Arweinydd newydd Plaid Cymru i ddechrau ar Mawrth 15

  • Cyhoeddwyd
Ieuan Wyn JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Ieuan Wyn Jones y byddai'n rhoi'r gorau i arwain y blaid wedi canlyniadau siomedig yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai

Daeth cyhoeddiad y bydd arweinydd newydd Plaid Cymru yn cael ei ethol ar Fawrth 15 y flwyddyn nesa'.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd yr awenau mewn digwyddiad arbennig yng Nghaerdydd, wythnos cyn cynhadledd wanwyn y blaid.

Bydd cyfle i enwebu ymgeiswyr rhwng Ionawr 3 a 26.

Cyhoeddodd yr arweinydd presennol, Ieuan Wyn Jones, y byddai'n rhoi'r gorau iddi wedi perfformiad siomedig y blaid yn Etholiad y Cynulliad.

Dywedodd Plaid Cymru y bydden nhw'n cynnal dadleuon cyhoeddus ar gyfer yr arweinyddiaeth am y tro cynta' yn ogystal â sawl hysting mewnol.

Cyhoeddwyd amserlen y ras ar gyfer yr arweinyddiaeth yr un diwrnod â lansio ymgyrch i ddenu aelodau newydd i'r blaid, dan arweiniad y cyn arweinydd a'r llywydd anrhydeddus, yr Arglwydd Wigley.

Cadarnhau

Dywedodd cadeirydd y blaid, Helen Mary Jones: "Mae'n gyfnod cyffrous. Rydym ar hyn o bryd yn adnewyddu'r blaid fel bod gennym ni'r sefydliad gorau posib i arwain Cymru ymlaen dros y blynyddoedd nesa'."

Mae'r Aelod Cynulliad, Elin Jones, a'r Arglwydd Elis-Thomas, fu'n arweinydd 20 mlynedd yn ôl, wedi cadarnhau y byddan nhw'n ceisio am yr arweinyddiaeth.

Bu Ieuan Wyn Jones yn Aelod Seneddol Sir Fôn rhwng 1987 a 2001 ac mae wedi cynrychioli'r ynys fel Aelod Cynulliad ers i'r Cynulliad ddechrau yn 1999.

Mae wedi arwain Plaid Cymru ers 2000.

Ers Etholiad y Cynulliad ym mis Mai mae nifer seddi'r blaid wedi gostwng i 11 - eu canlyniad gwaetha' ers sefydlu'r Cynulliad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol