Lleisiau plant Covid: 'Methu canolbwyntio a ddim mor allblyg'

Glantaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae Covid wedi cael cryn effaith, medd Genevieve, Gruffydd a Gruff o Ysgol Gyfun Glantaf yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Wrth i ymchwiliad Covid y DU ddechrau ystyried ddydd Llun pa effaith a gafodd y pandemig ar blant a phobl ifanc, dywed rhai o ddisgyblion un ysgol uwchradd yng Nghaerdydd bod yr effaith yn fawr o hyd.

Yn sicr mae effaith Covid yn bellgyrhaeddol, medd disgyblion Ysgol Gyfun Glantaf.

"Rwy'n credu 'nath Covid effeithio fi oherwydd cyn Covid roeddwn i yn blentyn eitha' allblyg - o'n i yn hoffi siarad â lot o bobl ac fi'n credu bod treulio gymaint o amser tu fewn i ffwrdd o bobl wedi cael effaith.

"Rwy'n unig blentyn felly doedd gen i neb arall o fy oedran i siarad â nhw. Heddiw dwi ddim mor allblyg, mae gen i dipyn o or-bryder weithiau," meddai Genevieve, 16.

"Dwi'n teimlo bod pontio amser Covid ym mlwyddyn 6 ddim yr un peth â dod mewn i'r ysgol.

"Roedd 'na 'chydig o dasgau ar-lein. Doedd dim modd dysgu enwau a wynebau athrawon. Pan nathon ni ddod i'r ysgol yn y pen draw, o'n ni yn styc mewn un dosbarth achos Covid."

'Dim cyfle i siarad â phobl eraill'

"Dwi'n teimlo bod lot o grwpiau ffrindiau wedi'u seilio ar y dosbarthiadau cofrestru cychwynnol 'na, a doedd dim y cyfle 'na i siarad efo pobl eraill yn eich blwyddyn," meddai Gruffydd 17.

"Ma' Covid wedi gwneud ni ddefnyddio mwy o'r sgrins, ma'n gwneud ni yn fwy dibynnol ar y sgrins.

"Cyn Covid doedden ni ddim yn dibynnu arnyn nhw gymaint. Ma'n hawdd i ddweud bod sylw plant wedi mynd lawr gymaint, oherwydd apiau fel tiktok ac instagram - sydd wedi seilio ar rywbeth fel tair eiliad i dynnu sylw rhywun.

"Ma' Covid wedi cael effaith fawr ar sylw plant. Dwi'n meddwl yng nghanol fy TGAU 'nes i jyst sylwi bo fi methu canolbwyntio gymaint ag o'n i'n gallu cyn Covid," meddai Gruff 16.

Roedd diffyg dyfeisiau mewn cartrefi yn broblem amlwg yn ystod Covid, medd Hefin Griffiths, Pennaeth y Chweched yn Ysgol Gyfun GlantafFfynhonnell y llun, Ysgol Gyfun Glantaf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd diffyg dyfeisiau mewn cartrefi yn broblem amlwg yn ystod Covid, medd Hefin Griffiths, Pennaeth y Chweched yn Ysgol Gyfun Glantaf

Yn ôl pennaeth y chweched yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, mae effaith Covid yn parhau.

"Yr un peth sy'n ein taro ni yw ymddygiad. Byddai'r myfyrwyr sydd bellach ym mlwyddyn 12 ym mlwyddyn 6 adeg Covid - adeg mireinio a chadarnhau'r sgiliau rhyng-bersonol cymdeithasol a be ni'n gweld gyda rhai yw bod 'na oedi wedi bod wrth ddatblygu'r sgiliau 'na - mwy o anaeddfedrwydd," meddai Hefin Griffiths.

Er mwyn canfod union effaith Covid ar blant bydd yr ymchwiliad yn ystyried canfyddiadau adroddiad arbennig sydd wedi holi plant o amrywiol gefndiroedd – yn eu plith rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau, plant o amrywiol gefndiroedd ethnig a rhai o haenau gwahanol o gymdeithas.

Ymhlith yr hyn a oedd yn anodd i blant a phobl ifanc yn ystod y pandemig, medd yr adroddiad, oedd byw gyda thensiwn yn y cartref, y pwysau o ofalu am eraill yn y teulu a dim adnoddau fel y we a digon o le yn y cartref.

'Colli diddordeb, colli cymhelliant a gofidio'

Mae Hefin Griffiths yn cytuno: "Os oedd 'na ddiffyg dyfeisiau mewn cartrefi neu bod mwy nag un plentyn yn gorfod rhannu, a'r oedolion yn gorfod gweithio yn rhithiol o'dd hwnna yn achosi anhawster a byddai hynny yn golygu na fyddai gwaith yn cael ei gyflawni.

"Weithiau byddai'r ymgysylltiad neu'r cyswllt ffrydio ar y we yn wan ac roedd hwnna yn achosi rhwystredigaeth. Roedd e'n achosi gofid i'r teuluoedd hynny ac roedd e'n anodd iawn.

"Hyd yn oed pan daeth gwersi rhithiol trwy teams, roedd 'na rai o'dd methu cysylltu ac felly bydde fe'n gylch cythreulig o golli diddordeb, colli cymhelliant a gofidio a dewis osgoi yn y pen draw achos bod e'n ormod o broblem i ddatrys."

Roedd eraill yn bryderus ac yn unig iawn, roedd rhai wedi cael profedigaeth yn ystod y pandemig ac yn sgil y cyfyngiadau doedd rhai ag anghenion arbennig ddim yn gallu cael yr un gofal, medd yr adroddiad.

"Covid wedi helpu fi", medd Owen ond "effaith negyddol", medd Ffion a Megan
Disgrifiad o’r llun,

"Covid wedi helpu fi", medd Owen ond cafodd "effaith negyddol", yn ôl Ffion a Megan

Yr hyn sy'n bwysig, medd arbenigwyr, yw bod llais plant a phobl ifanc yn cael ei glywed gan bod eu profiadau nhw yn hollol wahanol i oedolion.

"Na'th Covid newid fi i fod yn fwy gweithgar. O'dd e fel addysg heb help yr athrawon ac yn rhoi mwy o ddyletswydd i ni wneud gwaith ein hunain," medd Owen, 17.

"Ma' Covid wedi newid fi efo fy ymddygiad ynglŷn â gwaith, ma' wedi gwneud fi yn fwy gweithgar oherwydd ma' wedi rhoi'r pwyslais ar sut ma' gyda ni ddyletswydd i wneud pethe ein hunain.

"Fi yn nabod rhai disgyblion na'th ddim gwneud unrhyw waith yn ystod y pandemig a ma' wedi effeithio arnyn nhw. Na'th e newid pobl mewn dwy ffordd - wedi gweithio er budd rhai ond ddim i rai eraill."

"Un o'r pethe na'th effeithio fi fwyaf o'dd attention span fi," medd Ffion, 17.

"Fi'n ffeindio fy hun methu canolbwyntio am oriau hir, yn enwedig ar gyfer arholiadau pwysig.

"Dwi hefyd wedi sylwi bod llawer o bobl yn cael trafferth gweithio yn annibynnol, sydd yn amlwg yn sgil pwysig o ddydd i ddydd."

"Roedd 'na effaith negyddol ar ein blwyddyn ni," medd Megan, 18.

"O'n ni heb gael gyfle i gymdeithasu efo unrhyw flwyddyn arall a na'th hynna ddirywio cymdeithas yr ysgol gan bod ni wedi colli mas ar ddigwyddiadau fel mabolgampau, a steddfod ysgol."

'Cymryd peth amser i wybod y gwir effaith'

Bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried yr hyn wnaeth helpu plant a phobl ifanc i ddelio gyda'r sefyllfa.

Mae'r gwaith ymchwil yn dangos bod cael perthynas gefnogol gan deulu a ffrindiau wedi bod o fudd mawr.

Hefyd o help oedd canfod ffyrdd o gefnogi lles a'r gallu i barhau i gael addysg.

Yn ôl Dr Nia Williams, seicolegydd plant, gall gymryd cryn amser i wybod yn iawn beth oedd effaith Covid ar blant:

"O ran effaith emosiynol o ran Covid, roedd 'na arswyd enfawr o ran plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc a na'th yr ofn yma achosi pryder enfawr," meddai.

"Un peth na'th athrawon nodi pan oedd y plant yn dod 'nôl i'r ysgol oedd y dirywiad mewn ymddygiad plant - pethe fel gallu eistedd lawr ar gadair, gwrando ar reolau ac mi wnaeth hynny gymryd peth amser.

"Mae'n rhaid i ni ystyried fod Covid yn cael ei ystyried fel trauma ac mi oedd o'n gyfnod traumatic i nifer fawr o bobl ac i nifer fawr o blant ac ma' hynny hefyd yn y pen draw yn mynd i achosi problemau emosiynol ac ymddygiadol.

"Doedd dim cyfle chwaith i rai plant weld nain a taid neu riant arall a byddai hyn wedi bod yn hynod emosiynol.

"O ran yr heriau dwi'n meddwl bydd hi'n cymryd peth amser i wybod gwir effaith y cyfnod clo ond 'dan ni'n gwybod ei fod o wedi bod yn gyfnod hynod o anodd i unigolion."

Wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol dywed yr adroddiad ei bod yn bwysig ystyried pa gefnogaeth ac adnoddau y mae'r rhai mwyaf bregus eu hangen fel bod eu profiadau yn fwy cadarnhaol petai Covid neu bandemig tebyg yn digwydd eto.

Mae disgwyl i'r ymchwiliad ystyried profiad plant a phobl ifanc am fis – tan 23 Hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.