Llafur wedi 'methu cyfleu'r neges' yn isetholiad Caerffili

Huw Irranca-DaviesFfynhonnell y llun, Mark Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Irranca-Davies fod angen i Lafur edrych ar eu ffordd o ymgyrchu a chynnal "ymgyrch gadarnhaol"

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y Blaid Lafur "fethu cyfleu'r neges" yn isetholiad Caerffili, yn ôl y dirprwy Brif Weinidog.

Dywedodd Huw Irranca-Davies fod angen i Lafur edrych ar eu ffordd o ymgyrchu a chynnal "ymgyrch gadarnhaol".

Daeth ei sylwadau ar raglen Politics Wales y BBC ddydd Sul, wedi i Lafur ddod yn drydydd yn isetholiad Caerffili yr wythnos hon, tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK.

Roedd Llafur wedi dal y sedd honno ym mhob etholiad Senedd a San Steffan ers canrif, ond dim ond 11% o'r bleidlais gafon nhw yno'r tro yma.

Fe wnaeth ymgeisydd Reform UK gyhuddo Llafur o ddefnyddio tactegau negyddol yn ystod yr isetholiad ac mae eraill wedi cwestiynu tôn yr ymgyrch.

Dywedodd Owain Williams, ymgyrchydd amlwg dros y Blaid Lafur ac wedi sefyll fel ymgeisydd drostynt yn y gorffennol, ei bod hi'n "ymgyrch negyddol" ac yn "edrych i'r gorffennol".

Angen 'edrych i'r dyfodol'

Dywedodd Owain Williams wrth BBC Cymru nad oedd yn credu "mai hwn oedd yr ymgyrch ore i ni ymladd - dim byd yn erbyn Richard Tunnicliffe, mae e'n foi arbennig ac yn ymgeisydd da iawn.

"Ond, oedd e'n ymgyrch negyddol braidd o be' weles i ac yn enwedig yn edrych i'r gorffennol.

"Dwi'n credu falle bod hwnna'n le cyfforddus i aelodau'r Blaid Lafur," meddai.

"Ond does dim diddordeb o gwbl sai'n credu, 'da unrhyw un normal yn hanes y Blaid Lafur - mewn ffilmiau o Aneirin Bevan, neu ryw deimlad fod gan Blaid Lafur gysylltiad arbennig 'da phobl Cymru.

"Sai'n credu fod hynna'n wir ac rwy'n credu dyle ni fod yn edrych lot mwy i'r dyfodol," meddai Mr Williams.

O ran ymateb y blaid i'r grasfa, ychwanegodd mai gosod rhaglen a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a "delivero yn y chwech mis nesa ar yr hyn sydd o fewn ein gallu yng Nghymru", fyddai Mr Williams yn hoffi ei weld.

Richard TunnicliffeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Richard Tunnicliffe yr ymgeisydd Llafur yng Nghaerffili ar noson yr isetholiad

Disgrifiodd un ffynhonnell Llafur yr ymgyrch fel un "boenus".

Y rheswm am hynny, meddai'r unigolyn, oedd defnyddio graffeg oedd yn awgrymu ei bod hi'n ras rhyngthyn nhw a Reform UK, pan oedd yr arolygon yn awgrymu mai Plaid Cymru oedd yn y sefyllfa orau i guro Reform.

Fe wnaeth ymgyrchu yn erbyn cynlluniau cynghorau Llafur i gau llyfrgelloedd yn yr ardal godi aeliau hefyd.

Cafodd llythyrau cyfreithiol eu hanfon at y blaid hefyd, ar ôl iddyn nhw bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu bod gan ymgeisydd y Blaid Reform, Llŷr Powell, gysylltiadau â Vladimir Putin.

Mae plaid Reform yn gwadu'r cyhuddiadau hynny yn gadarn. Cyfeirion nhw hefyd at lwgrwobrwyon a gafodd eu cymryd gan gyn-arweinydd y Blaid Reform.

Llafur 'ddim yn rhan ohoni'

Dywedodd Llyr Powell ar ôl y canlyniad, ei fod wedi derbyn bygythiadau i'w fywyd a'i fod wedi cael ei aflonyddu yn ystod yr ymgyrch a'i fod yn beio Llafur am hynny.

"Rwy'n siomedig iawn ac yn lwcus, mi welodd y pleidleiswyr trwy eu sarhad, eu hofn," meddai Mr Powell.

Ychwanegodd eu bod nhw yn "haeddu bod yn y gwter fel roedd eu hymgyrch yn perthyn".

Dywedodd Irranca-Davies fod angen i'r blaid arwain ag "ymgyrch gadarnhaol" a'u bod wedi "methu'n llwyr" a "siarad am y buddsoddiad yn yr etholaeth honno, ac mewn iechyd".

Dywedodd am ymgeisydd ei blaid, Richard Tunnicliffe: "Dydw i ddim yn meddwl y gallai Richard fod wedi gwneud mwy, a dweud y gwir... cafodd Llafur eu gwasgu allan o'r gystadleuaeth hon.

"Doedden ni ddim yn rhan ohoni mewn gwirionedd, ac o'r cychwyn cyntaf, pan ddaeth rhai o'r polau piniwn cynnar allan, roedd pobl yn gwneud dewis clir iawn, gan ddweud, sut ydym ni'n atal Reform?

"Rwy'n gobeithio bod yr hyn y byddwn yn gwneud wrth symud ymlaen nawr i fis Medi ar sail gadarnhaol ynglŷn yr hyn fydd y cynnig - beth yw ein record, amddiffyn yn erbyn cyni a'r hyn a wnaethom dros y 12 mis diwethaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig