Teulu'n 'grac' fod dyn yn gorfod gadael canolfan ddydd am fyw mewn sir arall
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn sydd ag anableddau dwys yn erfyn ar Gyngor Ceredigion i ailystyried, wedi i'r awdurdod ddweud nad oes modd iddo fynychu canolfan ddydd am ei fod yn byw yn Sir Gâr.
Mae Rory White wedi bod yn mynd i Ganolfan Steffan yn Llanbedr Pont Steffan ers 2008 - gyda'r teulu yn byw ym Metws Bledrws gerllaw.
Ond yn dilyn marwolaeth tad Rory, ac wrth i'w anghenion ddwysáu, fe symudodd y teulu i Bencarreg yn Sir Gaerfyrddin yn 2017 - pentref sydd oddeutu tair milltir i ffwrdd o'r ganolfan.
Ers hynny, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod yn talu er mwyn sicrhau bod modd i Rory barhau i fynychu Canolfan Steffan deirgwaith yr wythnos.
Ond mae Cyngor Ceredigion bellach wedi penderfynu nad oes lle iddo yn y ganolfan mwyach gan ei fod yn byw mewn sir arall, gyda llefarydd yn dweud bod "rhaid i ni ganolbwyntio ar sicrhau bod trigolion Ceredigion yn gallu cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt".

Mae Rory Smith yn dweud ei fod yn hapus yng Nghanolfan Steffan a'i fod am aros yno
Mae Rory yn mynd i'r ganolfan rhwng 09:30 y bore a 15:15 ac yn mwynhau gwahanol weithgareddau gan gynnwys nofio, mynd i'r gampfa, coginio a mynd allan i'r dref i siopa.
Dywedodd Diane White, mam Rory, nad oedd hi'n gallu deall y penderfyniad.
"Mae'r ganolfan yn bwysig iawn iawn ar gyfer lles Rory, mae e 'di bod yn mynd i Ganolfan Steffan am 17 mlynedd," esboniodd.
"Mae pawb yn 'nabod Rory o gwmpas y dref yn Llambed. Dwi ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd i Rory heb y ganolfan."

Mae Diane White yn yn dweud bod Cnaolfan Steffan yn "bwysig iawn" ar gyfer lles ei mab
Ychwanegodd Ms White fod clywed y newyddion wedi bod yn ergyd i'r teulu cyfan.
"Pan glywes i'r newyddion roeddwn i'n drist ac yn grac," meddai.
"Wedi'r cwbl, mae Sir Gâr yn talu Ceredigion, felly pam stopio nawr?"
Mae Rory hefyd yn dweud ei fod yn hapus yno: "Dyw hyn ddim yn dda o gwbl.
"Bydda i yn colli fy ffrindiau, y staff yn y ganolfan a cherdded o gwmpas y dref a phethau fel 'na."
Mae Ms White yn galw nawr ar Gyngor Ceredigion i ailystyried y penderfyniad.
"Meddyliwch, plîs, meddyliwch am be' chi'n neud i Rory a plîs newidiwch eich polisi ar ei gyfer e."

Mae chwaer Rory, Abby, yn poeni am effaith yr holl ansicrwydd ar ei brawd
Un sydd yn cefnogi'r teulu yw'r cynghorydd Ann Bowen Morgan, Cadeirydd Cyngor Ceredigion.
Mae hi yn dweud ei bod yn bryderus iawn am y sefyllfa: "Ma' ysgolion Llanybydder, Cwmann a'r ardaloedd yna yn croesi'r ffin i ddod i Ysgol Uwchradd Bro Pedr - dwi ddim yn gweld felly pam na allwn ni, yn yr achos yma, ganiatáu iddo groesi'r ffin i ddod i Ganolfan Steffan."
Mae Abby, chwaer Rory, yn trefnu deiseb i drio pwyso ar Gyngor Ceredigion i newid eu meddyliau.
"Mae sôn am anfon Rory i ganolfan y tu fas i Gaerfyrddin, ond mae hynny yn siwrne hir iddo fe a mam," meddai.
"Ond ar yr un pryd dyw hyn ddim wedi ei gadarnhau.
"Rwy'n gwybod fod Rory yn becso am y sefyllfa yma, mae popeth mor ansicr, ac oherwydd hynny rwyf wir yn poeni amdano fe."

Mae Ann Davies AS yn cynnal trafodaethau gyda'r ddwy sir i geisio dod â'r ansicrwydd i ben
Ar hyn o bryd mae Aelod Seneddol Rory, Ann Davies, yn trafod â'r ddwy sir i geisio sicrhau datrysiad.
"Yn anffodus does dim newid polisi yng Ngheredigion, felly ma' rhaid edrych nawr ar be sydd orau iddo fe," meddai Ms Davies.
"Y cam nesaf i fi yw mynd at Gyngor Sir Gâr a gofyn a oes lle i Rory yn Nhre Ioan yn y ganolfan fan'na.
"Gobeithio bod, fel bod Rory yn gwybod i ble ma' fe'n mynd nesaf a bod yr ansicrwydd yn dod i ben."
'Canolbwyntio ar drigolion Ceredigion'
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion:
"Oherwydd cyfyngiadau ar yr adnoddau a'r darpariaethau arbenigol sydd ar gael, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar sicrhau bod trigolion Ceredigion yn gallu cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt.
"Rydym yn gorfod dod â lleoliadau comisiwn gan awdurdodau lleol eraill i ben."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr: "Ry' ni'n edrych ar sicrhau darpariaeth addas ar gyfer Rory a'i deulu cyn gynted â phosib."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddiwallu anghenion gofal a chymorth cymwys.
"Pan fydd unigolion yn symud ar draws ffiniau awdurdodau lleol, disgwylir i gynghorau weithio gyda'i gilydd i osgoi tarfu'n ddiangen ar wasanaethau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 Awst
- Cyhoeddwyd22 Awst