Galw ar gadeirydd Prifysgol Cymru i ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol CymruFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Prifysgol Cymru mai delio gyda'i phroblemau yw'r nod

Dylai cadeirydd Prifysgol Cymru adael ei swydd yn ôl y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews.

Galwodd Mr Andrews am ymddiswyddiad D Hugh Thomas yn dilyn ymchwiliad BBC Cymru i golegau oedd yn gwerthu cymwysterau ar gyfer graddau Prifysgol Cymru.

Dywedodd Mr Andrews fod y sylw i'r mater yn niweidiol i Gymru ac na ellid caniatáu i "gamreolaeth" danseilio'r sector addysg uwch.

Gofynnwyd i'r brifysgol ymateb i sylwadau'r gweinidog.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Andrews ei fod wedi galw sawl gwaith ar gorff llywodraethol Prifysgol Cymru i gymryd cyfrifoldeb am fethiannau ei threfniadau dilysu cymwysterau allanol.

'Niweidiol i Gymru'

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth rhaglen Week In Week Out BBC Cymru ddatgelu bod myfyrwyr tramor wedi cael cynnig i dwyllo er mwyn cael cymwysterau fyddai'n arwain at radd Prifysgol Cymru a theitheb ôl-radd i ddod i'r DU.

Meddai Mr Andrews: "Mae'r sylw drwg sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Cymru yn niweidiol, nid dim ond i'r sefydliad ei hun, ond i'r sector addysg uwch ac i Gymru gyfan.

"Yn wyneb honiadau pellach yn y cyfryngau'r wythnos ddiwethaf, credaf nad oes modd i Brifysgol Cymru barhau o dan yr arweiniad presennol.

"Yr wythnos ddiwethaf, fe ddechreuodd Is-Ganghellor newydd ar ei waith gyda Phrifysgol Cymru a dwi'n dymuno pob llwyddiant i'r Athro Medwin Hughes yn ei rôl newydd.

"Ond rwy'n galw ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei sefyllfa er budd y sefydliad a Chymru.

"Nid wyf yn dweud hyn yn ysgafn, ond ni allwn gael sefyllfa lle mae catalog o gamreoli yn tanseilio'r sector addysg uwch gyfan yng Nghymru."

Ymchwiliad

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr yn cael cynnig graddau Prifysgol Cymru yn y dyfodol

Yn dilyn rhaglen y BBC, fe alwodd pump o brifysgolion mwyaf Cymru am gael gwared â brand Prifysgol Cymru.

Mae Asiantaeth Ffiniau'r DU yn cynnal ymchwiliad i'r materion a godwyd yn y rhaglen.

Yna ddydd Gwener cyhoeddodd Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam na fyddai'n cynnig graddau Prifysgol Cymru mwyach, gyda Phrifysgol Casnewydd yn awgrymu y byddan nhw'n dilyn.

Ond mynnodd yr Athro Medwin Hughes mai delio gyda phroblemau Prifysgol Cymru oedd ei fwriad yn hytrach na diddymu'r brand.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol