Tân wedi achosi difrod sylweddol i Glwb Athletau Penarth

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub gwybod am y digwyddiad yng Nghlwb Athletau Penarth ar heol Lavernock am 05:00
- Cyhoeddwyd
Mae tân wedi achosi difrod sylweddol i Glwb Athletau Penarth ym Mro Morgannwg sy'n gartref i'r clwb rygbi a thimau criced a hoci.
Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub wybod am y digwyddiad ar Heol Lavernock am 05:00 fore Llun.
Mewn datganiad daeth cadarnhad gan y clwb bod y tân wedi achosi "difrod sylweddol" i'r cyfleusterau, ond "nad oedd unrhyw anafiadau i staff nac ymwelwyr o ganlyniad i'r digwyddiad".
Mae'r tân bellach wedi'i ddiffodd ac mae ymchwiliad i achos y tân wedi dechrau.

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub gwybod am y digwyddiad yng Nghlwb Athletau Penarth ar heol Lavernock am 05:00.
Mewn neges ar-lein mae'r clwb wedi dweud eu bod nhw "wedi eu llorio" gan y newyddion am y tân.
"Ni wedi cael sioc ac mae cymaint o atgofion wedi mynd ar goll."
Mae'r clwb wedi diolch i'r gwasanaethau brys am "eu hymateb cyflym a'u hymdrechion" ac yn dweud y "bydd Rygbi Penarth, Criced Penarth a Hoci Penarth i gyd yn dod at ei gilydd i ailadeiladu".
Mewn datganiad ar wahân dywedodd cadeiryddion y clwb: "Rydym yn ddiolchgar iawn am ymateb cyflym y gwasanaeth tân ac achub ac am y gefnogaeth gan ein cymuned leol ar hyn o bryd.
"Byddwn yn gweithio'n galed i adfer cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth."

Mae'r clwb yn gartref i Glwb Rygbi Penarth a'r clybiau criced a hoci lleol
Gŵr Alison Jones, Alistair, oedd un o'r cyntaf i gyrraedd y safle sydd y tu ôl i'w tŷ nhw.
Sylweddolodd Alistair ar y tân ar ôl iddo ddeffro yn ystod oriau mân y bore.
"Alistair ac un o'r hyfforddwyr, Pete Botham oedd y cyntaf i gyrraedd y lleoliad, fe wnaethon ni ffonio 999," meddai Alison.
"Trodd pedwar injan dân i fyny o fewn pum munud.
"Yn ffodus fe lwyddon nhw i atal y tân cyn i'r eisteddle hanesyddol losgi.
"Y peth mwyaf trist yw colli'r holl gofroddion oedd yno, lluniau a phlaciau rygbi, criced a hoci sy'n dyddio'n ôl ddegawdau a holl gofroddion y Barbariaid."
Ychwanegodd: "Bydd yn rhaid canslo holl bartïon Nadolig y plant ac roedd parti pen-blwydd fy mab i fod yno ym mis Ionawr."