Y gŵr o dras Gymreig a briododd frenhines olaf Hawaii

John Owen Dominis
- Cyhoeddwyd
Yn 1893 roedd coup d'état yn nheyrnas Hawaii a olygai fod rhaid i'r Frenhines Liliʻuokalani ildio ei choron, a gyda hynny, sofraniaeth pobl yr ynysoedd.
Roedd hyn yn dilyn ymgyrch gan ddynion busnes i gael gwared ar y Teulu Brenhinol a dod â Hawaii dan reolaeth yr Unol Daleithiau.
Fel Lydia oedd y frenhines yn cael ei hadnabod gan ei theulu a chyfoedion, ac wrth ei hochr am dri degawd oedd ei gŵr a oedd o dras Gymreig, John Owen Dominis.
Gwreiddiau ym Morgannwg
Ganwyd John Owen Dominis yn Efrog Newydd yn 1832, ac roedd ganddo ddwy chwaer hŷn, Mary a Frances.
Roedd ei dad, Capten Giovanni Dominis yn filwr adnabyddus yn y cyfnod. Mae'n debyg iddo gael ei eni yn Boston i deulu Eidalaidd, er bod rhai yn honni ei fod wedi ei eni yn Trieste yn Yr Eidal.
Ond roedd Mam John Owen - Mary Lambert Jones Dominis - yn ferch i Gymro o Forgannwg. Cafodd Mary ei geni yn Boston, yn ferch i ddyn o'r enw Owen Jones a gafodd ei eni ym Morgannwg yn 1767. Fe fudodd o dde Cymru i Massachusetts yn 1793.
Yn ôl y sôn roedd Mary Lambert Jones yn ddynes ddiwylliedig a oedd wedi derbyn addysg dda, ac fe briododd â Giovanni Dominis yn 1821 yn Boston, gan symud i Efrog Newydd flwyddyn yn ddiweddarach.

Plas ʻIolani yn Honolulu, a adeiladwyd yn 1882 gan y Brenin Kalākaua, oedd cartref swyddogol Brenhiniaeth Hawaii am gyfnod
Symudodd y teulu i Hawaii yn 1837 ac roedd yna ddisgwyliadau y byddai John Owen yn dilyn esiampl ei dad a dod yn swyddog milwrol, neu'n gweithio fel masnachwr ar y môr.
Aeth John Owen i Ysgol Johnson ac yna i Ysgol Frenhinol Hawaii. Yno y daeth yn ffrindiau efo'r teulu brenhinol a bonedd y wlad.
Yn 1846 gadawodd tad John Owen, Capten Giovanni Dominis, ar long a oedd yn masnachu ffwr, ond diflannodd y cwch a ni welwyd y criw eto.
John Owen y Llywodraethwr
Wedi marwolaeth ei dad aeth John i California, gan weithio i G. B. Post & Co. yn San Francisco.
Pan oedd yno, ar arfordir arall y wlad ar 22 Ebrill 1850, bu farw ei daid, y Cymro Owen Jones, yn Dorchester, Massachusetts, yn 82 mlwydd oed, a'i gladdu yn Boston.
Pan ddychwelodd i'r ynysoedd cafodd John ei gyflogi yn y sector preifat nes iddo ddod yn ysgrifennydd i'r Brenin Kamehameha IV. Yna, fe'i benodwyd yn Llywodraethwr ar Ynys O'ahu gan Kamehameha V yn 1864.
Cafodd John Owen Dominis lawer o swyddi mewn llywodraeth yn ystod ei fywyd, ac ar un adeg roedd yn gwasanaethu fel Llywodraethwr i O'ahu, Maui, Lanai a Moloka'i ar yr un pryd - pedwar o chwe ynys fwyaf y deyrnas gyfan.

Plas ʻIolani oedd cartref swyddogol y frenhiniaeth, ond Washington Place (yn y llun uchod) oedd cartref personol y Frenhines Liliʻuokalani a John Owen Dominis
Priodi Lydia
Roedd Lydia chwe blynedd yn iau na John Owen, ac fe gafodd ei geni i deulu pwerus yn Honolulu yn 1838. Ond yn unol â thraddodiad Hānai yr ynysoedd cafodd ei mabwysiadu a'i magu gan Abner Pāki a Laura Kōnia, penaethiaid lleol.
Roedd enw llawn Lydia yn un hir: Mōʻīwahine Lydia Lili'u Loloku Walania Wewehi Kamaka'eha Pākī Liliʻuokalani.
Yn sgil statws ei rhieni aeth Lydia i Ysgol Frenhinol Honolulu, ac roedd ei mam gwaed yn gweithio fel cynghorydd i'r Brenin Kamehameha III.
Wedi cyfnod yn caru fe briododd Lydia a John Owen ar 16 Medi, 1862.

