Rhybuddion llifogydd yn parhau ar gyfer Cymru ddydd Llun

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae CNC wedi cyhoeddi dau rybudd am lifogydd fore Llun, yn Afon Hydfron yn Llanddowror ac yn Elái yn Llanbedr-y-fro

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru [CNC] wedi cyhoeddi rhybuddion am lifogydd, gyda disgwyl i law trwm daro Cymru ddydd Llun.

Mae gan y Swyddfa Dywydd rybudd oren am law mewn grym ar gyfer y de, o 24:00 nos Sul i 24:00 nos Lun.

Mae rhybudd oren yn golygu bod 'risg bosibl i fywyd ac eiddo'.

Bu glaw trwm ar draws y de nos Sul ac mae'r rhagolygon yn dweud bod disgwyl iddo barhau trwy gydol ddydd Llun, gyda hyd at 40mm o law yn bosib yn y rhanbarth, a hyd at 120mm mewn mannau uchel.

Mae rhybudd melyn am law mewn grym hefyd ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru ddydd Llun.

Fore Llun, cyhoeddodd CNC ddau rybudd am lifogydd, dolen allanol, yn Afon Hydfron yn Llanddowror ac yn Elái yn Llanbedr-y-fro.

Dywedodd CNC fod disgwyl i eiddo gael llifogydd yn y ddwy ardal a bod lefel yr afonydd yn codi.

Maent yn disgwyl i'r effaith ddigwydd am 07:00 yn Llanddowror ac i'r llifogydd gyrraedd uchafbwynt rhwng 06:00 a 10:00 yn Elái.

Mae 40 o rybuddion 'byddwch yn barod' mewn grym hefyd.

Fe ddaw'r rhybuddion diweddaraf yn dilyn llifogydd difrifol yn y de-orllewin a Sir Fynwy yn ddiweddar.

AberystwythFfynhonnell y llun, Welsh Hillbilly | BBC Weather Watchers
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion mewn ardaloedd arfordirol hefyd, yn ôl rhagolygon

Yr ardaloedd sy'n cael eu heffeithio gan y rhybudd oren ydy:

• Blaenau Gwent

• Pen-y-bont ar Ogwr

• Caerffili

• Caerdydd

• Sir Gaerfyrddin

• Ceredigion

• Merthyr Tudful

• Sir Fynwy

• Castell-nedd Port Talbot

• Casnewydd

• Sir Benfro

• Powys

• Rhondda Cynon Taf

• Abertawe

• Torfaen

• Bro Morgannwg

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig