Castell yn gosod ei stamp
- Cyhoeddwyd
Bydd Castell Harlech a Phortmeirion yn cynrychioli Cymru ar set newydd stampiau'r Post Brenhinol.
Cyhoeddir y casgliad i adlewyrchu hanes Prydain.
Bydd y gyfres gyntaf, llythrennau A-L, ar gael o Hydref 13 ymlaen.
Dywedodd Val Bodden o'r Post Brenhinol: "Roedd Castell Harlech fwy na thebyg yn brifddinas y Gymru annibynnol rhwng 1404 a 1409 pan roedd y wlad dan ofal Owain Glyndŵr.
"Mae golygfeydd trawiadol dros Fôr Iwerddon ac mae'n ddelwedd bwerus ar stamp dosbarth cyntaf."
Sawl brwydr
Adeiladwyd y castell gan Edward I yn y 1280au ac mae wedi bod yn ganolbwynt i sawl brwydr dros y canrifoedd.
Mae'r castell bellach yn un o safleoedd Treftadaeth y Byd ac o dan ofal Cadw.
Dywedodd Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu amgylchedd hanesyddol Cymru ac mae'n wych gweld Castell Harlech yn cael ei gynnwys ar y gyfres o stampiau.
"Mae arian o Ewrop wedi ei glustnodi ar gyfer gwneud gwelliannau i'r castell.
"Unwaith y byddan nhw wedi eu cwblhau, gall rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau gael eu cynnal o dan do am y tro cyntaf mewn 400 mlynedd.
"Mae canolfan ymwelwyr newydd hefyd yn cael ei datblygu.
"Bydd hyn i gyd yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi'n well hanes a threftadaeth yr ardal."
Fe fydd cyfres stampiau L-Z, gan gynnwys Portmeirion, yn cael ei chyhoeddi yn Ebrill 2012.