Gweithredu ar Ynys Môn i geisio atal mewnfudo anghyfreithlon

Llongau Irish Ferries a Stena ochr yn ochr ym mhorthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Pan rydych chi'n meddwl am fewnfudo anghyfreithlon i Brydain, efallai mai lluniau o gychod bach yn hytrach na fferi rhwng Dulyn a Chaergybi sy'n dod i'r meddwl.

Ond mae unigolion a gangiau yn ceisio cael pobl i mewn i'r DU yn anghyfreithlon gan ddefnyddio ffyrdd mwy cyfarwydd, meddai swyddogion, sydd wedi arwain at orfod gweithredu yn Ynys Môn.

Cafodd tri unigolyn o Rwmania, sydd â throseddau mewnfudo blaenorol, eu gwrthod ar ôl ceisio dod i mewn drwy Borthladd Caergybi yr wythnos diwethaf.

Fe arweiniodd ymgyrch tri diwrnod a oedd yn targedu Ardal Deithio Gyffredin (ADG) y DU - lle gall dinasyddion Prydain ac Iwerddon basio drwyddi'n hawdd - at arestio 51 o droseddwyr mewnfudo a smyglwyr ar draws y DU, meddai'r Swyddfa Gartref.

Mae mwy na 220 o achosion mewnfudo wedi bod yn y porthladd yng Nghaergybi eleni, gyda 177 o bobl wedi eu gwrthod, gan gynnwys y tri unigolyn o Rwmania, lle bu'n rhaid iddyn nhw adael eu car yno.

Dywedodd swyddogion fod pobl yn ceisio osgoi'r ADG, a phan maen nhw'n cael eu gwrthod mewn llefydd fel meysydd awyr Heathrow a Gatwick, maen nhw'n ceisio eto mewn llefydd eraill, fel Dulyn.

Beth yw'r Ardal Deithio Gyffredin?

Cytundeb ydy'r ADG rhwng y DU, tiriogaethau'r goron fel Jersey, a Gweriniaeth Iwerddon, sy'n caniatáu dinasyddion i symud yn rhydd.

Ni all pobl deithio'n rhydd o fewn yr ADG os ydyn nhw'n destun i bethau fel gorchymyn estraddodi, gwaharddiad blaenorol neu waharddiad teithio rhyngwladol.

Mae dinasyddion gwledydd eraill sy'n teithio o fewn yr ADG yn parhau i fod yn atebol i ofynion mewnfudo cenedlaethol.

Porthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images

Fel rhan o'r ymgyrch ddiweddar, fe gafodd dyn o Lithwania a gyrhaeddodd Maes Awyr Belfast ei gyhuddo o ddod i mewn i'r DU yn groes i orchymyn estraddodi, wedi iddo fod yn euog o lofruddiaeth yn Lithwania yn y gorffennol.

Fe wnaeth awdurdodau o Swyddfa Mewnfudo Genedlaethol y Garda yn Iwerddon chwilio tŷ yn Sir Kildare, ac roedd tystiolaeth yno y maen nhw'n credu sy'n gysylltiedig â throseddau mewnfudo cyfundrefnol.

Mae'r ymchwiliad hwnnw yn parhau, meddai'r Swyddfa Gartref.

Fe wnaeth ci synhwyro Llu Ffiniau'r DU chwilio lori ym Mhorthladd Caergybi gan ganfod €13,000 (£11,340) o arian parod y maen nhw'n amau sy'n anghyfreithlon.

Hefyd, fe wnaeth swyddogion ganfod mwy na £33,000 o dybaco a sigaréts yn y porthladd, ble nad oedd tollau wedi'u talu amdanynt.

'Ceisio manteisio'

Mae Llywodraeth y DU wedi drafftio pwerau cyfreithiol newydd sydd wedi eu hanelu at wella diogelwch ffiniau a'r system lloches a mewnfudo.

Mae wedi bod dan bwysau dwys ynghylch mudo anghyfreithlon, gyda 36,000 o bobl wedi croesi Sianel Lloegr mewn cychod bach ers dechrau 2025.

Mae nifer y bobl sy'n cyrraedd y DU yn anghyfreithlon wedi cynyddu 27% ar y flwyddyn flaenorol, a'r mwyafrif helaeth o'r rhain drwy gychod bach.

Fodd bynnag, dim ond canran fach o ffigwr mewnfudo cyffredinol y DU yw hyn.

Paul Harvey
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Harvey fod ymgyrchoedd yn cael effaith ar droseddau mewnfudo

Ond dywedodd y prif swyddog mewnfudo Paul Harvey fod gweithrediadau ar y cyd sy'n cynnwys yr heddlu, swyddogion Llu'r Ffiniau a swyddogion mewnfudo, yn cael effaith ar droseddau mewnfudo.

"Mae yna elfen droseddu gyfundrefnol yn sicr sy'n ceisio manteisio ar yr ardaloedd teithio cyffredin sy'n defnyddio Caergybi. Rydyn ni'n gwybod hynny.

"Ond mae yna bobl unigol hefyd sy'n ceisio manteisio ar hynny.

"Ac mae yna achosion eraill hefyd, felly pobl sy'n ceisio defnyddio hyn fel llwybr i ddod â phobl i mewn, a nwyddau fel cyffuriau, alcohol, tybaco.

"Yn anffodus, mae pobl hefyd yn nwyddau."

Pynciau cysylltiedig