Gallai ffermwyr golli 'miloedd o bunnau' wrth i brisiau llaeth ostwng

- Cyhoeddwyd
Mae Cadeirydd Pwyllgor Llaeth Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi rhybuddio y gallai rhai ffermwyr wynebu colled o "filoedd o bunnau" yn sgil gostyngiad i brisiau llaeth.
Yn ôl Brian Walters, sy'n godro rhwng 200-300 o wartheg yn Ffynnon-ddrain, Sir Gaerfyrddin, mae'r cwymp sydyn "yn drychinebus" wrth i rai prosesyddion gyhoeddi gostyngiad o hyd at 8c y litr.
Bwriad Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) 2024 a gafodd ei gyflwyno yn ddiweddar yw rhoi tryloywder i ffermwyr llaeth, ond mae UAC yn cwestiynu a yw'r rheoliadau yn cyflawni eu haddewid.
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn dweud eu bod yn cefnogi ffermwyr llaeth ac am weld "cadwyni cyflenwi teg a chytundebau tryloyw".
Pryder i ffermydd llaeth gyda diwedd cwmni cludo
- Cyhoeddwyd22 Medi 2023
'Plant â mwy o synnwyr na llunwyr polisïau llaeth'
- Cyhoeddwyd28 Medi 2022
Dyfodol ansicr i ffermwyr llaeth wrth i brisiau ostwng
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023
Ag yntau yn ei 70au, mae Brian Walters wedi gweld prisiau llaeth yn codi a gostwng ar hyd ei oes, ond mae'n disgrifio'r sefyllfa bresennol fel un "fregus" i ffermwyr llaeth Cymru.
Er ei fod wedi cael gwybod gan ei brosesydd llaeth ef mai gostyngiad o dair ceiniog y litr fydd yn ei wynebu, mae'n dweud fod rhai wedi cael gwybod am ostyngiad o hyd at 8c y litr.
"Yn ariannol, ni'n wynebu dod o 45c y litr, nôl i tua 42c y litr," meddai.
"Os bydd e'n gostwng, gwedwch 8c y litr, chi'n siarad am tua 15 i 20% o'r siec laeth.
"'Dw i ddim yn gwybod beth yw siec laeth pobl sydd lot yn fwy na ni ond chi'n siarad am filoedd o bunnau mewn buches. Mae'n dibynnu faint yw eu costau cynhyrchu nhw.
"Mae costau cynhyrchu yn ôl rhai ffigyrau dros 40c y litr. Os ydy'r llaeth yn mynd o dan 40c, wel mae 'na golled yn digwydd."

Yn ôl Brian Walters, sy'n ffermio yn Ffynnon-ddrain, Sir Gâr, mae'r cwymp sydyn "yn drychinebus"
Gyda ffermwyr yn gwerthu eu llaeth i brosesyddion gwahanol, mae'r gostyngiad sy'n eu hwynebu yn amrywio.
Yn gyffredinol, mae'r BBC ar ddeall bod y gostyngiadau i brisiau llaeth yn amrywio o 1.5 ceiniog y litr i hyd at wyth ceiniog y litr, yn ddibynnol ar brosesyddion unigol.
Er enghraifft, mae First Milk Limited wedi rhoi gwybod i'w haelodau y bydd pris litr o laeth yn gostwng 2c i 41.85c y litr o 1 Tachwedd 2025.
Dywedodd Mike Smith, is-gadeirydd y cwmni fod amodau masnachu'n parhau i fod yn heriol gydag anghydbwysedd cyflenwad a galw yn parhau i roi pwysau ar eu helw.
"Er mwyn sicrhau bod y pris llaeth rydym yn ei dalu yn parhau i fod yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy yn y tymor hir, mae'r addasiad hwn bellach yn angenrheidiol" meddai.
"Rydym yn cydnabod yn llawn bod hyn yn newyddion siomedig, yn enwedig wrth i ni symud i fisoedd y gaeaf. Fodd bynnag, gall aelodau fod yn sicr ein bod yn parhau i ganolbwyntio'n gadarn ar wneud y mwyaf o werth llaeth ein haelodau a sicrhau elw hirdymor i'w busnesau."

Mae Hufenfa De Arfon yn dweud nad oes ganddyn nhw ddewis ond codi prisiau
Yn yr un modd, mae Hufenfa De Arfon yn brosesydd arall sydd wedi gostwng pris llaeth 3.5cyl ar gyfer cyflenwad Tachwedd 2025 a phris llaeth sylfaenol o 38.50cyl, gyda rhybudd y bydd "gostyngiad ar lefel tebyg i ddilyn yn Rhagfyr hefyd".
Mewn llythyr at eu haelodau fe ddywedon nhw fod "cyflenwad llaeth cadarn yn parhau ym Mhrydain ac yn rhyngwladol ac mae hynny wedi achosi i stoc gaws gronni tra bod galw'r cwsmer wedi parhau'n wan".
"Fel yr eglurwyd, mae prisiau caws wedi gostwng dros £1,000 y dunnell ynghyd â phrisiau menyn a hufen," meddai'r hufenfa.
"Nid oes gennym ddewis ac mae'n rhaid i ni ddechrau adlewyrchu hyn yn ein pris llaeth o hyn ymlaen."
'Arnom ni mae'r bai ein bod ni'n gor-gynhyrchu'
Yn ôl ffigyrau AHDB dros Brydain, hyd at Hydref roedd 5.5 biliwn litr o laeth wedi ei gynhyrchu ar draws y DU, mae hynny 217 miliwn litr neu 5.2% yn fwy na'r un adeg y llynedd.
Mae Brian Walters ei hun yn cydnabod bod gorgyflenwad yn broblem.
"Mae'r galw yn dala yn eithaf da ond dyw e ddim wedi cadw lan gyda faint ry'n ni'n ei gynhyrchu," esboniodd.
"Ar ddiwedd y dydd, arnom ni fel ffermwyr mae'r bai bo' ni'n gor-gynhyrchu. Fi'n siŵr bydd rhaid i bobl edrych yn drylwyr ar ei busnes yn ystod y gaeaf 'ma a cutto nôl ar beth maen nhw'n ei wneud."
Serch hynny, mae'n gyndyn y dylai'r prosesyddion llaeth rhoi fwy o rybudd i ffermwyr, er mwyn gallu "trefnu eu busnes".
"Er bod rhai cwmnïoedd wedi rhybuddio yn fwy nag eraill. Mae'n drychinebus bo' ni'n gweld gymaint o gwymp ar un waith," ychwanegodd.

Mae UAC yn cydnabod bod amrywiadau yn y farchnad yn "anochel" ond bod y sefyllfa yn "codi cwestiynau ynghylch camau'r prosesyddion"
Bwriad Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) 2024 a gafodd eu gweithredu llynedd oedd gwella tegwch a thryloywder i sector laeth y DU.
O dan y rheoliadau, rhaid i brosesyddion ddilyn rheolau ynghylch telerau contract, cyfnodau rhybudd a mecanweithiau prisio.
Gellir adrodd am dorri rheolau i'r Dyfarnwr Cadwyn Gyflenwi Amaethyddol (ASCA), sydd â'r pŵer i osod dirwyon o hyd at 1% o drosiant cwmni.
Yn dilyn y cyhoeddiadau am ostyngiadau i brisiau llaeth gan brosesyddion, mae UAC yn cwestiynu a yw'r rheoliadau'n cyflawni eu haddewid i ffermwyr llaeth.
Maen nhw'n rhybuddio y gallai'r penderfyniadau diweddaraf hyn gan brosesyddion i dorri prisiau - gan gynnwys y toriadau ôl weithredol - godi cwestiynau am werth y fframwaith newydd.
"Rydym yn cydnabod bod amodau'r farchnad yn heriol a bod amrywiadau'n anochel," meddai Elin Jenkins, Swyddog Polisi UAC.
"Fodd bynnag, rhaid codi cwestiynau ynghylch camau'r prosesyddion a gwerth y Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg a gynlluniwyd yn benodol i hyrwyddo tryloywder ac amddiffyn cynhyrchwyr rhag arferion annheg."
Mae NFU Cymru hefyd yn atgyfnerthu'r ffigyrau, gan ddweud bod rhai ffermwyr wedi cael gwybod am ostyngiad o 18% ym mhris llaeth.
"Mae hyn yn creu'r 'prawf' go iawn cyntaf o'r rheoliadau," medden nhw.
"Byddwn yn monitro sut mae prynwyr llaeth yn cydymffurfio â nhw ac yn codi unrhyw bryderon gyda'r dyfarnwr".
Dywedodd llefarydd ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA): "Mae'r llywodraeth yma yn cefnogi ein ffermwyr llaeth ac am weld cadwyni cyflenwi teg a chytundebau tryloyw.
"Mae'r rheoliadau newydd yn sicrhau bod cytundebau yn glir fel bod ffermwyr yn deall sut mae prisiau yn cael eu gosod, ac wedyn mae'r Dyfarnwr Cadwyn Gyflenwi Amaethyddol yn gallu gweithredu pan nad yw cytundeb yn cyd-fynd a'r rheoliadau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.