Cau canolfan i bobl ag anghenion ychwanegol yn benderfyniad 'gwarthus'

Canolfan Sylfaen yn Llanidloes
  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp ymgyrchu yn Llanidloes wedi disgrifio'r penderfyniad i gau canolfan Sylfaen yn y dref - sy'n darparu gwasanaethau i oedolion ag anghenion ychwanegol - fel un "gwarthus".

Mewn cyfarfod cyhoeddus nos Lun, daeth dros hanner cant o bobl at ei gilydd i alw ar gyngor Powys i ymgynghori'n llawn gyda'r gymuned ynglŷn â'r ganolfan sy'n rhoi gofal i bobl dros 18 oed sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

Yn mis Mai, penderfynodd cabinet Cyngor Powys gau canolfan Sylfaen ynghyd â dwy arall yn Ystradgynlais ac Aberhonddu.

Dywedon nhw eu bod yn ystyried ffyrdd gwahanol o ddarparu gwasanaethau yn ogystal â gwneud arbedion o £277,000.

Llun o'r Cynghorydd Pete Roberts yn siarad o flaen pobl mewn cyfarfod. Mae powerpoint ymlaen ar y wal y tu ôl iddo a gliniadur ar fwrdd wrth ei ymyl.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr aelod o gabinet cyngor Powys sydd â chyfrifoldeb am ofal, y Cynghorydd Pete Roberts, yn disgrifio'r newidiadau i'r gwasanaeth

Y cynllun gwreiddiol oedd cau Sylfaen yn gyfan gwbl – ond erbyn hyn, mae'r cyngor yn dweud y byddan nhw'n parhau i ddefnyddio hanner yr adeilad, ac yn uno'r ddarpariaeth ddydd gyda'r hyn sy'n cael ei ddarparu ym Maes y Wennol, sef cartref gofal yn y dref.

Er y newid yn y cynlluniau roedd teimladau cryf yn y cyfarfod cyhoeddus gyda nifer o bobl leol - llawer yn berthnasau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau Sylfaen - yn galw ar Gyngor Powys i ailfeddwl a chadw pob rhan o Sylfaen ar agor.

Grŵp Achub Sylfaen drefnodd y cyfarfod a chafodd ei gynnal yn siambr cyngor tref Llanidloes a'i gadeirio gan faer y dref, Dr John Hughes.

Bu'r Cynghorydd Pete Roberts, yr aelod o gabinet cyngor Powys sydd â chyfrifoldeb am ofal, yn annerch y cyfarfod gan ddisgrifio'r newidiadau i'r gwasanaeth.

Fe fydd gwasanaeth newydd i oedolion yn cael ei lansio o'r enw Cyfleoedd Dydd Llanidloes – a bydd yn cael ei ddarparu ar safleoedd Sylfaen a Maes y Wennol.

Llun o bobl yn eistedd o gwmpas bwrdd hir a chrwn.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros hanner cant o bobl yn bresennol yn y cyfarfod nos Lun

Yn ôl y cyngor fe fydd y model newydd o ddarparu'r gwasanaeth "yn hyblyg, yn canolbwyntio ar gynyddu annibyniaeth, gwydnwch a chysylltiad cymunedol" a byddai'r cyfleoedd sy'n cael eu darparu gan y gwasanaeth yn cael eu "teilwra i anghenion unigol trigolion."

O dan y cynllun bydd hanner adeilad Sylfaen yn aros ar agor gan gynnwys yr ardd, toiledau i bobl anabl, yr ardal synhwyraidd a'r gegin – ond mae'r hanner arall, oedd yn cael ei ddefnyddio gan bobl sy'n byw mewn tai â chymorth, eisoes wedi cau.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi newid eu cynlluniau gwreiddiol ar ôl "ymgysylltiad ychwanegol" â'r gymuned leol yn Llanidloes.

Er bod rhai agweddau o'r newidiadau wedi cael eu croesawu – gan gynnwys y cyfleoedd newydd i bobl weithio neu wirfoddoli, ac i wneud gweithgareddau fin nos ac ar benwythnosau – mae cefnogwyr Sylfaen am weld y ddarpariaeth lawn yno yn cael ei hadfer.

Mae Ruth Davies yn fam i Anne sydd â pharlys yr ymennydd.

Roedd Anne yn arfer mynd i'r rhan o Sylfaen sydd bellach wedi cau.

Dywedodd Ruth bod Anne yn gymeriad "annwyl, direidus weithiau sy'n hoffi mynd allan."

Ond mae hi wedi newid ers iddi fethu â mynd i'r ganolfan ddydd, meddai.

"Mae hi'n berson cymdeithasol iawn, ac roedd hi'n arfer mynd i Sylfaen, ond all hi ddim mynd nawr.

"Dyw hi ddim yn hapus, a dyw ei natur ddim fel oedd hi o'r blaen.

"Dwi am iddyn nhw ei agor eto fel y gallan nhw i gyd fynd yn ôl."

Elwyn Vaughan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elwyn Vaughan bod y ganolfan yn "rhoi rhyddhad yn aml iawn i deuluoedd sy' dan bwysau wrth ofalu am anwyliaid"

Roedd teuluoedd pobl eraill sydd ddim yn cael mynd i Sylfaen dim mwy yn dweud pethau tebyg.

Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan bod y ganolfan yn adnodd hanfodol i lawer o deuluoedd yn Llanidloes a'r ardal ehangach: "Mae'n bwysig iawn i bobl sy' wedi bod yn byw mewn cartrefi yn yr ardal neu yn byw gyda'u teuluoedd, ac mae'n rhoi rhyddhad yn aml iawn i deuluoedd sy' dan bwysau wrth ofalu am anwyliaid.

"Fel y gall rhywun ddychmygu mae'n ymrwymiad mawr ac yn bwysau mawr ar deuluoedd sy'n gofalu – ac mae hyn yn galluogi rhai i fynd i weithio a gwneud pethau eraill a chynnal bywyd arferol, felly mae'n adnodd pwysig iawn."

'Gwrthwynebu'n gryf iawn'

Cafodd llythyr ei ddarllen i'r cyfarfod oddi wrth feddygon teulu yn Llanidloes ac roedden nhw'n dweud eu bod yn "gwrthwynebu yn gryf iawn unrhyw gynlluniau i gwtogi'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn Sylfaen."

Hefyd, roedd galwad o lawr y cyfarfod ar i Gyngor Powys ailagor pob rhan o ganolfan Sylfaen ac i beidio â gwneud unrhyw newid pellach i'r gwasanaeth cyn bod ymgynghoriad llawn wedi'i gynnal.

Mewn ymateb i hyn dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts: "Gwnaed llawer o waith gyda gwahanol gymunedau ynglŷn â'r materion ehangach sy'n rhan o'r model hwn, ac mae hwn yn fodel ar gyfer Powys gyfan, nid yn unig ar gyfer Llanidloes.

"Un o fy ymweliadau cyntaf fel deiliad portffolio oedd cyfarfod gyda'r holl deuluoedd a allai fynychu a chyngor y dref.

"Gwrandawon ni ar rai o'r awgrymiadau oedd ganddyn nhw, a dyna'r hyn sy' wedi cael ei gyflwyno gennym ni nawr.

"Ry'n ni'n edrych ar fuddiannau gorau'r unigolion ry'n ni'n cefnogi, nid yn unig y rhai sy'n derbyn y gwasanaeth ar hyn o bryd, ond y rhai eraill a ddaw yn y dyfodol."