'O'dd neb yn helpu ni' – mam a gollodd ei mab i hunanladdiad

Mae Rhian Wyn yn dweud bod teuluoedd sy'n profi marwolaeth drwy hunanladdiad yn aml yn cael eu gadael "yn llwyr wrth eu hunan"
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori isod beri pryder.
Mae mam o Geredigion a gollodd ei mab i hunanladdiad yn galw am newid yn y ffordd mae teuluoedd yn cael eu cefnogi gan yr heddlu.
Mae Rhian Wyn, a gollodd ei mab Caio Wyn yn 2020, yn dweud bod teuluoedd sy'n profi marwolaeth drwy hunanladdiad yn aml yn cael eu gadael "yn llwyr wrth eu hunain" i ymdopi â'r galar, sioc a'r broses swyddogol sy'n dilyn achos o hunanladdiad.
Mae hi'n cefnogi ymgyrch gan weddw o Loegr wnaeth golli ei gŵr i hunanladdiad, sydd wedi galw ar heddluoedd i ddarparu cymorth arbenigol.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn cydymdeimlo â theuluoedd ond bod swyddogion cyswllt ond yn cael eu trefnu os oes amgylchiadau amheus, yn unol â chanllawiau cenedlaethol.

Bu farw Caio Wyn yn 2020
Ar ôl colli ei gŵr, fe wnaeth Mimi Conder greu deiseb ar-lein yn galw ar heddluoedd i ddarparu swyddog cymorth i deuluoedd, sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol i ymdrin â theuluoedd mewn galar.
Wrth gefnogi'r ymgyrch yma, mae Rhian Wyn hefyd yn dweud ei bod hi'n bwysig penodi swyddog penodol ar gyfer teuluoedd sy'n wynebu marwolaeth drwy hunanladdiad.
Hynny yw, rhywun i gynnig cefnogaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth o'r broses – fel sy'n aml yn digwydd mewn marwolaethau sydyn a thrasig eraill, fel damweiniau ffordd.

"Ma' angen family liaison officer i helpu yn fawr iawn," medd Rhian Wyn
Mae'r noson y daeth y newyddion am farwolaeth Caio wedi aros yn glir yng nghof Rhian.
"Just ar ôl Nadolig, buodd Caio farw o hunanladdiad a ges i wybod y noson hynny yn hwyr yn y nos," eglurodd.
"Da'th yr heddlu i'r drws wrth ei hunan - heddwas ifanc, ddim wedi bod yn yr heddlu am hir iawn ac o'dd dwy ferch fach gyda fi, so o'n i yn y tŷ wrth fy hunan ac o'n nhw lan stâr yn gwely.
"Da'th e mewn, 'na'th e weud bod Caio 'di marw trwy hunanladdiad ac wedyn gadawodd e.
"So o'dd just fi a'r merched adre, gyda dim help a neb yn helpu ni. O'dd dim syniad gyda ni beth i 'neud.
"Nes i collapso ar y llawr a fi'n cofio edrych lan ac o'dd y merched ar dop y stâr yn gwrando, ond ro'n i methu mynd atyn nhw, ro'n i methu cymryd mewn be' o'dd yr heddlu yn gweud wrtha i ac o'dd neb gyda fe [yr heddwas] i fynd lan at y merched.
"Ma'n trawma ofnadwy."
Mam gollodd ei mab drwy hunanladdiad 'wedi bod trwy uffern a nôl'
- Cyhoeddwyd10 Medi
Ar y pryd roedd Caio yn byw yng Nghaerdydd ac roedd Heddlu'r De hefyd yn ymwneud â'r digwyddiad.
"Y noson 'ny o'dd heddlu Caerdydd yn ffonio fi, tua dau, dri o'r gloch y bore, yn gofyn pob cwestiwn bydde' chi'n gallu meddwl," meddai Rhian.
"O'dd dim syniad da fi - o'n i ddim yn gwbo' os o'n i'n mynd neu'n dod.
"O'dd pobl yn ffonio chi drwy'r amser, wedyn da'th y cwest, y gwaith papur a just yr holl gwestiyne.
"Does neb yn mynd gyda chi i gefnogi chi a s'neb yn gweud dim o hyn."

