Rhybudd am gyffuriau synthetig cryf iawn ar strydoedd Cymru

- Cyhoeddwyd
Roedd dros draean o gyffuriau a gafodd eu profi mewn arolwg yn cynnwys sylwedd gwahanol i'r hyn yr oedd pobl yn meddwl yr oeddent wedi ei brynu.
Mewn llawer o achosion roedd y cyffuriau gafodd eu profi yn cynnwys cyffuriau synthetig cryf iawn, yn ôl yr ymchwil gan Wasanaeth Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS).
Dywedodd WEDINOS bod y cynnydd mewn sylweddau synthetig cryf iawn yn achos pryder, gan nad yw defnyddwyr yn ymwybodol ohonynt.
Mae'r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at berygl fêps canabis anghyfreithlon sy'n cynnwys cemegau llawer cryfach na chanabis naturiol.
Mae is-gadeirydd elusen wedi dweud bod defnydd fêps "allan o reolaeth" ac nad oes modd gwybod beth sydd ynddyn nhw.
Cyffur 100 gwaith cryfach na morffin
Rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025, derbyniodd WEDINOS 9,784 o samplau – y nifer uchaf yn yr 11 mlynedd ers ei sefydlu.
O'r rhain, roedd 35% yn cynnwys sylweddau gwahanol i'r hyn yr oedd pobl yn meddwl eu bod wedi'i brynu.
Mewn llawer o achosion, roedd y cyffuriau'n cynnwys sylweddau synthetig cryf iawn sy'n gysylltiedig â nifer o risgiau iechyd.
Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n rheoli gwasanaeth WEDINOS, sy'n dweud bod pryder penodol am y nifer cynyddol o nitasenau a gafodd eu darganfod - math o opioid synthetig sy'n gallu bod hyd at 100 gwaith cryfach na morffin.
Roedd y rhain i'w gweld amlaf mewn heroin ac mewn tabledi diazepam ffug.
Mae'r sylweddau hyn wedi'u cysylltu ag o leiaf 333 o farwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn y DU yn 2024.
Mae'r adroddiad hefyd yn rhybuddio am fêps canabis anghyfreithlon, am iddyn nhw ddarganfod fod bron i 40% ohonynt yn cynnwys canabinoidau synthetig - cemegau llawer cryfach na chanabis naturiol.
Yn ôl yr adroddiad, gall y rhain achosi ffitiau, problemau'r galon a phyliau sydyn o seicosis.

Dywedodd is-gadeirydd elusen Adferiad, Clive Wolfendale bod yr adroddiad yn adlewyrchu ei brofiad yn y maes, gyda "chynnydd mawr mewn cyffuriau traddodiadol yn cael eu cymysgu â sylweddau synthetig - a'r rhai synthetig bellach yn dod i'r amlwg ar eu pennau eu hunain hefyd".
Ychwanegodd bod y "sefyllfa gyda fêps bellach allan o reolaeth", yn enwedig ymysg pobl ifanc.
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd ynddyn nhw – mae angen mwy o brofion, addysg a rheoleiddio llymach i gadw pobl yn ddiogel.
"Mae popeth o 'raspberry juice' i ganabinoidau synthetig ac opioidau."
'Rhaid gwarchod pobl ifanc Bethesda rhag peryglon cyffuriau'
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Sgwrs WhatsApp wedi datgelu gang cyffuriau gwerth miliynau
- Cyhoeddwyd14 Medi
Dinistrio gwerth £750,000 o fêps gafodd eu canfod mewn lori cludo bwyd
- Cyhoeddwyd16 Ionawr
Dywedodd yr Athro Rick Lines, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod y ffaith bod sylweddau synthetig mewn cyffuriau stryd yn "cynyddu'r risg o adweithiau niweidiol".
"Mae ein gwasanaeth yn galluogi aelodau'r cyhoedd i dderbyn dadansoddiad dienw o sylweddau y maent wedi'u prynu ac y gallent fod yn ystyried eu defnyddio.
"Mae'n galluogi dewis ar sail gwybodaeth ac yn annog newid ymddygiad."
Cafodd 211 o sylweddau gwahanol eu nodi dros y flwyddyn diwethaf, gan gynnwys nifer o rai newydd, gyda chocên a diazepam ymhlith y cyffuriau mwyaf cyffredin.