Diwedd cyfnod i Neuadd Brynaman wrth i sgrin hanesyddol gael ei thynnu

Mae'r hen sgrin CinemaScope yn Neuadd Gyhoeddus Brynaman wedi cael ei thynnu i lawr
- Cyhoeddwyd
Mae'n ddiwedd cyfnod yn Neuadd Gyhoeddus Brynaman, wedi i'r hen sgrin CinemaScope gael ei thynnu oddi yno.
Dyma un o'r sinemâu cymunedol, annibynnol olaf yng Nghymru - un o'r enghreifftiau prin oedd yn dal i ddefnyddio'r hen dechnoleg.
Roedd y sgrin CinemaScope wedi bod yn ei lle yno ers y 1950au.
"Mae llawer o bobl wedi tyfu lan efo'r neuadd gyhoeddus," meddai Tom North, sy'n dechnegydd gwirfoddol yn y neuadd.
"Ma' llawer o bobl yn cofio fe trwy'r blynydde a mae llawer o bobl dal yn dod yma since o'n nhw'n fach.
"Mae e yng nghalonnau pobl."

"Mae llawer o bobl wedi tyfu lan efo'r neuadd gyhoeddus," meddai Tom North
Ond, am resymau diogelwch, ac er mwyn sicrhau dyfodol y neuadd, roedd rhaid cyflwyno newidiadau.
Dywedodd John Giovanni Viola, sy'n gwirfoddoli yn y neuadd ers 14 o flynyddoedd: "Mae'r sgrin, ma' fe'n 70 oed.
"Mae e bach yn rusty a mae health and safety yn dod mewn iddo fe, ma' isie newid e."

Mae John Giovanni Viola wedi bod yn gwirfoddoli yn y neuadd ers 14 o flynyddoedd
Mae perfformiadau o bob math hefyd yn cael eu llwyfannu yn y neuadd, a bydd gosod sgrin rholio fodern yn y nenfwd yn golygu mwy o hyblygrwydd o ran y defnydd o'r adeilad.
"Bydd e'n haws i roi sioe ymlaen ar y llwyfan nawr," meddai Tom North.
"Bydd dim angen diwrnod bob ochr i symud pethe, bydd e'n neud popeth yn gloi."

"Mae e'n werth y byd i ni gael sgrin newydd," meddai Phoebe Davies
Mae camu i mewn i'r neuadd fel camu yn ôl mewn hanes, ac er bod yna elfen o dristwch bod y sgrin yn mynd, mae'r gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen yn obeithiol at y dyfodol.
"Mae e'n werth y byd i ni gael sgrin newydd, ni'n hapus iawn," meddai Phoebe Davies, cadeirydd y neuadd.
"Mae'r sgrin newydd yn meddwl more live shows, more cinema shows, felly mwy o arian yn dod mewn a helpu ni yn y dyfodol."
Mae'r sinema eisoes wedi ei anrhydeddu â theitl sinema gorau Cymru eleni.

Y flwyddyn nesa' bydd y neuadd yn dathlu ei chanmlwyddiant, ac mae'r paratoadau eisoes wedi dechrau.
"Bydd yna sioe hopefully a bydd yna sinema screenings trwy'r wythnos o ffilmiau sy' 'di bod yma yn y ganrif ddwetha," meddai Mr North.
Ychwanegodd Ms Davies: "Os oes gan unrhyw un hen lunie, hen fideos, os chi gallu gyrru nhw i ni, bydd hwnna'n grêt."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.