Lindsay Whittle o Blaid Cymru yn ennill isetholiad Caerffili

"Mae Caerffili wedi dangos y ffordd - nawr mae'n rhaid i Gymru ddilyn" meddai Lindsay Whittle
- Cyhoeddwyd
Mae Lindsay Whittle o Blaid Cymru wedi ennill isetholiad Caerffili, gyda mwyafrif o 3,848.
"Mae Cymru ar ddechrau arweinyddiaeth newydd - Cymru newydd", meddai wedi iddo ennill yn etholaeth Caerffili ar ei 14eg ymgais.
Cafodd 47.4% o'r bleidlais, gyda Llŷr Powell o Reform yn ail gyda 36.0%.
Cafodd yr isetholiad ei gynnal wedi marwolaeth sydyn yr aelod o'r Senedd Llafur Hefin David ym mis Awst.
Y canlyniad yn llawn oedd:
Steve Aicheler, Democratiaid Rhyddfrydol - 497
Llŷr Powell, Reform - 12,113
Gareth Potter, Ceidwadwyr - 690
Richard Tunnicliffe, Llafur - 3,713
Anthony Cook, Gwlad - 117
Gareth Hughes, Gwyrdd - 516
Roger Quilliam, UKIP - 79
Lindsay Whittle, Plaid Cymru - 15,961
Ymateb Rhun ap Iorwerth i'r fuddugoliaeth yng Nghaerffili
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, "heno, mae pobl Caerffili wedi siarad yn glir ac yn uchel".
"Maent wedi dewis gobaith dros raniad, a chynnydd dros y status quo blinedig, ac wedi cefnogi gweledigaeth gadarnhaol, o blaid Cymru.
"Mae Lindsay Whittle yn hyrwyddwr lleol diflino sy'n adnabod pob cymuned yn yr etholaeth hon o'r tu mewn allan a bydd yn cyflawni newid go iawn i bobl Caerffili.
"Mae'r canlyniad hwn yn dangos nad dim ond dewis arall yw Plaid bellach. Ni yw'r dewis go iawn i Gymru nawr, yr unig blaid sy'n gallu atal Reform a gefnogir gan filiwnyddion a chynnig dyfodol gwell sy'n gweithio i bawb."
'Barod i ddechrau ar unwaith'
Dywedodd Lindsay Whittle, "rwy'n barod i ddechrau gweithio ar unwaith drwy sicrhau bod ein hysgolion lleol yn cael eu cefnogi'n iawn, bod ein llyfrgelloedd yn aros ar agor, bod ein meddygon teulu yn gweld pobl pan fydd eu hangen arnynt, a bod pawb yng Nghaerffili yn cael yr un cyfle i wneud yn dda.
"Rwyf wedi treulio fy mywyd cyfan yn ymladd dros y gymuned hon, ac ni fyddaf yn stopio nawr.
"Mae canlyniad heno yn dangos beth sy'n bosibl pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi atebion ymarferol ac amddiffyn yr hyn sydd bwysicaf."
Reform fydd yn ffurfio'r llywodraeth ym mis Mai, meddai Llŷr Powell
Dywedodd Llŷr Powell, gan gyfeirio at etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, "rwy'n credu'r mis Mai nesaf Reform fydd yn ffurfio'r llywodraeth.
"Mae mwy o bobl yn troi allan i bleidleisio nawr pan fydd ganddynt blaid i gredu ynddi."
Yn ymateb i'r golled dywedodd Richard Tunnicliffe o Lafur, "gwnaethom ein gorau i gynnal ymgyrch gadarnhaol, un a roddodd pryderon pobl Caerffili a'r cymoedd wrth ei galon.
"Felly, er ein bod wedi colli heddiw, mi wnaf i roi fy ngorau wrth ymgyrchu erbyn mis Mai.
"Bydd gennym gyfle i benderfynu eto gyda system newydd a chyfle newydd i siapio ein gwlad."

Mae'r golled yn gadael Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan, arweinydd Llafur Cymru, mai "isetholiad oedd hwn o dan yr amgylchiadau anoddaf".
Llongyfarchodd Lindsay Whittle ar ei fuddugoliaeth.
"Mae'n dychwelyd i'r Senedd, gan barhau â'i ddegawdau lawer o wasanaeth etholedig i bobl yng Nghaerffili."
Ychwanegodd, "mae Llafur Cymru wedi clywed y rhwystredigaeth ar garreg drws yng Nghaerffili nad yw'r angen i deimlo newid ym mywydau pobl wedi bod yn ddigon cyflym.
"Rydym yn derbyn ein rhan o'r cyfrifoldeb am y canlyniad hwn.
"Rydym yn gwrando, rydym yn dysgu'r gwersi, a byddwn yn dod yn ôl yn gryfach."
Roedd Caerffili wedi bod yn gadarnle i Lafur ers dros ganrif, gyda'r blaid cyn heno wedi ennill yma ym mhob etholiad i San Steffan ers sefydlu'r etholaeth ym 1918, ac ym mhob etholiad i Fae Caerdydd.
Ond roedd Plaid Cymru a Reform wedi gweld cyfle i brofi pwynt cyn etholiad mis Mai.
Mae'r golled i Lafur yn gadael Llywodraeth Lafur Cymru ddwy bleidlais yn brin o fwyafrif yn Senedd Cymru gan ei gwneud hi'n anoddach i'r llywodraeth basio'i chyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.
O ganlyniad bydd dod i gytundeb gydag unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn Senedd Cymru, fel gwnaeth y llywodraeth eleni i basio'i chynlluniau gwario, ddim yn ddigon.