Teyrnged i fam 'gariadus' ar ôl canfod ei chorff yn Sir Ddinbych

Angela ShellisFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu fod Angela Shellis "yn ferch, chwaer, mam ac yn fodryb gariadus a bydd pawb yn ei cholli'n fawr"

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau enw menyw a fu farw ym Mhrestatyn ddydd Gwener.

Fe wnaeth yr heddlu gadarnhau ddydd Sul mai menyw leol o'r enw Angela Shellis, 45, oedd yr unigolyn.

Cafodd swyddogion eu galw i ardal Morfa, Prestatyn tua 08:40 ddydd Gwener ar ôl i aelod o'r cyhoedd ddod o hyd i gorff yn ardal Morfa, ger Dawson Drive.

Fe gafodd dyn lleol 18 oed ei arestio brynhawn Gwener, ar amheuaeth o lofruddiaeth yn ardal Coniston Drive ym Mhrestatyn ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu fod Angela "yn ferch, chwaer, mam ac yn fodryb gariadus a bydd pawb yn ei cholli'n fawr".

Y lleoliad y cafodd y ddynes ei chanfod
Disgrifiad o’r llun,

Daeth aelod o'r cyhoedd o hyd i gorff Angela Shellis yn ardal Morfa, ger Dawson Drive, ddydd Gwener

Mae'r llu wedi dweud fod y teulu yn derbyn cymorth gan arbenigwyr a gofynnodd i bobl barchu eu preifatrwydd.

Dywedodd Y Prif Arolygydd Andy Gibson: "Dwi'n apelio ar unrhyw un oedd o amgylch ardal Morfa yn agos i'r caeau pêl-droed rhwng 03:00 a 08:39 ddydd Gwener.

"Os oeddech yn yr ardal yn ystod yr amseroedd yma, plîs cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru," ychwanegodd.

Ychwanegodd y llu y bydd swyddogion ychwanegol yn yr ardal yn ystod y penwythnos i roi sicrwydd i'r gymuned.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol