ACau o blaid atal taro plant

  • Cyhoeddwyd

Mae mwyafrif Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pleidleisio o blaid yr egwyddor o wahardd rhieni rhag taro eu plant.

Ond yn ôl y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am ofal plant yng Nghymru, Gwenda Thomas, fydd gwaharddiad o'r fath ddim yn cael ei gyflwyno cyn 2016.

Wedi trafodaeth ar lawr y Cynulliad ddydd Mercher, pleidleisiodd 24 o blaid cynnig fyddai'n cael gwared â'r gallu i ddefnyddio "cosb gyfreithlon" fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod ar blentyn.

Roedd 15 wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig gydag 13 yn atal eu pleidlais.

Dywedodd Mrs Thomas fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rwystro cosbi plant yn gorfforol ond dywedodd fod angen rhoi cryn ystyriaeth i ddeddfwriaeth newydd.

Ychwanegodd ei bod hi yn cadw'r opsiwn i ddeddfu yn y dyfodol pe na bai modd sicrhau'r newidiadau "rydym am eu gweld drwy ddulliau eraill".

Cyn y drafodaeth fe alwodd Comisiynydd Plant Cymru am newid y ddeddf.

Dywedodd Keith Towler nad yw cosbi plant yn gorfforol yn gweithio.

"Plant yw'r unig bobl yn y Deyrnas Unedig sy'n gallu cael eu taro heb ganlyniad," meddai.

"Dylai plant gael yr hawl i'r un lefel o ddiogelwch ag oedolion."

Honnodd nad oedd disgyblu plant drwy eu cosbi'n gorfforol yn effeithiol ac y gallai wneud niwed corfforol ac emosiynol mewn rhai achosion.

Cyfeirio

Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, yr Aelod Seneddol Ceidwadol David Davies, wedi dweud cyn y drafodaeth y dylid cyfeirio'r mater at y Goruchaf Lys os y byddai ACau yn pleidleisio o blaid gwaharddiad.

Mewn llythyr at Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, dywedodd Mr Davies: "Er y gall newid y sefyllfa ym maes lles plant, y ddealltwriaeth yw na all y Cynulliad lunio deddfau troseddol."

"Dwi'n rhiant ac yn credu bod angen taro os yw pob dull arall o reoli ymddygiad wedi methu - neu os yw'r plentyn yn peryglu ei hun."

Cafodd y cynnig yn galw am ddeddfwriaeth fyddai'n newid y gyfraith ei gyflwyno gan grŵp amlbleidiol o bedwar AC.

Y pedwar oedd Christine Chapman a Julie Morgan o'r Blaid Lafur; Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams a Lindsay Whittle o Blaid Cymru.

Roedd mudiad yr NSPCC yn cefnogi'r cynnig.

Dywedodd Des Mannion, pennaeth gwasanaethau'r elusen yng Nghymru: "Rydyn ni o'r farn nad yw taro'n ffordd effeithiol nac adeiladol o ddelio ag ymddygiad gwael."

Dywedodd un o'r pedwar AC sydd wedi cyflwyno'r cynnig, bod y sail yn un syml.

"Mae'r gyfraith yn rhwystro oedolyn rhag cael ei daro gan berson arall," meddai Kirsty Williams cyn y bleidlais.

"Rydym yn galw am yr un peth ar gyfer plant."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol