Dim diddordeb gan Brendan Rodgers mewn swydd newydd
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud nad yw am gael ei ystyried i fod yn rheolwr newydd ar dîm Gogledd Iwerddon.
Gadawodd Nigel Worthington y swydd ar ôl i'r tîm golli o 3-0 yn Yr Eidal nos Fawrth.
Mynnodd Rodgers, a gafodd ei eni yn Carnlough yng Ngogledd Iwerddon, nad oes ganddo uchelgais ar hyn o bryd i fod yn rheolwr rhyngwladol.
Cafodd Rodgers ei benodi yn rheolwr Abertawe ym mis Gorffennaf 2010 cyn eu harwain i'r Uwchgynghrair y tymor hwn.
"Ar hyn o bryd, dyw hyn ddim o ddiddordeb i mi," meddai.
"Byddai bod yn rheolwr ar Ogledd Iwerddon yn rhywbeth y byddwn am ei wneud rhywdro yn fy ngyrfa yn sicr.
"Dyma fy ngwlad - gwlad fy mebyd lle cefais fy magu, a gwlad rwy'n ei charu.
"Ond gobeithio y daw'r cyfle yn agosach at ddiwedd fy ngyrfa, a gobeithio na fydd hynny am beth amser i ddod.
"Mae gen i ormod o egni i fod yn rheolwr rhyngwladol ar hyn o bryd."
Bu Nigel Worthington yng ngofal y tîm rhyngwladol am bedair blynedd a hanner, ond methodd a chyrraedd rowndiau terfynol unrhyw gystadleuaeth yn ystod ei deyrnasiad.
Mae enwau Jim Magilton, Iain Dowie a Lawrie Sanchez wedi cael eu crybwyll fel olynydd posib i Worthington, gyda'r cyn chwaraewyr rhyngwladol James Quinn a Colin Clarke hefyd yn datgan diddordeb yn y swydd.
Ac er nad yw am gael y swydd, mae Rodgers yn credu y bydd gan Gymdeithas Bêl-Droed Iwerddon ddigon o ddewis o ymgeiswyr.
"Mae nifer o bobl allai wneud y swydd," meddai Rodgers.
"Rhywun fel Martin O'Neill - er efallai y byddai am aros fel rheolwr clwb.
"Mae gen i ddiddordeb mawr yn natblygiad y wlad, ac rwy'n siŵr bydd nifer o reolwyr posib i ateb yr alwad."