Pedwar wedi'u hanafu mewn gwrthdrawiad difrifol ym Mhowys

A470Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mhowys yn cynnwys dau gar

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar o bobl wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiad ffordd difrifol ar yr A470 ym Mhowys.

Fe wnaeth dau gar wrthdaro rhwng Llanbrynmair a Comins-coch am tua 13:25, ddydd Sul.

Cafodd Ambiwlans Awyr ei alw i'r digwyddiad, o'i safle yn Y Trallwng a bu criwiau Tân ac Achub o Fachynlleth a Llanidloes yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae'r ffordd yn parhau i fod ar gau i'r ddau gyfeiriad ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi'r ardal.

Nid ydy hi'n glir pa mor ddifrifol ydy'r anafiadau ar hyn o bryd.