jones a Selwyn Davies y peiriannydd ar y pryd yn dweud eu bod wedi treulio oriau yn glanhau budreddi gwarthed cyn agor y lle.

"Roedd tyllau bach yn y waliau a llygod yn dod dwry'r waliau, ac roedd y gegin ar draws y iard fferm mewn cwt arall a dim ond un tân trydan o dan y ddesg."

Bryn Fon ac Eryl DaviesFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Eryl Davies gyda'r cerddor Bryn Fôn yn stiwdios newydd Sain, gafodd eu hagor yn 1980 a lle bu'n gweithio tan 2007

Yn ystod cyfnod stiwdio Gwernafalau, roedd Glesni ac Osborn yn magu tri o blant, gyda'r hynaf yn yr ysgol gynradd.

Gyda chymaint o artistiaid a cherddoriaeth o gwmpas, roedd yn gyfnod difyr ac addysgedig.

Mynediad am DdimFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Y grŵp Mynediad am Ddim yng Ngwernafalau. Fe wnaethon nhw recordio eu halbwm Wa Macsbredar yno

"Roedd Ioan (y plentyn hynaf) yn gallu mynd i chwarae pêl-droed efo'r hogiau oedd yn recordio," eglurodd Glesni. "Hogia Hergest oedd y gorau. Fyddai Ioan yn sefyll tu allan i'r stiwdio yn disgwyl iddyn nhw orffen ac wedyn yn gofyn i gael cicio pêl.

"Ac roedd o'n gwybod y records oedd yn dod allan mor dda. Roedd 'na raglen ar Radio Cymru ar fore Sadwrn, a fydda nhw'n chwarae record ac am y cynta' i ddeud be' oedd o.

"Roedd Ioan yn 'nabod nhw mor dda roedd o'n clywed y cord cynta a 'ding' roedd o'n gallu enwi fo - felly gafodd o'i banio! Run peth yn Llangrannog - doedd o ddim yn cael bod yn rhan o'r cwis!"

Huw Jones yn y stiwdioFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Huw Jones yn gweithio fel peiriannydd ar ddechrau cyfnod Gwernafalau, a'r stiwdio wedi ei fodelu ar rai Rockfield

Yn 1980, fe ddaeth y cyfnod i ben gyda Sain yn adeiladu stiwdios a swyddfa bwrpasol gerllaw. Dyma eu lleoliad nhw hyd heddiw.

Roedd y stiwdios yn llawer mwy a'r peiriannau hefyd wedi eu huwchraddio i rai 24-trac.

Stiwdio Sain yn 1980Ffynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Stiwdio Sain 1980 ar ôl agor yn eu lleoliad newydd

Fe fydd y stiwdios a thafarn gymunedol Llandwrog, Ty'n Llan yn rhan o ddathliadau Gŵyl Sain ar 27 Medi i nodi'r hanner cant.

Bydd cyfle i weld y stiwdios a chlywed am hanes y cwmni a bydd sgyrsiau a gigs yn cael eu cynnal drwy'r pnawn a gyda'r nos.

Edward HFfynhonnell y llun, Sain
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Edward H. Dafis yn mynd i dafarn gerllaw Ty'n Llan yn ystod cyfnod recordio. Bydd Gŵyl Sain yn cael ei gynnal yno ac yn Stiwdio Sain ar 27 Medi

A bydd stori Stiwdio Sain, Gwernafalau a theulu'r Joneses yn rhan o'r hanes hwnnw.

Y dyddiau yma, mae rhai recordiau Cymraeg o'r cyfnod sydd mewn cyflwr da iawn yn gwerthu am gannoedd o bunnoedd.

Ond yn yr 1970au doedd y teulu ddim yn gweld y finyl fel buddsoddiad i'r dyfodol, dim ond fel ffordd o glywed cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.

Llun GwernafalauFfynhonnell y llun, Angharad Prys
Disgrifiad o’r llun,

Llun diweddar o deulu Gwernafalau - a'r genhedlaeth nesaf nawr mewn oedran mwynhau cerddoriaeth gyfoes

"Maen nhw wedi eu chwarae gymaint tydi'r ansawdd ddim yn dda iawn," meddai Glesni. "Roedda ni'n ifanc ac roedd yn antur.

"Mae'n gyfrif da iawn o recordiau a wnaethpwyd mewn cyfnod cyffrous. Roedd yn gyfnod efo'r holl grwpiau newydd ac yn gyfnod arloesol a sna'm cweit cyfnod fel yna wedi bod wedyn."

Sŵn Sain

Dyl Mei a Gruff Lynch sy'n olrhan hanes y label recordio Sain trwy dechnoleg yr 50 mlynedd diwethaf

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.