Taro plant: Ymgyrch newydd
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp amlbleidiol o Aelodau Cynulliad yn dechrau ymgyrch o'r newydd fyddai'n gwahardd rhieni rhag taro eu plant.
Fe fyddan nhw'n galw am ddod â diwedd i'r defnydd o 'roi cerydd' fel yr amddiffyniad cyfreithiol dros daro plant.
Bu dadl ynglŷn ag a oedd gan y Cynulliad y pŵer i basio deddf o'r fath pan fu ymgais i wahardd yr arfer yn y gorffennol.
Ond mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud wrth Aelodau Cynulliad fod Llywodraeth Cymru o'r farn y gallan nhw lunio deddf.
Dadl
Mae'r pedwar Aelod Cynulliad sydd am newid y gyfraith wedi amlinellu eu bwriad i gynnal dadl yn y Senedd, gan annog Llywodraeth Cymru i lunio deddfwriaeth a fyddai'n dod â diwedd i'r defnydd o 'ddefnyddio cerydd' fel yr amddiffyniad dros ymosod ar blentyn.
Maen nhw'n obeithiol o ennill tir yn y drafodaeth wedi i Carwyn Jones anfon llythyr at ddau o'r pedwar aelod.
Yn ôl y llythyr, sydd wedi dod i law BBC Cymru, mae Mr Jones yn dweud fod gweinidogion Cymru o'r farn ei bod hi'n bosib i'r Cynulliad addasu'r gyfraith a dod â diwedd "i'r posibilrwydd o ddefnyddio cerydd derbyniol yn yr achosion hynny sydd yn berthnasol i'r drosedd o ymosod ar blentyn".
'Achub y blaen'
Mae un o'r ACau sydd am weld gwaharddiad, Christine Chapman o'r blaid Lafur, yn dweud fod mesurau tebyg mewn gwledydd eraill wedi bod yn llwyddiant.
"Mae llawer yn awgrymu nad ydi taro plant yn gweithio," meddai.
"Pa neges sydd yn cael ei roi i blant wrth ddefnyddio grym corfforol i geisio eu cael nhw i wneud beth yr ydych chi am iddyn nhw ei wneud?
"Mae gwledydd eraill wedi achub y blaen ar y pwnc yma."
Mae Mrs Chapman, sydd yn fam i ddau o blant, yn dweud ei bod hi'n difaru taro ei phlant ddwywaith tra roedden nhw'n iau.
"Dwi wir yn teimlo y byddai wedi bod yn fuddiol cael mwy o wybodaeth ar y pryd, dwi'n teimlo'n ofnadwy rŵan."
Yr aelod Llafur Julie Morgan, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams, a Lindsay Whittle o Blaid Cymru ydi'r tri aelod arall sydd yn galw am y ddadl yn y Cynulliad.
Dywedodd Mr Whittle: "Dyma rywbeth lle y gall y Cynulliad wneud gwahaniaeth, un o'r deddfau mawr cyntaf y cawn ni basio gyda'r pwerau newydd."
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i'w gwneud hi'n annerbyniol i gosbi plant a phobl ifanc yn gorfforol, trwy annog dewisiadau eraill positif, ac rydyn ni'n credu mai dyma'r lle gorau i ddechrau."