Targedu delwyr heroin yn ardal Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n delio heroin yn cael eu targedu mewn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am effaith y cyffur ar bobl sy'n gaeth iddo, eu teuluoedd ac aelodau eraill o'r gymuned.
Mae ymgyrch Heroin Ruins Lives yn cynnwys posteri sy'n dangos carreg goffa defnyddiwr heroin sydd wedi marw.
Mae Prosiect Cyffuriau Abertawe wedi datgan bod y nifer o bobl sy'n gaeth i'r cyffur wedi codi 40% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae 61 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â heroin wedi digwydd yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot er 2007.
Y gymuned
Mae Heddlu De Cymru yn honni eu bod wedi dal nifer o bobl sy'n delio a chyflenwi heroin ac yn annog pob i roi gwybodaeth iddynt am bobl sy'n delio'r cyffur.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Jason Davies, sy'n arwain yr ymgyrch, fod gan Abertawe broblem gyffuriau arwyddocaol.
"Fe fyddwn ni wastad cam y tu ôl y bobl sy'n delio a chyflenwi heroin heb help y gymuned.
"Y bobl sy'n agos i'r defnyddwyr yw'r bobl orau i gynnig gwybodaeth am y rhwydweithiau cyflenwi."
Mae Heddlu De Cymru wedi canfod 188 trosedd sy'n ymwneud â chyffuriau rhwng mis Medi 2010 a mis Medi 2011 o'i gymharu â 91 trosedd yn ystod y flwyddyn cynt.
Yn ogystal maen nhw wedi atafaelu a fforffedu gwerth mwy na £1.2m o gyffuriau Dosbarth B yn ystod y 18 mis diwethaf a gwerth £500,000 o gyffuriau Dosbarth A ers Ebrill 2010.
Yn ôl Heddlu De Cymru mae 13 o grwpiau cyffuriau wedi cael eu dal yn delio heroin yn Abertawe er Ebrill 2010 ac mae troseddwyr wedi eu dedfrydu i 200 mlynedd o garchar yn ystod yr un cyfnod.
Dywedodd Ifor Glyn o Brosiect Cyffuriau Abertawe fod cymryd heroin yn un o broblemau mwyaf cymunedau Abertawe.
Ychwanegodd: "Mae'r nifer o bobl sydd wedi marw o ganlyniad i ddefnyddio heroin yn frawychus ac mae'r effaith ar ffrindiau a theuluoedd y rheini sydd wedi marw yn annioddefol.
"Mae'r nifer o bobl sy'n defnyddio heroin sydd wedi dod aton ni am help wedi codi 40% mewn blwyddyn.
"Mae'n rhaid cefnogi'r ymgyrch hwn yn enwedig os yw e'n lleihau'r niwed i deuluoedd, ffrindiau a phlant y bobl sy'n defnyddio heroin."