Llys: 'Tyst am help gyda'i barôl'

  • Cyhoeddwyd
Achos LynetteFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Mae wyth o gyn blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Mae rheithgor wedi clywed fod dyn a roddodd tystiolaeth a helpodd tri dyn dieuog i gael eu barnu'n euog o ladd Lynette White yn lleidr arfog oedd am i'r heddlu'i helpu gyda'i barôl.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y ditectif oedd yn arwain yr ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White yng Nghaerdydd ym 1988 Ian Massey wedi ymweld ag Ian Massey yn y carchar.

Mae Mr Massey wedi gwadu dweud celwydd ar lw yn yr achos llys yn erbyn plismyn fu'n ymchwilio i'r drosedd.

Mae e a'r Ditectif Arolygydd Graham Mouncher hefyd yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Trosedd

Mae'r achos llys yn dilyn ymchwiliad ynghylch pam gafodd pum dyn eu harestio ynglŷn â llofruddiaeth Ms White.

Mae wyth cyn-heddwas yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd Ms White, 20 oed, ei thrywanu dros 50 o weithiau ar Chwefror 14, 1988.

Fe gafwyd Stephen Miller, Ysef Abdullahi a Tony Paris - a oedd yn cael eu hadnabod wedyn fel Tri Caerdydd - yn euog o'r drosedd ym 1990.

Ond cafodd y dyfarniad ei ddileu gan y Llys Apêl ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dros ddegawd yn ddiweddarach plediodd dyn o'r enw Jeffrey Gafoor yn euog i'r llofruddiaeth.

Gwadu

Mae'r erlyniad yn yr achos llys yn honni bod Mr Massey am i Heddlu De Cymru ei gefnogi mewn gwrandawiad parôl gallai wedi gadael iddo gael ei ryddhau yn gynnar o'i ddedfryd 14 mlynedd.

Dywedodd Nick Dean QC, ar ran yr erlyniad, fod Mr Massey wedi gwadu unrhyw gynnig o help gan yr heddlu yn ystod yr achos llys llofruddiaeth ym 1990.

Ychwanegodd Mr Dean fod y Ditectif Arolygydd Mouncher hefyd wedi gwadu'r gosodiad.

Dywedodd Mr Dean fod Mr Massey yng ngharchar Caerdydd pan ddechreuodd rhoi gwybodaeth i Heddlu Manceinion Fwyaf yn y gobaith y bydden nhw'n cefnogi ei apêl i leihau ei ddedfryd.

Ond ni chafodd eu cefnogaeth a chollodd Mr Massey ei apêl.

Clywodd y rheithgor fod Mr Massey wedi dweud wrth Heddlu De Cymru ei fod wedi dod yn ffrindiau â rhai o'r dynion oedd yn wynebu eu hachosion llys am ladd Lynette White.

Gorddos o gyffuriau

Erbyn mis Awst 1989 roedd Mr Massey wedi'i drosglwyddo i garchar Long Lartin pan ymwelodd Mr Mouncher ag ef.

Yn dilyn y cyfarfod hwn ysgrifennodd Mr Mouncher at uwch swyddog gan ddweud y byddai Mr Massey yn ymddangos gerbron bwrdd parôl ym mis Awst 1991 a byddai'r bwrdd yn ystyried unrhyw osodiadau gan yr heddlu.

Ym mis Medi 1989, ysgrifennodd Mr Massey ddatganiad yn honni fo Mr Paris wedi cyfaddef ei fod wedi lladd Ms White.

Dywedodd Mr Dean wrth Llys y Goron Abertawe beth oedd Mr Massey wedi dweud am Mr Paris.: "Dywedodd ei fod wedi bod yn rhan o'r llofruddiaeth ond nid efe oedd yn hollol gyfrifol."

Clywodd y llys fod Mr Massey hefyd wedi honni bod John Actie, a gafwyd yn ddieuog o ladd Ms White ym 1990, wedi bygwth lladd Mr Abdullahi drwy ddos ormodol o gyffuriau pe na bai Mr Abdullahi'n cytuno i bledio'n euog a dweud bod y lleill heb fod yno."

Mae Mr Paris, eisoes wedi dweud wrth y llys nad oedd wedi cyfaddef i'r llofruddiaeth fel yr honnwyd gan Mr Massey.

Mae'r wyth cyn-blismon wedi'u cyhuddo o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae un ohonyn nhw, y Ditectif Arolygydd Mouncher, a dau o bobl eraill a roddodd dystiolaeth yn achos Tri Caerdydd, gan gynnwys Mr Massey, hefyd wedi eu cyhuddo o ddweud celwydd ar lw.

Mae'r diffynyddion i gyd wedi pledio'n ddieuog ac mae'r achos yn parhau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol