Llofruddion wedi mynd i'r 'cyfeiriad anghywir'
- Cyhoeddwyd
Mae achos llofruddiaeth Aamir Siddiqi o Gaerdydd wedi dechrau o'r newydd yn Llys y Goron y brifddinas.
Roedd aelodau'r rheithgor gwreiddiol wedi eu rhyddhau.
Clywodd y llys nad y bachgen 17 oed oedd i fod i'w dargedu gan y diffynyddion, ond dyn arall oedd yn byw gerllaw.
Mae Jason Richards, 37 oed, a Ben Hope, 38 oed, y ddau o Gaerdydd, yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Cafodd Aamir ei lofruddio wrth i ddau lofruddiwr contract honedig fynd i'r cyfeiriad anghywir.
Clywodd y rheithgor bod gan y ddau "anallu rhyfeddol" wrth drywanu Aamir mewn camgymeriad ar stepen drws ei gartref yn ardal Parc Y Rhath ym mis Ebrill 2010.
Fe gafodd rhieni Aamir - ei dad Iqbal, 68 oed, a'i fam Parveen, 55 oed - eu hanafu wrth geisio helpu eu mab.
Clywodd y llys fod y ddau sydd wedi eu cyhuddo wedi cael eu talu i ddial ar ddyn arall oedd yn byw mewn stryd gyfagos lai na 100 llath i ffwrdd.
Honnir bod y dyn hwnnw mewn anghydfod ynglŷn â gwerthu ei dŷ.
'Llwfr a chreulon'
Dywedodd yr erlynydd Patrick Harrington QC bod Aamir yn disgwyl ei athro i'r tŷ pan ymosodwyd arno.
Pan agorodd y drws roedd 'na ddau ddyn o'i flaen yn gwisgo mygydau.
Yn syth fe gafodd ei drywanu meddai Mr Harrington ac er na wnaethon nhw ddweud dim byd, roedden nhw'n udo drwy'r ymosodiad.
Fe wnaeth ddisgrifio'r ymosodiad fel un "llwfr a chreulon".
Cafodd y rheithgor glywed recordiad o alwad ffôn 999 Mrs Siddiqi yn erfyn am ambiwlans ar ôl i'r ddau ddyn ffoi.
Er bod Mr Hope a Mr Richards wedi ymweld â'r cyfeiriad cywir ymlaen llawn, fe aethon nhw'r ffordd arall ar y diwrnod tyngedfennol.
Mae disgwyl i'r achos barhau am 10 wythnos.