Roedd Caio Wyn yn byw yng Nghaerdydd pan fu farw
Mae Rhian bellach yn benderfynol o sicrhau bod teuluoedd eraill yn cael gwell cefnogaeth na'r hyn a gafodd hi.
"Bydde' fe'n gwneud byd o wahaniaeth, bydde' fe'n helpu miloedd o deuluoedd sy'n mynd trwy hunanladdiad," eglurodd.
"Mae e'r profiad mwya' erchyll allwch chi feddwl.
"Mae liaison officer yn mynd at deuluoedd pobl sy' wedi'u lladd, neu ddamweiniau, ond ddim gyda ni ac mae angen hyn yn ofnadwy."

"O'dd rhaid i fi roi galar Caio ar stop," medd ei fam
Yn ôl Rhian, mae 'na ddiffyg amlwg yn y ffordd y mae teuluoedd yn cael eu trin a'u cefnogi, ar ôl gwahanol fathau o farwolaethau.
"Sai'n gallu gweld y gwahaniaeth rhwng rhywun sydd wedi marw o hunanladdiad ddim yn cael y cymorth ma' pobl eraill yn ei gael," meddai.
Mae hi'n dweud y byddai swyddog cyswllt teuluol wedi gwneud y cyfnod cyntaf ar ôl colli Caio ychydig yn haws i ymdopi ag ef.
"Bydde fe'n helpu shwt gyment dod â'r straen na off y teulu ac esbonio'r broses - dim rhywun i ddal llaw, ond just egluro.
"Nes i ffeindio fy hun yn hollol wrth fy hun ar ôl i Caio farw, felly o'dd neb gyda fi i helpu, so nes i e i gyd wrth fy hunan.
"O'dd rhaid i fi roi galar Caio ar stop. Ma' angen yr help 'ma ar bobl so bod nhw yn gallu galaru fel pawb arall.
"Ma' angen family liaison officer i helpu yn fawr iawn."

Mae Rhian hefyd yn credu bod angen hyfforddiant penodol ar gyfer swyddogion sy'n gweithio gyda theuluoedd sy'n wynebu colled o'r fath.
"Ma' rhaid i ni gael family liaison officer sy'n deall hunanladdiad, sy' wedi cael ei hyfforddi mewn hunanladdiad i helpu a bod yna, a mynd trwy'r broses o'r cwest a'r cwestiyne o'r heddlu.
"Ma' angen yr help 'ma ar bobl," meddai Rhian.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys mai dim ond pan fydd marwolaeth yn digwydd o dan amgylchiadau amheus y caiff Swyddogion Cyswllt Teuluol eu defnyddio fel arfer.
"Pan mae'r gred yno bod marwolaeth wedi digwydd trwy hunanladdiad, bydd y crwner priodol yn ymchwilio," meddai llefarydd.
"Rydym yn gwerthfawrogi'r anhawster y mae teuluoedd yn ei wynebu wrth lywio'r broses hon, ac yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn ymwybodol o elusennau a sefydliadau a all ddarparu cefnogaeth."
'Pob cefnogaeth sy'n bosib, y gorau'
Un sydd wedi bod yn cynnig gwasanaethau galar i amryw o elusennau yw Gwen Aaron, ac mae'n ategu bod teuluoedd angen pob help posib.
"Ma'r sensitifrwydd 'na wrth roi gwybodaeth fel 'na i deulu yn holl bwysig.
"Maen nhw o dan deimlad ofnadwy, ma' siŵr yn sioc ac yn sicr y galar mwyaf a'r euogrwydd mawr sy'n dod i deuluoedd ar ôl hunanladdiad, ma'n beth creulon iawn, ma' angen y sensitifrwydd o'r mwyaf.
"Ma' pob cefnogaeth ar ôl hynny yn holl bwysig, ond yn enwedig yr heddlu.
"Y mwyaf agored allwch chi fod yn y sefyllfa 'ma y cyntaf ma'r loes yn diflannu ma' pethe yn cael eu helpu.
"Ac ma'r heddlu yn gallu bod o fudd yn hynny o beth - pob cefnogaeth sy'n bosib, y gorau."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.