Diwygio budd-dal: 'Heriol ac anodd'
- Cyhoeddwyd
Bydd diwygio budd-dal salwch yng Nghymru yn "broses anghyfforddus, anodd a heriol" i rai, yn ôl Gweinidog Gwaith y DU, Chris Grayling.
Roedd yn siarad ar raglen BBC Cymru, Week In Week Out, sy'n ymchwilio i'r newidiadau i'r system fudd-dal yng Nghymru.
Mae mwy na 180,000 yng Nghymru yn hawlio budd-dal salwch sy'n cyfateb i hyd at £99.85 yr wythnos i unigolyn.
Ac mae hen gymunedau glofaol De Cymru ymysg yr ardaloedd lle mae'r gyfran fwyaf o bobl yn hawlio'r budd-dal ym Mhrydain.
42.7%
Fe holodd Week In Week Out bobl yn Phillipstown yn Nhredegar Newydd.
Er bod mwy na hanner y boblogaeth o fewn oed gweithio mewn gwaith, mae 42.7% o bobl yn derbyn budd-daliadau, 19% yn derbyn budd-dal salwch, a 12% yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith.
Mae'r rhaglen wedi bod yn ffilmio'r teulu Harris yn Nhredegar - tair cenhedlaeth yn ddi-waith a hanner y teulu'n derbyn budd-dal salwch.
Mae Joan Harris, mam naw o blant, wedi treulio ei hoes yn magu ei phlant ac wyrion ac nid yw hi erioed wedi gweithio.
"Dydyn ni ddim yn byw ar gefn neb. Os yw pobol yn sâl, maen nhw'n sâl," meddai.
"Maen nhw'n mynd i ddileu budd-dal salwch pobl. Shwd mae pobol yn mynd i fyw? Shwd y'n ni i gyd yn mynd i fyw?"
"Sdim gwaith i' ga'l. Shwd maen nhw'n gallu dileu budd-dal pobol os yy'n nhw ddim yn holliach? Mae hyn yn hollol anghywir."
Trosglwyddo
Ym mis Ebrill eleni, dechreuodd yr Adran Gwaith a Phensiynau drosglwyddo pawb oedd yn hawlio budd-dal salwch tymor hir i restr y rheiny sy'n hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Mae'r rhai ar y rhestr yn cael eu hasesu yn aml i brofi a ydyn nhw'n gymwys i weithio ai peidio.
Mae mab Mrs Harris, Tommy, eisoes yn derbyn y lwfans ond am roi'r gorau i hawlio'r budd-dal a chael swydd.
Ond dyw e ddim yn meddwl y gallai gael swydd yn y cymoedd.
Mae'r rhaglen yn ei ddilyn wrth iddo ddechrau hawlio'r lwfans a cheisio cael swydd gyda help Tîm Ieuenctid a Chymunedol Phillipstown - ar adeg pan mae diweithdra'n cynyddu.
Ers mis Ebrill eleni mae 6,600 o bobl sy'n hawlio budd-dal salwch tymor hir yng Nghymru wedi eu hasesu a ydyn nhw'n gymwys i dderbyn y lwfans ai peidio.
2014
Bydd yr asesu yn parhau tan 2014 a'r disgwyl yw i Lywodraeth y DU arbed tua £1bn dros bum mlynedd.
Does dim llawer o bobl yn rhy sâl i weithio ymysg hawlwyr newydd y lwfans.
Mae'r rhan fwyaf naill ai'n dileu eu ceisiadau neu'n hawlio'r lwfans lle disgwylir iddyn nhw chwilio am waith neu ymuno â Grŵp Gweithgarwch Cysylltiedig lle maen nhw'n cael eu paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.
Ymysg y rhain mae'r cyn-weithiwr asbestos, Steve Parker, o Faesycymer.
Yn ôl ei asesiad diwethaf, fe fyddai'n gallu gweithio ymhen tri mis - er ei fod yn dioddef o sawl afiechyd.
Ymgeisiodd am swydd ond cafodd ei wrthod ar sail ei iechyd.
Cyffuriau
"Mae'r cyflogwyr yn dweud mod i ddim yn ddigon iach i weithio ond mae'r llywodraeth yn honni mod i'n ddigon iach i weithio," meddai.
"Ar hyn o bryd dwi ddim yn gwybod beth sy'n digwydd."
Mae Annie Mills yn 57 oed ac yn gyn-was sifil sy'n byw ger Steve.
Ac mae hi hefyd wedi ei hysbysu y dylai baratoi am waith er ei bod hi wedi derbyn llythyrau o'i meddyg ymgynghorol yn dweud na ddylai weithio oherwydd y cyffuriau mae hi'n eu cymryd.
"Mae bywyd yn rhy galed, ambell waith rwy i mewn cymaint o bo'n ...
"Wy ddim angen y poen meddwl, y bydd rhaid imi ddychwelyd i'r gwaith neu golli fy mudd-daliadau."
Enillodd hi ei hapêl yn erbyn y penderfyniad ond mae'r ymgyrchydd anabledd, Kate Howell, wedi honni bod y system yn gorfodi pobl sâl i roi'r gorau i hawlio eu budd-daliadau.
'Isel iawn'
"Rydyn ni'n sôn am bobl sy'n wirioneddol sâl ac yn isel iawn eu hysbryd sy'n gorfod sefyll gerbron bwrdd ar ôl bwrdd a llenwi ffurflenni allai fod yn fwy na 50 neu 60 tudalen o hyd nad ydyn nhw'n eu deall," meddai.
"Rwy'n meddwl bod y wladwriaeth yn gobeithio y bydd pobl yn rhoi'r gorau i'r broses am ei bod yn un hirwyntog.
"Mae gennym ni dystiolaeth fod pobl yn rhoi'r gorau am nad ydyn nhw'n fodlon apelio dro ar ôl tro oherwydd bod y broses yn rhy ofidus."
Mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglen waith newydd "fydd yn helpu 135,000 o bobl yng Nghymru i gystadlu am swyddi".
Dywedodd Gweinidog Gwaith, Chris Grayling: "Bydd y broses ail asesu yn anodd i rai pobl ond fe fyddwn ni'n gwneud popeth y gallwn i sicrhau ei bod hi'n deg ac yn ystyriol.
"Bydd y rheiny sydd yn methu gweithio ac sydd angen cefnogaeth ddiamod yn cael eu helpu.
"Ond dylen ni geisio helpu pobl i wneud rhywbeth gwahanol i dreulio gweddill eu bywydau yn derbyn budd-daliadau."
Ond mae adroddiad yr Athro Steve Fothergill o Brifysgol Hallam Sheffield yn honni na fydd 45,000 o bobl yn derbyn y lwfans o dan y canllawiau newydd.
Ychwanegodd na fyddai'r diwygiadau'n gweithio am nad oedd digon o swyddi ar gael yng Nghymoedd De Cymru.
"Mae gorfodi pobl i ddychwelyd i'r gweithle yn cynyddu'r ymgiprys am swyddi ond nid yw'n cynyddu'r nifer o bobl mewn gwaith," meddai.
Week In Week Out, BBC1 Cymru, 10.35pm, ddydd Mawrth, Hydref 18, 2011