Actor arall yn cefnogi apêl i brynu fferm yn Eryri
- Cyhoeddwyd
![Ioan Gruffudd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/55951000/jpg/_55951605_004115837-1.jpg)
Mae Ioan Gruffudd yn cefnogi apêl Llyndy Isaf hefyd
Mae'r actor Ioan Gruffudd wedi ymuno gyda'i gyfaill Matthew Rhys i gefnogi apêl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu Llyndy Isaf.
Daw'r cyhoeddiad am gefnogaeth yr actor o Gaerdydd ar y diwrnod y cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth eu bod £150,000 yn brin o'r nod o'r £1 miliwn.
Fe wnaeth Matthew Rhys gynorthwyo'r Ymddiriedolaeth i lansio'r apêl i brynu'r fferm fynydd 600 erw ym mis Mawrth.
Fe fydd yr arian, yn ôl yr Ymddiriedolaeth, yn sicrhau dyfodol y fferm 600 erw ar lan Llyn Dinas ger Nant Gwynant.
Yn ogystal â'r ddau actor, mae'r actores Catherine Zeta Jones hefyd yn cefnogi'r apêl.
Daw'r ymgyrch i godi'r £1 miliwn cyn diwedd y flwyddyn 13 mlynedd ers i Syr Anthony Hopkins gyfrannu swm sylweddol at apêl flaenorol yr Ymddiriedolaeth yn 1988 i "Arbed Yr Wyddfa" a phrynu stad Hafod y Llan am £3.5 miliwn.
Cyfle unigryw
"Pan fyddaf i'n meddwl am Gymru, fy mamwlad, mi fyddaf yn meddwl am ei morlin hardd a'i mynyddoedd godidog, y mannau hudol sydd heb eu sbwylio ac sy'n gwneud ein gwlad yn un arbennig," meddai Ioan Gruffudd.
![Matthew Rhys gyda'r ffermwr Ken Owens ar lan Llyn Dinas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/55951000/jpg/_55951608_matthewrhys&kenowen(c)rogerrichards.jpg)
"Yn awr mae gennym ni gyfle unwaith mewn oes i ddiogelu cornel fach o Eryri.
"Cefnogwch yr apêl, os gwelwch yn dda, fel y gall ein plant ryfeddu at harddwch y rhan yma o Gymru am flynyddoedd lawer o i ddod."
Dywedodd rheolwr eiddo'r Ymddiriedolaeth yn Eryri, Richard Neale, eu bod yn dal i chwilio am gyfraniadau.
"Fel y byddaf yn dweud yn aml, mae'r apêl rywbeth yn debyg i ddringo un o'n mynyddoedd: y darn olaf ydi'r anoddaf!
"Mae'r perchennog, Ken Owens, wedi rhoi tan ddiwedd y flwyddyn i ni godi'r arian felly mae yna lai na thri mis i godi £150,000.
"Rydyn ni'n hynod falch fod Ioan Gruffydd wedi addo ei gefnogaeth."