Y Frenhines Liliʻuokalani (ail o'r chwith yn y rhes flaen) a John Owen (canol rhes gefn), 16 Medi, 1862
Bu farw Mary Lambert Jones Dominis (mam John) ym mis Ebrill 1889, a cafodd ei chladdu ym Mynwent O'ahu, Honolulu.
Cafodd Lydia - a oedd bellach yn cael ei galw'n Liliʻuokalani - ei choroni'n Frenhines ar 20 Ionawr, 1891, wedi marwolaeth ei brawd, y Brenin Kalākaua.
Saith mis yn ddiweddarach, ar 27 Awst, 1891, bu farw ei gŵr, John Owen Dominis yn 59 mlwydd oed yn eu cartref, Washington Place.
Liliʻuokalani yn ildio'i choron
Yn dilyn pwysau cynyddol bu rhaid i'r Frenhines Liliʻuokalani ildio Teyrnas Hawaii yn 1893.
Ym mis Ionawr y flwyddyn honno gweithredwyd cynllwyn gan The Committee of Safety i ddisodli'r Frenhiniaeth, gan ddynion busnes Americanaidd ac Ewropeaidd a oedd yn cynnwys perchnogion ffermydd siwgr.
Roedd y Gweinidog o Lywodraeth yr Unol Daleithiau a oedd yn gyfrifol am Hawaii, John L. Stevens, yn gefnogol o'r cynllwyn, ac fe gafodd milwyr Marines eu hanfon i "amddiffyn buddiannau America".
Ar 17 Ionawr cafodd Liliʻuokalani, dan orchymyn y Marines, ei gorfodi i ildio'r goron.
Dwy flynedd yn ddiweddarach fe geisiodd Liliʻuokalani adfer sofraniaeth yr ynyswyr ond fe gafodd ei harestio yn 1895, a'i charcharu am gyfnod.
Wedi ei rhyddhau, parhaodd i ymgyrchu dros hawliau a sofraniaeth Hawaii, ond yn 1898 cafodd Hawaii ei llyncu gan wladwriaeth yr Unol Daleithiau a dod yn diriogaeth swyddogol.

Roedd Liliʻuokalani yn ffigwr adnabyddus am flynyddoedd, ond dim ond am gyfnod byr iawn y bu hi'n Frenhines, o Ionawr 1891 i Ionawr 1893
Mae stori Liliʻuokalani'n dod ar ddiwedd canrif o ymyrraeth allanol ym mywydau trigolion Hawaii.
Cyrhaeddodd Capten James Cook a'i griw'r ynysoedd yn 1778, y cyntaf o'r Ewropeaid i lanio yno. Roedd yna wrthdaro ffyrnig rhwng y criw a'r brodorion, gyda Cook ei hun yn cael ei ladd yn Hawaii yn 1779.
Pan oedd Cook yn Hawaii roedd yn gasgliad o diriogaethau, nid un deyrnas, ac roedd yr Ewropeaid yn dod i'r ynysoedd yn un o'r ffactorau pam yr unodd Hawaii yn un deyrnas yn 1810.
Roedd meddiannu Hawaii 1898 yn rhan o strategaeth imperialaidd ehangach yr Unol Daleithiau ar droad y ganrif. Yn yr un flwyddyn roedd rhyfel yn erbyn Ynysoedd Philippines, rhyfel â Sbaen yn y Caribî, ac yna ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach roedd ymyrraeth yn Panama a gwledydd eraill yng Nghanolbarth America.
Cafodd Hawaii ei henwi fel talaith o'r Unol Daleithiau ar 21 Awst, 1959 - yr olaf o'r 50 talaith i ymuno â'r UDA.
Mae'r Frenhines Liliʻuokalani yn cael ei hystyried gan lawer fel arwres a frwydrodd yn erbyn yr imperialaeth yma.
Bu farw yn Honolulu ar 11 Tachwedd, 1917, yn 79 oed, 25 mlynedd wedi marwolaeth ei gŵr, John Owen Dominis.

Llun o'r Frenhines Liliʻuokalani yn ei chartref ychydig fisoedd cyn ei marwolaeth yn 1917
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd5 Chwefror