Ateb y Galw: Owain Gwynn

- Cyhoeddwyd
Yn hanu'n wreiddiol o Sir Benfro, mae Owain Gwynn, a hyfforddodd fel actor yng ngholeg drama RADA, wedi serennu mewn sawl cynhyrchiad ar lwyfan ac ar y teledu.
Mi fydd Owain yn chwarae rhan Mercutio mewn cynhyrchiad dwy-ieithog o'r ddrama Romeo and Juliet gan William Shakespeare sy'n mynd ar daith gan gychwyn yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar y 29ain o Fedi.
Bydd y cynhyrchiad yn cael ei lwyfannu yn Shakespeare'r Globe, Llundain ym mis Tachwedd - y tro cyntaf i'r Gymraeg gael ei glywed yn y theatr honno.
Dyma beth oedd gan Owain i'w ddweud wrth Cymru Fyw.
Beth yw eich atgof cyntaf?
Erbyn hyn, mae atgofion cynnar wedi mynd yn gymysg â chlywed straeon o fy mhlentyndod, a hen ffotograffau… felly dwi byth yn siwr mwyach ai atgofion go iawn neu dychmygol y'n nhw!
Ond mae gen i atgof clir o drio cwblhau naid ar fy meic - heb unrhyw syniad o sut i wneud hynny. Cofio gwibio-fynd ar hyd llethr hir, y gwynt yn chwibanu yn fy nghlustiau, agoshau at ymyl y naid… ac wrth i'r olwyn flaen ddiflannu lawr dros yr ymyl, profi hanner eiliad hirfaith o sylweddoli fod angen codi'r olwyn flaen cyn neidio.
Y beic a fi yn gwlwm poenus y tro yna.
Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?
Cynifer o lefydd yn cystadlu am y wobr hon - mawredd Eryri yn rhan o fy enaid; y Preselau yn gefnlen i fy magwraeth hyfryd yn Sir Benfro.
Ond y wobr gyntaf i draeth Poppit - traeth ein teulu ni; traeth fy mhlentyndod; ac erbyn hyn, hoff draeth fy mhlant i.

Owain ar draeth Poppit ger Aberteifi
Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?
Does dim cystal gwefr na agor sioe, a'r adrenalin sy'n llifo trwy'r gwythiennau ar ôl perfformio i gynulleidfa am y tro cyntaf. Dwi 'di bod yn ffodus i gael nifer o dderbyniadau gwresog ar nosweithiau cyntaf, ond roedd agor Life of Pi yn Sheffield yn sylweddoliad fod trysor o sioe yn ein dwylo.
Ar hyn o bryd, wrth gwrs, dwi ar bigau'r drain i agor Romeo a Juliet gyda Theatr Cymru, ac yn edrych ymlaen yn arw i gael blasu'r wefr yna unwaith eto.

Owain ar y llwyfan yn Sheffield yn perfformio mewn cynyrchiad o Life of Pi
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.
Perffeithydd, positifrwydd, perfformio.
Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?
Mae mynd am dro i'r awyr agored gyda'r plant heb os yn dod â gwên. Sawl atgof melys o rhai o'r anturiaethau ma' nhw wedi goresgyn, goroesi (a griddfan) drwyddynt.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?
Dwi'n rhywun sy'n gweithio'n gorfforol iawn, ac yn anffodus, mae rhwygo trowsus yn beryg sy'n annatod â hynna.
Dim ond unwaith dwi erioed wedi anghofio cario pâr ychwanegol yn fy mag ymarfer, ac wrth gwrs, dyna'r diwrnod pan rwygodd fy nhrowsus mwy neu lai yn eu hanner... Byth eto!
Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?
Colli deigryn o rwystredigaeth wrth drio cwblhau gormod: gormod o DIY, gofal plant, gwaith, logisteg bywyd. Weithiau mae'n bwysig cymryd cam yn ôl.
Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?
Gweler uchod - styfnigrwydd, a mynnu ceisio cadw'r ddysgl yn wastad pan weithiau, mae'n well gadael i bob dim ddisgyn!
Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?
Cwestiwn amhosib. Dwi'n ddarllenwr brwd felly mae'n newid drwy'r amser. O bosib Papillon (Henry Charrière) neu Shantaram (Gregory David Roberts) - straeon go iawn am oroesi a dianc carchardai.

Hoff lyfr Owain, Papillon gan Henri Charrière
Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?
Codi gwydryn o wîn coch gyda 'nhad - cymaint i holi, i ddathlu ac i ddiolch amdano.

Tad Owain
Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n hoff o ddianc i ganolfannau garddio; lle i gael llonyddwch, paned braf, ac ysbrydoliaeth. Gwell fyth os mae'n siwrnau ar gefn y beic modur i gyrraedd yno.

Owain a'i beic fodur
Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?
Cyfuniad o lot o'r pethau dwi 'di crybwyll uchod.
Mynd ar antur ym myd natur gyda'r teulu - crwydro o ganolfan arddio Penrallt lawr i draeth Ceibwr cyn ymestyn y coesau ar hyd llwybr yr arfordir draw i Poppit. Prynhawn ar y traeth ac hufen ia wrth iddi fachludo. Nos da.
Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?
Llun hyfryd o fy merch, fy chwaer, mam, a mamgu - pawb mewn rhes gyda hanes, presennol, a dyfodol y teulu yn glir i'w weld.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dwi'n cael bod yn rhywun arall bob tro dwi'n chwarae cymeriad newydd! Ond bydden i wrth fy modd yn profi diwrnod yn esgidiau un o'm meibion. Pob eiliad yn antur neu'n ddrama a phob dim yn bosib.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd25 Awst
- Cyhoeddwyd13 Ionawr