Rhai cynghorau yn 'agos iawn' at fynd i'r wal - Archwilydd Cyffredinol

Mae'r Archwilydd Cyffredinol wedi rhybuddio y gallai gwasanaethau wynebu toriadau sylweddol os yw cynghorau yn mynd i'r wal
- Cyhoeddwyd
Mae un neu ddau o gynghorau sir Cymru yn agos at fynd yn fethdalwyr, yn ôl corff gwarchod gwariant cyhoeddus Cymru.
Roedd 'na bryder ymhlith nifer o awdurdodau lleol yr wythnos diwethaf ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £169m ychwanegol ar gyfer y flwyddyn nesaf - llai na thraean o'r hyn y mae cynghorau'n dweud sydd eu hangen arnynt.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton fod cynghorau'n wynebu "pwysau gwirioneddol" wrth i gostau gwasanaethau gynyddu, ac y gallai hynny arwain at doriadau sylweddol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae eu cynlluniau'n golygu y bydd £6.4bn ar gael i gynghorau allu darparu gwasanaethau allweddol.
Cyllideb yn rhoi arian ym mhocedi pobl sydd ei angen fwyaf - Drakeford
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
'Gwario llai ar dai, ffyrdd a llyfrgelloedd heb setliad teg'
- Cyhoeddwyd23 Awst
Cynghorau sy'n gyfrifol am bethau fel ariannu ysgolion, gwasanaethau gofal, casglu sbwriel a rhai gwasanaethau trafnidiaeth fel bysus
Mae rhybuddion wedi bod ers blynyddoedd y gallai rhai awdurdodau wynebu heriau ariannol sylweddol, fel y mae rhai yn Lloegr eisoes wedi gorfod delio â nhw.
Er nad yw cynghorau'n gallu mynd i'r wal yn yr un modd â busnes arferol, maen nhw'n gallu cyhoeddi'r hyn sy'n cael ei alw yn rhybudd 114 - datganiad cyfreithiol sy'n nodi eu bod ar fin gwario arian y tu hwnt i'w gallu.
Mae'r rhybudd fel arfer yn golygu y byddai'r cyngor yn cwrdd o fewn rhai wythnosau i drafod sut i osgoi hynny - sydd yn ei dro yn arwain at doriadau sylweddol i wasanaethau.

Dywedodd Adrian Crompton fod cynghorau'n wynebu "pwysau gwirioneddol"
Flwyddyn yn ôl fe wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru baratoi cynlluniau ar gyfer sefyllfa o'r fath, ond does yr un cyngor yng Nghymru wedi cyhoeddi rhybudd 114 hyd yn hyn.
Er na chafodd unrhyw gynghorau penodol eu henwi, awgrymodd Mr Crompton y gallwn ni weld hynny yn newid yn fuan.
"Yr hyn 'dan ni'n ei weld ar hyn o bryd yw bod un neu ddau o awdurdodau lleol yn agos iawn, iawn at y dibyn o ran cynaliadwyedd ariannol," meddai.
"Fyddai hi ddim yn cymryd llawer i wthio nhw oddi ar yr ymyl yna fel 'dan ni wedi ei weld yn digwydd ar draws y ffin yn Lloegr."
'Digon i'w gwthio dros yr ymyl'
Esboniodd fod gan gynghorau ddyletswydd statudol i ddarparu nifer o'u gwasanaethau.
"Rydyn ni wedi gweld cost cynnal rhai gwasanaethau yn cynyddu yn sydyn iawn, er enghraifft gwasanaethau plant neu ddarpariaeth llety dros dro.
"Mae'r rhain yn wasanaethau sydd, i bob pwrpas, yn mynd yn ôl y galw - felly dyw awdurdodau lleol ddim yn gallu eu rheoli yn uniongyrchol.
"Mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu'r gwasanaethau hynny, ac os ydyn nhw'n wynebu costau ychwanegol annisgwyl yn y meysydd hyn, fe allai hynny fod yn ddigon mewn rhai achosion i'w gwthio dros yr ymyl."

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn dweud y byddai'n hoff o weld cynghorau'n derbyn rhagor o arian
Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y llywodraeth eu bod am gynyddu'r arian sydd ar gael i gynghorau o 2.7% i £6.4bn.
Ond mae'r cynnydd yna o £169m yn llai na thraean o'r diffyg ariannol o £560m y mae cynghorau'n dweud y maen nhw'n ei wynebu.
Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford wedi dweud y byddai'n hoffi rhoi mwy o arian i gynghorau, tra bod ffynhonnell o fewn llywodraeth leol wedi awgrymu bod awdurdodau yn obeithiol y bydd y ffigwr terfynol yn uwch na'r hyn sydd wedi ei gyhoeddi hyd yma.
Mewn pwyllgor seneddol ddydd Llun dywedodd Mr Drakeford ei fod yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu llywodraeth leol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n cyllideb ddechreuol yn golygu bod £6.3bn ar gael i gynghorau allu darparu gwasanaethau allweddol, cyngor cyfartalog o 2.7% gyda chyllid ychwanegol i sicrhau fod pob cyngor yn gweld cynnydd o 2.3% y flwyddyn nesaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.